
Adrodd straeon ar gyfer marchnata a recriwtio
Mae sylw'r cyfryngau i ofal cymdeithasol yn aml yn canolbwyntio ar pan fydd pethau wedi mynd o chwith. Mae hyn yn creu darlun anghytbwys sy'n cuddio'r straeon niferus am ofal a chefnogaeth dda.
Gall adrodd straeon chwarae rhan bwerus wrth herio ystrydebau negyddol ac annog pobl i weithio yn y sector. Gall straeon hefyd cael eu defnyddio i gefnogi recriwtio ar sail gwerthoedd, gan ddarparu senarios ystyrlon i bobl ymgysylltu â nhw a datgelu eu gwerthoedd.

Mae adrodd straeon yn arf bwerus ar gyfer recriwtio a chadw: gall ein helpu i ddod o hyd a chadw'r bobl gywir
Gofalwn Cymru: dathlu a hyrwyddo gofal cymdeithasol drwy straeon
Ysgrifennwyd gan Andrew Bell
Mae Gofalwn Cymru'n rhannu straeon gan bobl sy’n gweithio ac yn defnyddio gofal a chymorth. Mae'r rhain yn cael eu rhannu trwy fideo a geiriau. Maen nhw'n arddangos effaith gadarnhaol y rolau niferus mewn gofal ar gyfer y gweithiwr a'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi. Mae'r straeon hyn yn ganolbwynt i ymgyrchoedd a chyhoeddusrwydd mewn fformatau print, ar-lein a darlledu.
Darganfod mwy:
Curious about Care: defnyddio straeon wrth recriwtio
Ysgrifennwyd gan Mark Wilberforce
Offeryn recriwtio am ddim yw Curious about Care. Cafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Efrog ac mae'n defnyddio straeon bywyd go iawn o'r sector gofal. Mae yna 11 senario sy'n cynnwys 'penbleth gofal' ffuglennol. Mae pob sefyllfa realistig hyn yn rhoi darlun o realiti gwaith gofal ac yn sbarduno trafodaeth am sut i ddiwallu anghenion pobl. Gallan nhw hefyd amlygu a oes gan bobl y gwerthoedd cywir ar gyfer y swydd neu a oes ganddyn nhw anghenion sefydlu neu hyfforddi penodol.
Er bod yr offeryn wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio fel rhan o gwis cyflym i ymgeiswyr ei gwblhau ar eu ffonau, tabledi neu gyfrifiaduron, mae modd ei addasu mewn amrywiol ffyrdd. Er enghraifft, mae rhai recriwtwyr wedi defnyddio'r straeon animeiddiedig mewn cyfweliadau i ddechrau sgwrs. Mae'r animeiddiadau yn llai na munud o hyd, a drwy eu hanfon ymlaen llaw, gall ymgeiswyr gynllunio eu hymateb yn hytrach na chael eu 'rhoi yn y fan a'r lle'.
Darganfod mwy: