
Dod o hyd i'r cymorth cywir: sesiynau galw heibio arloesedd gyda staff arloesedd a gwella Gofal Cymdeithasol Cymru
Dewch i ddarganfod sut y gallwn ni eich cefnogi i ddatblygu a gwella eich ymarfer a'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu.
Yn ystod mis Medi a mis Hydref byddwn ni'n cynnal cyfres o sesiynau galw heibio i roi mwy o wybodaeth i chi am sut rydyn ni'n cefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol.
Yn y sesiynau anffurfiol hyn, bydd ein staff arloesedd a gwella wrth law i gynnig cyngor a'ch cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth yn y sefydliad.
Ar gyfer pwy mae'r sesiynau hyn
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac sydd â diddordeb yn y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i ddatblygu a gwella ymarfer a gwasanaethau.
Efallai bod gennych chi broblem neu syniad penodol hoffech chi gael cymorth ag ef, ond ddim yn gwybod pa un o’n gwasanaethau sy’n iawn i chi. Neu efallai hoffech chi gael gwybod mwy am gynnig cymorth penodol.
Gall ein staff eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth rydych chi’n chwilio amdano.
Yn ystod y sesiwn yma, bydd gyfle i gwrdd â:
Angharad Dalton, Rheolwr Anogaeth Arloesedd – Mae Angharad yn arwain ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, sy'n roi mynediad i chi at anogwr a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau i wella ymarfer, prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau.
Elle Henley a Lilla Vér - Rheolwyr Cymunedol – Bydd ein rheolwyr cymunedol yn gallu darparu mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth cymorth a datblygiad cymunedau ymarfer, sy'n cefnogi pobl i archwilio dull cymunedol o fynd i'r afael â heriau gofal cymdeithasol.
Emma Davies, Rheolwr Gwella a Datblygu – Mae Emma yn arwain ein gwaith ar greu diwylliannau cadarnhaol a gall ateb cwestiynau sy'n ymwneud â thyfu diwylliannau cadarnhaol mewn lleoliadau gofal.
Tara Hughes, Swyddog Ymchwil – Bydd Tara ar gael i gynnig gwybodaeth am sut y gall sefydliadau rannu data sy'n cael ei gasglu yn rheolaidd i gefnogi ymchwil.
Ymunwch â'r sesiwn
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen ar gyfer y sesiwn sydd fwyaf cyfleus i chi.
Mae'r sesiynau'n agored, yn anffurfiol ac yn anstrwythuredig. Gallwch ymuno ar unrhyw adeg rhwng 10am a hanner dydd.