Skip to Main content

Fframwaith adrodd straeon ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru

“Rydyn ni i gyd yn storïwyr. Rydyn ni i gyd yn byw mewn rhwydwaith o straeon. Does dim cysylltiad cryfach rhwng pobl nag adrodd straeon.”

- Jimmy Neil Smith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Adrodd Storïau Rhyngwladol

Gwybodaeth am y fframwaith

Mae’r fframwaith hwn yn ganlyniad gwaith partneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a’r rhaglen Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i gefnogi ac annog y defnydd o ddulliau amrywiol o adrodd straeon.

Mae pobl yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol yn unigol ac ar y cyd drwy holl droeon bywyd. Mae gan systemau rheoli rôl bwysig mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond gallant ein gwthio tuag at ganolbwyntio ar brosesau a niferoedd, yn hytrach nag ar bobl a’u straeon (Pascoe et al 2023).

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth adrodd straeon

Gall adrodd straeon ein helpu i ymgysylltu â phobl a gall feithrin cysylltiad a dealltwriaeth. Gall straeon hefyd cael eu defnyddio wrth werthuso, dysgu a datblygu i gefnogi gweithrediad Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol o amgylch casglu a dysgu o brofiadau pobl a chanlyniadau personol.

Mae gan straeon y pŵer i hysbysu, ysbrydoli a herio trwy:

  • ein helpu i rannu profiadau, syniadau ac emosiynau
  • dod â phobl at ei gilydd a meithrin perthnasoedd
  • ein helpu i ddeall sut mae pobl yn gweld ac yn profi'r byd
  • gwneud syniadau a sefyllfaoedd cymhleth yn fwy cyfnewidiol a chofiadwy
  • cefnogi gwydnwch a llesiant mewn cyfnod heriol.

Fframwaith adrodd straeon: sylfaen arfer moesegol, tri philer o ymarfer adrodd straeon a tho o fuddion sy'n cwblhau'r strwythur

Beth sydd wedi ei gynnwys yn y fframwaith

Mae gan bob un ohonom ein straeon o dristwch, llawenydd, profiad, gobaith a newid. Gall adrodd straeon chwarae llawer o rolau wrth wella bywydau a sefydliadau, p’un a ydych chi’n ymarferwr, rheolwr neu rhywun sy’n cyrchu gofal a chymorth. Nod y fframwaith hwn yw helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i osod adrodd straeon wrth galon eu gwaith.

Gall fod yn ddefnyddiol i edrych ar y fframwaith adrodd straeon fel adeilad sydd wedi’i adeiladu â:

Cyfeirnodau - Cliciwch i ehangu

Pascoe, K., Waterhouse-Bradley, B. a McGinn, T. (2023) Social Workers’ Experiences of Bureaucracy: A Systematic Synthesis of Qualitative Studies, The British Journal of Social Work, 53, (1), tt. 513–533.