
Adrodd straeon ar gyfer dysgu a datblygu
Mae straeon yn ysgogiad ardderchog ar gyfer siarad a dysgu gyda'n gilydd. Mae'r enghreifftiau yn yr adran hon yn dangos rhai dulliau defnyddiol.

Mae llawer o ffyrdd y gallwn ni ddefnyddio dulliau adrodd straeon i helpu pobl i ddysgu a datblygu eu sgiliau
Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans
Ysgrifennwyd gan Emily Underwood-Lee
Cafodd y Ganolfan, sydd ym Mhrifysgol De Cymru, ei sefydlu yn 2005. Dyma ganolfan ymchwil academaidd hynaf y DU sy'n ymroddedig i astudio adrodd straeon a'i chymwysiadau.
Mae’r Ganolfan wedi tyfu i fod yn ganolbwynt ymchwil sefydledig gydag effaith fyd-eang ar ddeall adrodd straeon - a defnydd a gwerth adrodd straeon o ran clywed lleisiau ymylol, deall profiadau, ac fel offeryn ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol.
Mae'r Ganolfan yn croesawu ysgolheigion ar bob lefel ac yn cynnal cymrodyr gwadd yn rheolaidd, gyda chymuned gynyddol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae gennym raglen barhaus o weithgareddau gan gynnwys cynadleddau blynyddol, symposia, seminarau, a digwyddiadau. Mae ein Rhwydwaith Ymarfer Myfyriol Adrodd Storïau yn grŵp ar-lein ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn, neu sy’n gweithio gyda, naratifau personol, o fewn lleoliadau datblygu cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi Casglu: gofod coffi-a-sgwrs rheolaidd ar-lein ar gyfer storïwyr, pobl sy'n gweithio gyda stori, a'r rhai y mae eu hymarfer yn gorgyffwrdd ag adrodd straeon ar lafar.
Darganfod mwy:
Eiliadau Hud/Trasig
Ysgrifennwyd gan Nick Andrews
Mae Eiliadau Hud/Trasig yn ddull adrodd stori o ddysgu a datblygu, sy'n seiliedig ar Gydgynllunio ar Sail Profiad (EBCD) (Bate a Robert, 2007). Mae'n cynnwys casglu ac archwilio straeon byrion o brofiad ar y cyd, gyda ffocws ar yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau.
Mae'r straeon yn gallu cael eu casglu oddi wrth ymarferwyr a'r bobl y maen nhw'n eu ceefnogi. Yna, bydd y straeon yn cael eu trafod a'u harchwilio mewn grwpiau, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n eu gwneud yn 'hud' neu'n 'drasig' a'r goblygiadau ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer.
Darganfod mwy:
Mae rhagor o fanylion am y dull hwn yn Llawlyfr DEEP sydd ar gael ar ein tudalen: Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).
Newid Mwyaf Arwyddocaol
Ysgrifennwyd gan Nick Andrews
Mae Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) yn ddull dysgu ac adrodd straeon er mwyn gwerthuso. Mae wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio mewn gwasanaethau, prosiectau neu raglenni sy'n canolbwyntio ar newid (Davies a Dart, 2005). Mae straeon am newid yn cael eu casglu dros gyfnod penodol o amser ac maen nhw'n dilyn strwythur penodol:
- wrth feddwl yn ôl dros y _ mis diwethaf, pa newidiadau da neu ddrwg sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r gwasanaeth/prosiect/rhaglen?
- o'r newidiadau hyn, pa un yw'r mwyaf arwyddocaol i chi a pham?
- ynglŷn â'r newid mwyaf arwyddocaol hwn, a allwch chi ddisgrifio sut brofiad oedd e o'r blaen, sut beth yw e nawr a beth ddaeth â'r newid i fodolaeth?
- rhowch deitl bachog i'ch stori.
Gall ddetholiad o straeon MSC cael ei archwilio a'i drafod mewn Paneli Dewis Stori, sy'n cynnwys unigolion sydd â phwerau gwneud penderfyniadau strategol a rhanddeiliaid eraill. Mae'r paneli hyn yn siarad am y straeon. Maen nhw'n cynhyrchu adroddiad sy’n rhannu pa stori oedd y mwyaf arwyddocaol iddyn nhw, beth maen nhw wedi’i ddysgu o’r holl straeon a’r goblygiadau ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer. Gall y straeon cael eu harchwilio mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, gall dadansoddiad ansoddol archwilio pa themâu sy'n bresennol yn y straeon.
Darganfod mwy:
Mae rhagor o fanylion am y dull hwn yn Llawlyfr DEEP sydd ar gael ar ein tudalen: Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP).
