Arfer adlewyrchol a chydgynhyrchu: cymuned ymholi
Mae 25 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Her cydgynhyrchu
Er bod arfer myfyriol a chydgynhyrchu yn cael eu hyrwyddo’n eang, gall eu gwireddu yn dipyn o her. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd yn wahanol a gall dod â phobl â bwriadau da at ei gilydd i siarad olygu bod pawb yn teimlo'n rhwystredig os nad yw'r sgyrsiau'n mynd yn dda.
Cymuned ymholi fel dull o gefnogi cydgynhyrchu
Mae cymuned ymholi yn cefnogi pobl i archwilio pwnc mewn ffordd sy'n gynhwysol, ond eto'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytundeb myfyriol. Mae’n helpu cyfranogwyr i fynd yn ‘DEEP’ wrth archwilio thema neu fater ac yn cynhyrchu hadau ar gyfer gweithredu.
Y sesiwn hon
Bydd y sesiwn hanner diwrnod hwn yn cyflwyno pobl i'r egwyddorion allweddol y tu ôl i gymuned ymholi. Mae'n rhoi arweiniad cam wrth gam ar sut i sefydlu a hwyluso cymuned ymholi. Mae'r sesiwn yn rhyngweithiol iawn, a bydd pobl yn dysgu o fod yn rhan o gymuned ymholi o fewn y sesiwn.
Pwy allai elwa o'r sesiwn?
Bydd y sesiwn o fudd i bobl sydd â diddordeb mewn cydgynhyrchu, adeiladu tîm, ymgynghori ac ymgysylltu. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i hyfforddwyr sydd eisiau helpu eraill i ymgysylltu â phynciau. Yn ogystal, bydd ymchwilwyr yn dysgu am ddull defnyddiol o gydgynhyrchu cwestiynau ymchwil.
Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.
Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk
Archebwch le
|