
Cefnogi pobl LHDTC+ hŷn ym maes gofal cymdeithasol
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a golygwyd gan Dr Kat Deerfield
Mehefin 2025
Yn y crynodeb tystiolaeth hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfredol am brofiadau ac anghenion pobl LHDTC+ hŷn. A rydyn ni'n edrych ar beth yw gofal da i'r grŵp hwn.
Mae pob person yng Nghymru yn haeddu cael cymorth urddasol sy'n canolbwyntio ar y person wrth iddyn nhw heneiddio. Mae hyn yn golygu sicrhau bod pawb yn cael gofal a chymorth sy'n gwerthfawrogi pwy ydyn nhw.
Cyflwyniad
Yn y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru yn 2021, disgrifiodd 77,000 o bobl (tri y cant) eu hunain fel hoyw, lesbiaidd, deurywiol, neu ddewis yr opsiwn ‘cyfeiriadedd rhywiol arall’. A dywedodd dros 10,000 o bobl (0.4 y cant) eu bod yn drawsryweddol (Llywodraeth Cymru, 2023). Gall pobl o bob oed fod yn LHDTC+ ond yn aml, mae canfyddiad y cyhoedd am hunaniaethau LHDTC+ yn gysylltiedig â phobl ifanc. O ganlyniad, nid yw anghenion pobl LHDTC+ hŷn (60 oed a mwy) wastad mor weledol ag y dylen nhw fod. Yn y crynodeb tystiolaeth hwn, rydyn ni’n rhannu rhai canfyddiadau ymchwil ar sut i wneud gofal cymdeithasol yn well ar gyfer pobl LHDTC+ hŷn. Rydyn ni’n edrych ar dystiolaeth am yr hyn sy'n poeni pobl LHDTC+ hŷn a pham y gallen nhw weithiau ei chael hi'n anodd ymgysylltu â gofal a chymorth. Rydyn ni hefyd yn edrych ar oblygiadau peidio â chydnabod hunaniaethau pobl LHDTC+ mewn lleoliadau gofal. Ac rydyn ni’n archwilio trawsffobia a homoffobia, a sut i gefnogi sgyrsiau iachach. Rydyn ni’n edrych ar sut gall cysylltiadau teuluol a chysylltiadau cymdeithasol eraill fod yn wahanol i bobl LHDTC+ a sut gall gofal cymdeithasol gefnogi’r cysylltiadau hyn. I gloi, rydyn ni'n rhoi rhywfaint o gyngor ymarferol ar sut i wneud lleoliadau gofal cymdeithasol yn fwy cynhwysol.
Yn 2023, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig adroddiad annibynnol ar amddiffyniadau ar gyfer pobl LHDTC+ yn y DU. Cododd yr adroddiad bryderon am rôl camwybodaeth mewn trafodaethau cyhoeddus ynglŷn â hawliau LHDTC+, yn enwedig hawliau pobl drawsryweddol (Madrigal-Borloz, 2023). Gall fod yn anodd gwybod beth yw gwybodaeth dda. Yn y crynodeb tystiolaeth hwn, rydyn ni’n cynnig trosolwg o dystiolaeth ymchwil ar bobl LHDTC+ hŷn a gofal cymdeithasol. Ein ffocws yw sut i gefnogi mynediad at ofal a chymorth da ar gyfer pobl LHDTC+ hŷn. Rydyn ni wedi blaenoriaethu ymchwil sy'n canolbwyntio ar leisiau pobl LHDTC+ hŷn yn ogystal â staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl hŷn. Rydyn ni’n amlygu pethau sy'n cefnogi gofal sy'n canolbwyntio ar y person er mwyn galluogi pawb sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth yng Nghymru i fyw bywyd da yn unrhyw oedran.
Nid oes llawer o ymchwil ar gael mewn rhai pynciau sy'n ymwneud â phobl LHDTC+. Mewn adolygiad o ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ymhlith pobl LHDTC+, soniodd McDermott et al. (2021) am y diffyg ymchwil sydd ar gael. Roedd hyn yn wir er bod yr ymchwil a ddaeth i’r golwg yn dangos anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Roedden nhw’n dadlau bod y rhagdybiaethau y mae pobl yn eu gwneud am anghydraddoldebau LHDTC+ yn effeithio ar ba ymchwil sydd ar gael. Efallai y bydd ymchwilwyr a chyllidwyr yn meddwl bod yr anghydraddoldebau hyn yn rhywbeth o'r gorffennol, felly nid ydynt yn cynhyrchu ymchwil amdanyn nhw (McDermott et al., 2021).
Mae rhai cyfyngiadau i'r crynodeb tystiolaeth hwn. Gan nad oes llawer o ymchwil ar gael, nid ydym yn cynnwys trafodaeth fanwl am anghenion pobl anneuaidd, rhyngryw, neu arwywiol. Rydyn ni hefyd yn deall bod pobl LHDTC+ yn grŵp amrywiol, a bydd eu profiadau'n amrywio yn dibynnu ar nodweddion eraill. Er enghraifft, bydd statws economaidd-gymdeithasol, hil, a ffactorau croestoriadol eraill yn golygu bod gan bobl LHDTC+ brofiadau gwahanol.
Cysyniadau allweddol
Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol (traws), a chwiar neu rywedd-gwestiynol. Mae'r symbol + yn cydnabod hunaniaethau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y term hwn, fel rhyngryw, arywiol ac aramantaidd. Mae'r hunaniaethau a ddaw o dan ymbarél LHDTC+ wedi’u rhannu'n fras i ddau fath: hunaniaeth rywiol (at bwy rydyn ni'n cael ein denu) a hunaniaeth rhywedd (sut rydyn ni'n profi ein rhywedd ein hunain).
Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr iaith wahanol y mae pobl yn ei defnyddio ar restr Stonewall o dermau LHDTC+ (Stonewall, 2022). Mae gan Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru restr termau a dolenni i adnoddau ychwanegol am derminoleg (Llywodraeth Cymru, 2023). Mae ein diffiniadau yn yr adran hon yn seiliedig ar y ffynonellau hyn.
Mae’r acronym LHDTC+ yn cynnwys pob cyfeiriadedd rhywiol heblaw heterorywioldeb. Mae pobl sy'n uniaethu fel hoyw neu lesbiaidd yn cael eu denu at bobl o’r un rhywedd â nhw. Mae pobl sy'n uniaethu fel deurywiol yn cael eu denu at bobl o fwy nag un rhywedd. Fel arfer nid yw pobl sy'n uniaethu fel arywiol yn cael eu denu'n rhywiol at bobl o unrhyw rywedd, ac fel arfer nid yw pobl sy'n uniaethu fel aramantaidd yn profi atyniad rhamantus.

Mae'r hunaniaethau a ddaw o dan ymbarél LHDTC+ wedi’u rhannu'n fras i ddau fath: hunaniaeth rywiol (at bwy rydyn ni'n cael ein denu) a hunaniaeth rhywedd (sut rydyn ni'n profi ein rhywedd ein hunain)
Mae hunaniaeth rhywedd person yn cyfeirio at sut maen nhw’n profi eu rhywedd eu hunain. Mae pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yn cyfateb i'r rhyw a gafodd ei gofrestru adeg eu geni yn cisryweddol. Mae pobl y mae eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw wedi ei gofrestru adeg eu geni yn drawsryweddol. Mae trawsryweddol yn derm ymbarél sy'n cwmpasu gwahanol ffyrdd y mae pobl yn ymwneud â'u hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn cynnwys dynion cafodd eu neilltuo’n fenywod adeg eu geni (dynion trawsryweddol), menywod cafodd eu neilltuo’n wrywod adeg eu geni (menywod trawsryweddol), a phobl anneuaidd. Nid yw pobl sy'n anneuaidd yn uniaethu fel dynion na menywod, neu maen nhw’n profi eu rhywedd fel rhywbeth y tu hwnt i'r ddeuaidd gwrywaidd/benywaidd.
Mae rhai pobl yn rhyngrywiol, sy'n golygu bod ganddyn nhw nodweddion biolegol sy'n wahanol i'r hyn y mae cymdeithas yn ei ddisgwyl ar gyfer cyrff gwrywaidd neu fenywaidd. Mae hunaniaeth rhywedd rhai pobl ryngrywiol yn cyfateb i'r rhyw a gafodd ei gofrestru adeg eu geni, ond nid yw hyn yn wir am lawer. Er enghraifft, dangosodd un astudiaeth mai dim ond 23 y cant o bobl ryngrywiol cafodd eu neilltuo fel gwrywod adeg eu geni sy’n uniaethu fel dynion yn hwyrach mewn bywyd (Henningham a Jones, 2021).
Mae cwiar yn cael ei ddefnyddio weithiau fel term ymbarél am y gymuned LHDTC+ yn ei chyfanrwydd ac mae’n cynnwys nifer o hunaniaethau. Yn ogystal, mae rhai pobl yn uniaethu fel cwiar, yn hytrach na defnyddio label mwy penodol. Er bod cwiar yn cael ei ddefnyddio’n eang gan nifer o aelodau’r gymuned LHDTC+, mae'n bwysig cofio bod rhai pobl LHDTC+ yn gweld y term fel un sarhaus. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n osgoi defnyddio'r term fel term ymbarél i ddisgrifio pobl LHDTC+ yn y crynodeb tystiolaeth hwn, er bod rhywfaint o'r ymchwil rydyn ni'n ei chynnwys yn defnyddio'r term hwn.
Mae yna ffyrdd eraill y mae pobl yn sôn am eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd, ac mae pobl weithiau'n newid y labeli maen nhw'n eu defnyddio i ddisgrifio eu hunain wrth iddyn nhw ddarganfod mwy amdanyn nhw eu hunain.

Roedd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn dangos fod pobl LHDTC+ yng Nghymru mewn perygl o gael eu bwlio ac wynebu gwahaniaethu. Dangosodd yr adroddiad fod pobl trawsryweddol hŷn yn enwedig yn poeni na fydd eu hunaniaeth yn cael ei pharchu wrth gael mynediad at ofal cymdeithasol (EHRC, 2023). Gall gwahaniaethu a thrais yn erbyn pobl LHDTC+ ddigwydd mewn sawl ffordd amlwg, fel trais corfforol neu fynediad anghyfartal at ofal meddygol. Ond mae yna hefyd ffyrdd llai amlwg y gall pobl LHDTC+ gael profiadau gwaeth na phobl eraill mewn lleoliadau gofal. Mae'r ymchwil rydyn ni'n ei archwilio yn y crynodeb hwn yn dangos sut gall hyn ddigwydd pan na fydd anghenion penodol pobl LHDTC+ yn cael eu cydnabod.
I ddeall pam mae nifer o bobl LHDTC+ yn profi, neu’n poeni y gallen nhw brofi, anawsterau gyda gofal cymdeithasol, mae'n bwysig archwilio cysyniadau heteronormadedd a cisnormadedd (gweler Willis et al., 2023). Heteronormadedd yw'r syniad bod pobl yn cymryd yn ganiataol bod rhywun yn heterorywiol. Mae cisnormadedd yn golygu bod pobl yn cymryd yn ganiataol bod rhywun yn cisryweddol. Mae'r ddau derm yn awgrymu y gall syniadau o beth sy'n "normal" eithrio pobl y mae eu rhywedd neu eu rhywioldeb y tu hwnt i’r rhagdybiaethau hyn. Gall hyn ei wneud yn anodd diwallu anghenion a dewisiadau pobl LHDTC+.
Pobl LHDTC+ hŷn mewn deddfwriaeth a chanllawiau
Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru (2023)
Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn gweithredu fel fframwaith i ddod â pholisïau LHDTC+ yng Nghymru at ei gilydd. Mae'n nodi'r camau pendant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i “[f]ynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyfredol y mae cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu ar hyn o bryd, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddiffuant, yn agored, ac yn rhydd fel nhw eu hunain”. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau i gael mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl LHDTC+.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarn o ddeddfwriaeth yn y DU sy'n amddiffyn hawliau pobl â nodweddion penodol. Mae'r "nodweddion gwarchodedig" hyn yn cynnwys oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut bydd eu penderfyniadau a'u polisïau'n effeithio ar bob grŵp sy’n cael eu gwarchod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Cymru o blaid pobl hŷn (2021)
Mae Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio yn nodi polisi Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl yn well wrth iddyn nhw heneiddio. Nodau'r cynllun yw gwella llesiant, gwella gwasanaethau ac amgylcheddau lleol, meithrin a chadw gallu pobl eu hunain, a mynd i'r afael â thlodi sy'n gysylltiedig ag oedran.
Pryderon pobl LHDTC+ hŷn am ofal cymdeithasol
Mae sawl astudiaeth wedi dangos bod gan bobl LHDTC+ hŷn bryderon sylweddol am ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol (Westwood, 2015; Westwood, 2016; Westwood et al., 2015; Withall, 2014). Maen nhw'n poeni na fydd eu hunaniaeth na'u perthnasoedd yn cael eu parchu. Maen nhw hefyd yn poeni, o bosib, am ddiffyg gwybodaeth pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithaso am faterion LHDTC+ neu y gallent fod yn agored elyniaethus.
Mae Westwood (2015) yn trafod sut mae pobl LHDTC+ hŷn weithiau’n poeni am fod yn anweledig mewn lleoliadau gofal. Ar yr un pryd, efallai y byddan nhw hefyd yn poeni am eu diogelwch os yw pobl eraill yn gwybod eu bod nhw’n LHDTC+. Weithiau gall cynyddu ymwybyddiaeth a gwelededd fod yn gam pwysig wrth gryfhau hawliau pobl LHDTC+ mewn gofal, ond gall hyn gynnwys mwy o risg hefyd.

Gwelededd pobl LHDTC+ hŷn mewn lleoliadau gofal
Gall fod yn anodd sôn am hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol mewn lleoliadau gofal (Willis et al., 2016). Efallai y bydd pobl yn poeni am ddechrau sgyrsiau rhag ofn iddyn nhw bechu rhywun. Gall rhagdybiaethau heteronormadol a cisnormadol mewn gofal cymdeithasol olygu bod pobl LHDTC+ yn mynd yn anweledig yn y lleoliadau hyn (Willis et al., 2023). Un ffordd o fynd i'r afael â hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r ffaith bod rhai pobl hŷn yn LHDTC+ a helpu staff gofal cymdeithasol i fod yn fwy agored i siarad am yr hunaniaethau hynny.
