Skip to Main content

Fframwaith adrodd stori ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru

Llun addurniadol yn dangos pobl yn sgwrsio o amgylch coelcerth

“Rydyn ni i gyd yn storïwyr. Rydyn ni i gyd yn byw mewn rhwydwaith o straeon. Does dim cysylltiad cryfach rhwng pobl nag adrodd stori.” - Jimmy Neil Smith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Adrodd Stori Rhyngwladol

Addurniadol: yn dangos graffeg o adeilad gyda sylfaen, to a tri philer (sy'n edrych fel pobl)

Fframwaith adrodd stori: sylfaen arfer moesegol a thri cholofn yn cynrychioli defnyddio adrodd stori mewn ymarfer

Sut mae adrodd stori yn fy helpu o ran bywyd a gwaith?

Drwy adrodd stori rydyn ni'n gwneud synnwyr o'r byd sydd ohoni ac yn cysylltu gyda phobl eraill. 

Gallwn ni ddefnyddio stori mewn sawl ffordd o fewn gofal cymdeithasol ac iechyd, er enghraifft:

  • adeiladu perthnasoedd a dealltwriaeth trwy gyd-gynhyrchu
  • helpu pobl i ymgysylltu â thystiolaeth a dysgu ohono
  • cefnogi unigolyn neu dîm wynebu heriau
  • deall beth yn union sy'n digwydd (gall hyn fod yn berthnasol i bobl a sefydliadau)
  • dangos effaith y gwaith
  • dathlu ymarfer a denu a recriwtio'r bobl iawn, yn ogystal â'u cadw.
Llun addurniadol yn dangos gwely gwag yn yr awyr agored, gyda chymylau ac enfys

"Rydyn ni, fel rhywogaeth, yn gaeth i stori. Hyd yn oed pan aiff y corff i gysgu, mae'r meddwl yn aros i fyny drwy'r nos, gan adrodd straeon iddo'i hun." - Jonathan Gotschall, The storytelling animal (2013)

Darllen ychwanegol

Mae cyfranwyr ac arbenigwyr eraill wedi rhannu eu darllen angenrheidiol gyda ni ac mae rhestr gyffredinol i'w gael yma. Mae mwy o gyfeiriadau ar gael ar rai o dudalennau eraill y fframwaith, lle bo hynny'n berthnasol. Nodwch bod cyfeiriadau sydd yn y testun ei hun i'w gweld yn y rhestr Cyfeiriadau y gallwch chi glicio i'w ehangu.

 

Bamberg, M. a Georgapoulou, A. (2008) ‘Small stories as a new perspective in narrative and identity analysis’ Text & Talk - An Interdisciplinary Journal of Language, Discourse Communication Studies, 28 (3), tt. 377–396, ar gael yn https://www.researchgate.net/publication/250975699_Small_Stories_as_a_New_Perspective_in_Narrative_and_Identity_Analysis (cyrchwyd: 4 Ebrill 2025).

De Fina A. a Georgakopoulou, A. (gol.) (2019) The Handbook of Narrative Analysis, Chichester, Wiley Blackwell. 

Gersie, A. (1991) Earthtales: Storymaking in times of change, Portland, Greenprint. 

Hydén, L. C. a Antelius, E. (2011) Communicative disability and stories: towards an embodied conception of narratives,  Health London, 15 (6), tt. 588-603, doi: 10.1177/1363459310364158. 

Milford, A. (2021) Using storytelling to talk about health and self care, Practical Pre-School Books.

Ochs, E. a Capps, L. (2001) Living narrative: creating lives in everyday storytelling, Cambridge, MA, Harvard University Press.

Reese, E. (2013) Tell me a story: Sharing stories to enrich your child’s world, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen. 

Thompson, T.L. a Harrington, N.G.  (2021) The Routledge Handbook of Health Communication (third edition), Rhydychen, Routledge, doi.org/10.4324/9781003043379.

Underwood-Lee, E. a Thimbleby, P. (2019) 'Storytelling for Health', Storytelling, Self, Society, 15 (1), tt. 1-12.

Underwood-Lee, E., Hudson, J. a Williams, A. (2025) 'Storytelling and Aging', Storytelling, Self, Society, 19 (1), tt. 1-8. 

Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Gotschall, J. (2013) The Storytelling Animal: How Stories Make Us Human, Efrog Newydd, Houghton Mifflin Harcourt.

Pascoe, K., Waterhouse-Bradley, B. a McGinn, T. (2023) Social Workers’ Experiences of Bureaucracy: A Systematic Synthesis of Qualitative Studies, The British Journal of Social Work, 53, (1), tt. 513–533.