Skip to Main content

Defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer

Ydych chi’n ymarferydd gofal cymdeithasol, yn rheolwr, yn gomisiynydd, yn ddarparwr gofal, yn gweithio yn y trydydd sector neu’n ymwneud ag ymchwil gofal cymdeithasol?  Gallwn ni eich helpu i wneud penderfyniadau sy’n cael eu cyfoethogi gan dystiolaeth.

Rydyn ni’n cefnogi ymarfer drwy wneud y canlynol:

  • rhannu gwybodaeth sy’n ddefnyddiol ac yn berthnasol
  • cyflwyno ymchwil a thystiolaeth gallwch chi eu defnyddio yn eich ymarfer
  • cynnig cyfleoedd i roi sgiliau ymchwil ar waith a defnyddio tystiolaeth.

Sut gallwn ni eich cefnogi?

Yn yr adran hon fe welwch chi wybodaeth am sesiynau a fydd yn gallu eich helpu chi i ddefnyddio gwybodaeth wrth ymarfer.

Mae’r sesiynau’n agored i bawb a’u nod yw:

  • sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch ac yn ddiddorol
  • helpu chi i fagu hyder wrth ddefnyddio ymchwil mewn ymarfer
  • rhoi sylw i bynciau y mae ymarferwyr yn dweud y maen nhw eisiau gwybod mwy amdanynt.

Myfyrio ar dystiolaeth

Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer ymarferwyr gan aelodau o’n tîm sydd â phrofiad o ymarfer. 

Mae’r fformat yn syml. Rydyn ni’n trafod darn o ymchwil neu grynodeb tystiolaeth. Mae'n hawdd addasu’r dull i’w ddefnyddio’n ymarferol a gallwn ni ddarparu cymorth gyda hynny hefyd.

Cymuned ymholi

Rydyn ni’n hwyluso’r sesiynau hyn mewn partneriaeth â chyd-weithwyr o’r tîm Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP). Mae ymchwilwyr yn darparu sbardun cychwynnol y gall cyfranogwyr wedyn ei archwilio a'i drafod.

“Bendant wedi fy annog i feddwl yn ddyfnach a meddwl am syniadau ar y cyd.” - Cyfranogwr, sesiwn Cymuned Ymholi

Sgyrsiau ymchwil

Rydyn ni’n gwahodd ymchwilydd academaidd i gyflwyno pwnc ymchwil. Wedyn mae cyfle i gyfranogwyr ryngweithio a myfyrio ar yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu.

Sgiliau ymchwil

Rydyn ni wedi datblygu cyfres o weithdai sy'n helpu pobl i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer. 

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyflwyniad i sgiliau ymchwil sylfaenol, cael gafael ar ymchwil, deall gwahanol fathau o ymchwil, a sut i'w defnyddio mewn ymarfer. Gall pobl ddod i bob sesiwn yn ei thro, neu ymuno â sesiynau unigol, yn dibynnu ar eu hanghenion.

Gallwn ni hefyd gefnogi’r defnydd o dystiolaeth mewn meysydd penodol sydd o ddiddordeb, neu faterion ymarfer penodol.

Cymorth wedi’i deilwra

Gallwn ni hefyd gynnig cymorth mwy pwrpasol i’ch tîm neu sefydliad ar draws ystod o bynciau sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol.  Ein nod yw ymateb i anghenion ymarfer ac anghenion eich tîm neu eich sefydliad. Mae hyn yn golygu meddwl am ffyrdd newydd a chreadigol o rannu gwybodaeth.

Sioeau teithiol ymchwil

Nod ein sioeau teithiol ymchwil yw hyrwyddo gwerth ymchwil a rhannu sut mae’n gallu bod yn berthnasol i ymarfer gofal cymdeithasol. 

Rydyn ni’n mynd yn uniongyrchol at awdurdodau lleol ledled Cymru, er mwyn lleihau costau a chynyddu amser.

Ein dull gweithredu

Rydyn ni’n dod â nifer fach o ymarferwyr ac ymchwilwyr dethol at ei gilydd i ddarparu sesiynau byr, rhyngweithiol ac ymarferol sy’n:

  • rhoi cyfle i ymarferwyr gysylltu ag ymchwilwyr ynghylch pynciau penodol
  • cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru
  • creu lle i fyfyrio ar sut i roi gwybodaeth ymchwil ar waith mewn ymarfer. 

“Sesiwn llawn ysbrydoliaeth. Da gweld sut mae modd defnyddio ymchwil mewn ymarfer.” - Cyfranogwr, Sioe deithiol ymchwil

Ein tîm symudedd gwybodaeth

Er ein bod ni’n defnyddio’r term ‘symudedd gwybodaeth’ i ddisgrifio ein tîm, mae ein cynnig wedi cael ei ddatblygu gan bobl â phrofiad ymarfer sy’n ‘defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer’. Er y bydd pobl yn defnyddio termau gwahanol o bosib, mae'r gwaith ei hun yn seiliedig ar ddull perthynas. Yn ei hanfod, mae'n golygu ymgysylltu ystyrlon, cyfranogiad y defnyddiwr a gweithio tuag at ddefnyddio tystiolaeth i gael effaith. 

