Canllaw: cefnogi diwylliannau cadarnhaol
Dyddiad diweddaru diwethaf: 9 Meh 2025
Mae’r canllaw hwn yn egluro egwyddorion diwylliant cadarnhaol a pham eu bod yn bwysig. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at adnoddau, rhaglenni a dulliau i’ch helpu i ddefnyddio’r egwyddorion.
Mae’r canllaw wedi’i ysgrifennu gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Defnyddiwch y ddau ddewislen i lywio trwy'r canllaw, neu gallwch chi lawrlwytho'r canllaw isod ar ffurf PDF.
Lansio’r canllaw
Daeth dros 220 o ymarferwyr, arweinwyr a phartneriaid o bob cwr o Gymru i weminar arbennig i lansio’r canllaw diwylliannau cadarnhaol.
Yn y gweminar, rhannodd ymarferwyr ac arweinwyr eu profiadau a'u heriau ar adeiladu diwylliannau cadarnhaol. Tynnodd pob un sylw at yr angen cynyddol am fwy o gyfleoedd i weithio gyda'i gilydd a rhannu dysgu ar draws y sector.
Dilynwch y ddolen yma i wylio’r gweminar ac i ddysgu sut gallwch chi ein helpu i gefnogi ein gwaith yn siapio diwylliannau cadarnhaol yng ngofal cymdeithasol.
Cysylltwch â ni
Hyrwyddwn ddiwylliannau cadarnhaol ym mhob rhan o’n gwaith.
Hoffwn wybod beth yr ydych chi’n ei wneud i gefnogi diwylliant cadarnhaol, a hefyd eich barn am y canllaw hwn.
Gallwch rannu unrhyw ddysgu, myfyrdodau a syniadau am wella drwy e-bostio: diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru