
DEEP - Archwilio ffyrdd creadigol o gasglu straeon Newid Mwyaf Arwyddocaoll (MSC)
Archwilio ffyrdd creadigol o gasglu straeon Newid Mwyaf Arwyddocaoll (MSC)
Dydd Iau 2 Hydref 2025, 10am i 1pm (ar-lein trwy Zoom)
Beth yw’r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at ddod â phobl ynghyd sydd yn rhannu diddordeb yn y defnydd o'r Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC) mewn gwerthuso sy'n canolbwyntio ar ddysgu. Bydd yn canolbwyntio ar agwedd casglu straeon y dull MSC.
Mae straeon MSC yn cael eu casglu gan fwyaf mewn fformat ysgrifenedig. Ond mae ffyrdd eraill o gasglu a chyflwyno straeon sy'n tynnu ar y celfyddydau creadigol. Gall y dulliau hyn ychwanegu at bŵer ac effaith y straeon sy'n cael eu rhannu; ond gallan nhw hefyd wneud y broses casglu straeon yn fwy hygyrch i bobl a allai gael trafferth rhannu mewn fformatau ysgrifenedig mwy confensiynol.
Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos enghreifftiau o arferion creadigol mewn casglu straeon MSC ac yn darparu gofod i fyfyrio a dysgu gyda'n gilydd.
Pwy all fynychu?
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb.
Beth sydd yn y rhaglen?
Bydd siaradwyr a chyflwyniadau’n cynnwys:
- Lorna Easterbrook ac Imogen Blood 'Defnyddio lluniau, theatr cranky a ffyrdd creadigol eraill i gasglu straeon MSC'
- Teti Dragas 'Creu straeon MSC fel straeon digidol'
- Mark Robinson ac Angela Rogers 'Archwilio potensial barddoniaeth a ffyrdd creadigol eraill wrth gasglu straeon MSC'.
I gofrestru ac archebu eich lle, ewch i: DEEP by Social Care Wales / Gofal Cymdeithasol Cymru | Eventbrite