
Cyflwyniad i Python
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn apelio at unrhyw un sydd am ddysgu Python heb unrhyw wybodaeth flaenorol yn ogystal â'r rhai sydd â gwybodaeth sylfaenol am Python sydd am ddeall yn llawn sut mae'r iaith sylfaenol yn gweithio. Bydd y cwrs hefyd yn addas i'r rhai sydd eisiau gwybod a deall y pecyn Pandas a'r defnydd o DataFrames yn Python.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae Python yn iaith raglennu lefel uchel wedi'i dehongli ar gyfer rhaglennu cyffredinol sy'n dod yn iaith ddewisol i lawer o ddadansoddwyr data. Cyflwyniad yw'r cwrs hwn i iaith raglennu Python. Trwy ddefnyddio deunydd a addysgir ac enghreifftiau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen i berfformio dadansoddiad data gan ddefnyddio Python.
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno dros 2 sesiwn foreol. Bydd yn rhoi'r ddealltwriaeth sylfaenol o Python i'r dysgwr i'w ddefnyddio i drin a gweithio gyda data. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan gyfranogwyr wybodaeth ymarferol dda o Python, gan ganiatáu iddynt drin data gan ddefnyddio pandas.
Tagiau sgiliau:
- data
- ystadegau
- dadansoddi data
- python