
Cwrs Catalydd DEEP (10 sesiwn)
Arwain dysgu a datblygu gan ddefnyddio tystiolaeth: Cwrs Catalydd DEEP.
Mae 20 lle ar gael ar y cwrs. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar stori a deialog.
Arwain y defnydd o dystiolaeth mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid.
Gall arwain rhaglenni dysgu, datblygu a thrawsnewid fod yn heriol ym myd gwasanaethau cyhoeddus fel gofal cymdeithasol. Gall ymagweddau traddodiadol at gynllunio sy'n tybio bod y byd yn rhesymegol ac yn rhagweladwy fod yn fyr o'u cymhwyso i sefydliadau dynol. Er bod galw cryf am arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae angen croesawu a pharchu ffactorau cyd-destunol.
Mae DEEP yn ddull sy’n canolbwyntio ar bobl, yn berthynol ac yn ymatebol sy’n defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth. Mae'n ymateb i gyd-destun, yn ogystal ag anghenion sy'n dod i'r amlwg, ac yn ceisio dod â'r gorau allan mewn pobl. Mae dull DEEP yn cyflawni'r nodau hyn trwy gymhwyso ystod o egwyddorion a dulliau ymarferol.
Beth fydd y cwrs hwn yn cynnwys
Mae'r cwrs 30 awr hwn wedi'i wasgaru dros ddeg sesiwn tair awr. Mae'r cwrs yn rhoi dealltwriaeth fanwl i'r rhai sy'n mynychu o'r egwyddorion sy'n sail i ddull DEEP. Mae'n darparu sgiliau mewn dulliau ymarferol a ddefnyddir yn y dull DEEP i gasglu, rhannu a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid.
Pwy fyddai'n elwa o'r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer pobl a hoffai ddefnyddio a rhannu egwyddorion a dulliau DEEP gydag eraill sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae'n arbennig o berthnasol i bobl sydd â rolau arweiniol ym maes gofal cymdeithasol mewn dysgu, datblygu a thrawsnewid. Efallai y bydd pobl sy'n ymwneud â chasglu a defnyddio tystiolaeth hefyd yn gweld y cwrs yn ddefnyddiol.
Dyddiadau’r sesiynau:
Sesiwn 1 – 29 Ebrill
Sesiwn 2 - 6 Mai
Sesiwn 3 - 13 Mai
Sesiwn 4 - 20 Mai
Sesiwn 5 - 3 Mehefin
Sesiwn 6 - 12 Mehefin
Sesiwn 7 - 17 Mehefin
Sesiwn 8 - 24 Mehefin
Sesiwn 9 - 1 Gorffennaf
Sesiwn 10 - 15 Gorffennaf
Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.
Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk