Skip to Main content

Crynodeb newydd yn tynnu sylw at gymorth gofal cymdeithasol i bobl LHDTC+ hŷn

19 Mehefin 2025

Mae pob person yng Nghymru yn haeddu cael cymorth urddasol sy'n canolbwyntio ar y person wrth iddyn nhw heneiddio. Mae hyn yn golygu sicrhau bod pawb yn cael gofal a chymorth sy'n gwerthfawrogi pwy ydyn nhw. 

Rydyn ni wedi cyhoeddi crynodeb tystiolaeth newydd sy’n edrych ar ymchwil am brofiadau ac anghenion pobl LHDTC+ hŷn sy'n cael mynediad at ofal. Mae'n archwilio gwahanol ffactorau a all effeithio ar sut mae pobl hŷn LHDCT + yn teimlo, a'r gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n ei dderbyn.   

Yn y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru yn 2021, disgrifiodd 77,000 o bobl (tri y cant) eu hunain fel hoyw, lesbiaidd, deurywiol, neu ddewis yr opsiwn ‘cyfeiriadedd rhywiol arall’. Dywedodd dros 10,000 o bobl (0.4 y cant) eu bod yn drawsryweddol.

Gall pobl o bob oed fod yn LHDTC+ ond yn aml, mae canfyddiad y cyhoedd am hunaniaethau LHDTC+ yn gysylltiedig ar genhedlaeth iau. O ganlyniad, nid yw anghenion pobl LHDTC+ hŷn (oed 60 a drosodd) wastad mor weledol ag y dylen nhw fod.

Mae sawl astudiaeth wedi dangos bod gan bobl LHDTC+ hŷn bryderon sylweddol am ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Maen nhw'n poeni: 

  • na fydd eu hunaniaeth na'u perthnasoedd yn cael eu parchu
  • am ddiffyg gwybodaeth pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol am faterion LHDTC+, neu y gallent fod yn agored elyniaethus.

Yn aml gall hunaniaethau LHDTC+ fynd yn anweledig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Yn hytrach na bod yn ganlyniad i agweddau gwahaniaethol, mae’n aml oherwydd bod pobl yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn trwy barchu bywyd preifat unigolyn. 

Ond mae ymchwil yn awgrymu bod osgoi'r pwnc yn gwneud i bobl LHDTC+ deimlo'r angen i guddio agweddau pwysig o bwy ydyn nhw.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: 

"Mae gan ofalwyr cymdeithasol rôl allweddol wrth hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr tra'u cefnogi i gadw'n ddiogel. Mae ein ffocws ni ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion, a darparu gofal a chymorth sy'n parchu barn a dymuniadau unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr. 

Mae ein crynodeb tystiolaeth ddiweddaraf yn nodi lle nad yw hyn bob amser yn wir ar gyfer bobl LHDTC+ hyn sy’n cael mynediad at ofal cymdeithasol. 

"Er y gall eisiau trin pawb yr un fath fod yn fwriad da, mae'n dod yn broblem pan nad yw anghenion pobl â phrofiadau blaenorol o wahaniaethu yn cael eu hystyried neu ddeall. 

Mae gan bob person yng Nghymru’r hawl i fod yn nhw eu hunain, a pheidio â theimlo bod yn rhaid iddyn nhw guddio eu gwir hunan neu deimlo'n anweledig.

Trwy ein crynodeb tystiolaeth, rydyn ni eisiau helpu Unigolion Cyfrifol, rheolwyr cofrestredig a staff gofal cymdeithasol i ystyried eu dulliau o gefnogi unigolion. Rydyn ni eisiau eu cefnogi i deimlo'n fwy hyderus wrth ddarparu cymorth mewn ffordd sy'n dathlu amrywiaeth ac yn diwallu anghenion pobl LHDTC+.”