Ymholiad Gwerthfawrogol
Ysgrifennwyd gan Roger Rowett
Mae Ymholiad Gwerthfawrogol (AI) yn ddull sy’n gwerthfawrogi’r gorau mewn sefydliad, grŵp neu unigolyn. Mae'n tarddu o seicoleg gadarnhaol, adrodd straeon, ac egwyddorion megis y gred ein bod yn adeiladu ein delwedd o'r byd trwy ein rhyngweithio ag eraill. Mae gan AI fethodoleg adnabyddus o'r enw cylchred 5D sy'n mynd â phobl trwy broses:
- diffinio
- darganfod
- breuddwydio
- dylunio
- tynged.
Mae AI yn cael ei roi ar waith ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd, a llawer o wahanol sefydliadau.
Darganfod mwy:
Adrodd Cymunedol
Ysgrifennwyd gan Hayley Trowbridge
Mae Adrodd Cymunedol yn ddull adrodd straeon digidol rhwng cymheiriaid sy’n cefnogi cyfranogiad pobl mewn prosesau ymchwil, llunio polisïau, datblygu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau. Mae'n helpu pobl i adrodd eu straeon eu hunain, yn eu ffyrdd eu hunain trwy destun, ffotograffau, sain a fideo.
Mae tri cham i adrodd cymunedol:
- hel straeon: cefnogi pobl i rannu straeon am bynciau sydd o bwys iddyn nhw
- curadu straeon: nodi'r mewnwelediadau allweddol mewn set o straeon a phecynnu'r canfyddiadau
- cynnull straeon: cysylltu mewnwelediadau stori â phobl sydd mewn sefyllfa i wneud newid.
Mae Adrodd Cymunedol yn fframwaith ar gyfer trawsnewid straeon pobl yn newid byd go iawn. Gallwch chi ddarganfod mwy am y dull ar yr animeiddiad hwn: https://www.youtube.com/watch?v=ILRvHwHEKzY
Mae People's Voice Media wedi bod yn datblygu'r dull hwn o adrodd straeon digidol ers 2007 ac yn adeiladu cymuned o bobl a sefydliadau o'i gwmpas. Mae'r Rhwydwaith Gohebwyr Cymunedol bellach yn rhychwantu'r DU ac Ewrop. Mae ganddo fwy na 50 o sefydliadau partner gweithredol o wahanol sectorau ym meysydd polisi, ymchwil a gwasanaethau, ac mae wedi hyfforddi dros 2,000 o Ohebwyr Cymunedol.
Darganfod mwy:
https://www.youtube.com/watch?v=VjOTRmIyS8M
Y Labordy Arferion Naratif
Adrodd straeon am iechyd a salwch
Ysgrifennwyd gan Laura Mazzoli-Smith
Mae'r Labordy Arferion Naratif (The Narrative Practices Lab) yn rhan oo'r Llwyfan Ymchwil Darganfod ar gyfer y Dyniaethau Meddygol yn Sefydliad y Dyniaethau Meddygol ym Mhrifysgol Durham. Mae'n fenter saith mlynedd sy'n defnyddio arferion adrodd straeon a naratif mewn cyd-destun iechyd.
Mae ymchwilwyr yn gweithio gyda straeon digidol ac yn archwilio sut mae adrodd straeon yn dod yn dystiolaeth mewn ymchwil a gofal iechyd. Mae’r straeon yn cyflwyno’r gwahanol elfennau o brofiad byw (er enghraifft, y profiad meddygol, cymdeithasol a diwylliannol).
Mae gwaith y Labordy yn dwyn straeon personol a chymunedol ynghyd i herio anghydraddoldebau a strwythurau pŵer presennol.
Darganfod mwy:
Lleisiau Cleifion
Ysgrifennwyd gan Pip Hardy
Cafodd Patient Voices ei sefydlu yn 2003 gan Pip Hardy a Tony Sumner. Mae'n defnyddio adrodd straeon digidol fel platfform ar gyfer straeon person cyntaf.
Roedd sefydlu’r rhaglen yn ffordd i greu cydbwysedd pŵer rhwng darparwyr gofal iechyd a'r bobl sy'n cael mynediad at wasanaethau. Ac yn roi cyfle i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddeall anghenion cleifion a theuluoedd. Mae'n grymuso ac yn argyhoeddi yn well na arolygon ac ystadegau sych.
Erbyn hyn mae tua 1000 o straeon ar y wefan, pob un ar gael am ddim i'w defnyddio mewn mentrau gwella addysg a gwasanaethau. Mae'r rhaglen Patient Voices wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys gwobr y British Medical Journal am ragoriaeth mewn addysg gofal iechyd.
Darganfod mwy:
Cyfeiriadau -
Bate P a Robert G. (2007) Bringing User Experience to Healthcare Improvement: The Concepts, Methods and Practices of Experience-Based Design, Abingdon: Radcliffe.
Davies, R. a Dart, J. (2005) The Most Significant Change (MSC) Technique: A guide to its use, ar gael yn https://www.mande.co.uk/wp-content/uploads/2005/MSCGuide.pdf (cyrchwyd: 18 Rhagfyr 2024)