Rydyn ni’n cysylltu ymchwil academaidd â phobl sy'n gwneud penderfyniadau tu fas i'r byd academaidd, gan gynnwys pobl sy'n ymwneud â pholisi cyhoeddus ac ymarfer proffesiynol. Yn ogystal ag ymchwil academaidd, mae rhannu gwybodaeth yn cynnwys tystiolaeth sy'n seiliedig ar ymarfer hefyd. Mae hyn yn golygu defnyddio tystiolaeth gan bobl sy’n darparu ac yn defnyddio gwasanaethau, eu gofalwyr a’u rhwydwaith cymorth ehangach.

Mae symudedd gwybodaeth yn golygu defnyddio gwybodaeth wrth ymarfer: gan wneud tystiolaeth yn hygyrch, yn glir ac yn ddefnyddiol i'r rhai sydd ei hangen

Sut gall symudedd gwybodaeth eich helpu yn eich ymarfer?

Mae’r dull yn gallu helpu i wneud y canlynol:

  • dod â phobl ynghyd
  • archwilio a defnyddio tystiolaeth mewn ffyrdd creadigol a chynhwysol
  • cefnogi gweithio amlddisgyblaethol
  • mynd i’r afael â heriau ymarfer a dylanwadu ar newid
  • gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth!

Symudedd gwybodaeth:

Sioeau teithiol ymchwil:

Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol:

Cwrdd â'r tîm

Rachel Scourfield

Rachel Scourfield

Rheolwr symudedd gwybodaeth

Rwy'n arwain y tîm symudedd gwybodaeth. Rydyn ni'n cefnogi ymarferwyr, timau a sefydliadau i gyrchu ac ystyried ymchwil a thystiolaeth i gefnogi eu penderfyniadau, eu datblygiad a’u gwaith. Rydyn ni'n dod â phobl ynghyd trwy ein cymunedau a gwaith partner i helpu i ddefnyddio, cymhwyso a chynhyrchu ymchwil a thystiolaeth yn ymarferol. Mae ein cymunedau'n fannau i bobl rannu eu gwybodaeth a’u syniadau ac i ddysgu gan eraill, gan greu perthnasoedd ar draws gwahanol sectorau ledled Cymru. Rwyf erioed wedi ceisio defnyddio tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ac ymarfer. 

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, fues i'n weithiwr cymdeithasol am 23 mlynedd yn arbenigo mewn chamddefnyddio sylweddau. Gweithiais mewn tîm triniaeth aml-asiantaeth i oedolion, ac fel gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol yn y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Roedd y rôl hon yn cefnogi dull teuluol dwys o fynd i'r afael â defnydd rhieni o sylweddau. Mae gennyf hefyd brofiad o sicrhau cyllid y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn llwyddiannus i weithio tuag at sefydlu ymchwil fel rhan o wasanaethau oedolion o fewn awdurdod lleol.

Sarah Atkinson

Sarah Atkinson

Cydlynydd tystiolaeth ac ymgysylltu

Rwy'n gweithio fel rhan o'r tîm symudedd gwybodaeth. Rydyn ni’n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddefnyddio, a chynnal ymchwil yn ymarferol, cynllunio a llunio polisïau. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy adeiladu perthnasoedd, cymunedau a gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo'r defnydd o ymchwil a thystiolaeth. Mae fy rolau blaenorol yn cynnwys gwaith ymgyrchu, ymarfer sy'n seiliedig ar hawliau, polisi, a datblygu a darparu gwasanaethau. Dechreuodd fy niddordeb mewn ymchwil tra oeddwn i’n gweithio gyda phobl hŷn.

Mae gen i radd meistr mewn dulliau ymchwil o Brifysgol Caerdydd. Rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Cymru a'r Alban gyda ffocws ar ymarfer a datblygiad gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau. Tu fas i’r gwaith, rwy'n mwynhau bod yn rhan o grŵp darllen a mynd ar daith yng Nghymru a thu hwnt.

Emma Taylor-Hill

Emma Taylor-Hill

Arweinydd symudedd gwybodaeth

Rwy’n Arweinydd Symudedd Gwybodaeth ac yn rhan o’r tîm Ymchwil, Data ac Arloesi yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Mae fy rôl yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd o gefnogi pobl i roi tystiolaeth ar waith, a chysylltu’r bydoedd ymarfer ac ymchwil fel y gallwn ni wneud synnwyr o dystiolaeth gyda’n gilydd. 

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, roeddwn yn gweithio i awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin yn y tîm hyfforddi a datblygu. Fy hoff rannau o’r rôl honno oedd gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a hefyd rhedeg grŵp Ymchwil ar Waith.

Kate Howson

Kate Howson

Uwch arweinydd partneriaeth (ymchwil)

Fel uwch arweinydd partneriaeth ar gyfer umchwil o fewn y tîm symudedd gwybodaeth, fy mhrif nod yw chwilio, adeiladu a chynnal perthnasoedd a gweithgareddau sy'n cefnogi'r defnydd o ymchwil mewn ymarfer a pholisi mewn gofal cymdeithasol. Rwy'n gweithio'n agos gydag ymchwilwyr, sefydliadau ymchwil ac ymarferwyr ledled Cymru i helpu i gefnogi gweithredu ymchwil cyfredol. 

Rwy'n helpu i sicrhau bod ymarfer yn cael ei gyfoethogi gan ymchwil a thystiolaeth, a bod ymchwil yn ymateb i anghenion y rhai sy'n defnyddio gofal cymdeithasol. Rwy'n nodi meysydd ar gyfer cydweithredu rhwng sefydliadau, i ddarparu cyfleoedd adeiladu sgiliau ymchwil i ymarferwyr allu cynnal eu hymchwil eu hunain yn ymarferol.