Yng ngrŵp ffocws Willis et al. (2016) gyda staff a rheolwyr gofal cymdeithasol, disgrifiodd y cyfranogwyr pa mor anodd y gallai fod i gael sgyrsiau am hunaniaeth rhywedd (hefyd Hafford-Letchfield, 2017). Fe wnaethon nhw ddisgrifio diffyg trafodaeth am hunaniaethau lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Nododd yr awduron hefyd fod y staff weithiau'n cael trafferth hyd yn oed defnyddio'r geiriau lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Mae Willis et al. (2016) yn awgrymu mai un rheswm y gallai staff fod yn gyndyn i grybwyll materion LHDTC+ yw y gallent ystyried cyfeiriadedd rhywiol fel rhywbeth amherthnasol ac ar wahân i anghenion gofal person. Roedd rhai cyfranogwyr yn credu bod gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn rhywbeth o'r gorffennol, ac felly nid oedd yn rhywbeth a oedd yn effeithio ar ofal erbyn hyn.
Cafodd y safbwyntiau hyn eu nodi hefyd gan Knocker a Smith (2021) yn eu gwaith ar gyfer Age UK. Maen nhw’n dadlau y daw pobl LHDTC+ yn anweledig mewn lleoliadau gofal oherwydd y syniad nad yw rhywioldeb pobl hŷn yn bwysig, ac na ddylai staff gofal drafod hyn. Mae Willis (2017) hefyd yn nodi bod darparwyr gofal weithiau'n mynegi eu hymrwymiad i gydraddoldeb drwy ddweud pethau fel “Rydyn ni’n trin pawb yr un fath beth bynnag”.

Er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal da, mae angen ystyried gwahanol anghenion a dymuniadau unigolion
Er y gallai trin pawb yr un fath fod yn fwriad da, daw’n broblem pan nad yw anghenion a phrofiadau pobl yn cael eu hystyried. Er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at ofal da, mae angen ystyried gwahanol anghenion a dymuniadau unigolion.
Mewn astudiaeth ar wneud gofal preswyl yn fwy cynhwysol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru, cynhaliodd Willis (2017) gyfweliadau gyda phobl o grwpiau hawliau dynol pobl hŷn a sefydliadau tai annibynnol. Awgrymodd y cyfranogwyr y gallai mannau ddod yn fwy cynhwysol gyda newidiadau syml i'r amgylchedd. Ymhlith yr enghreifftiau oedd arddangos lluniau o gyplau o’r un rhyw mewn ardaloedd cyhoeddus neu ddefnyddio sticeri’r enfys i nodi ardaloedd fel rhai cynhwysol (Willis et al. 2016).
Risgiau gwelededd cynyddol
Serch hynny, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn y mae Westwood (2015) yn ei ddisgrifio fel “gwelededd peryglus”. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy’n amlwg yn bobl LHDTC+ wynebu gelyniaeth neu deimlo’n ynysig oherwydd eu hunaniaeth. Felly mae'n bwysig cydnabod nad yw gwelededd cynyddol pobl LHDTC+ yr un peth â mynd i’r afael â homoffobia neu drawsffobia.
Mae Jeyasingham (2008), sy’n ysgrifennu am addysg gwaith cymdeithasol, yn rhybuddio nad yw mwy o ymwybyddiaeth o reidrwydd yn golygu bod pobl LHDTC+ yn cael eu trin yn well yn awtomatig. Mae'r awdur yn dadlau mai dim ond os yw’r ymwybyddiaeth yn canolbwyntio ar newid credoau am yr hyn sy'n normal ac yn dda y bydd yn arwain at fwy o dderbyniad. Er enghraifft, pan fydd portreadau o bobl LHDTC+ yn stereoteipio’n ormodol neu'n rhy syml, gall hyn arwain at ymwybyddiaeth broblematig (hefyd Richardson, 2000; Willis, 2017).
Os yw trafodaethau am faterion LHDTC+ yn ansensitif neu'n wahaniaethol, mae risg hefyd o achosi gofid i bobl LHDTC+ sy'n defnyddio cymorth. Oherwydd y bydd nifer o bobl LHDTC+ hŷn wedi profi trais a gwahaniaethu yn y gorffennol, efallai bod ganddyn nhw bryderon sylweddol hyd yn oed am bethau sydd i fod yn bositif. Mewn gofal preswyl, efallai y bydd pobl LHDTC+ - staff a phobl hŷn sy’n defnyddio gofal - yn poeni am oblygiadau anfwriadol pethau sydd i fod yn gefnogol. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n poeni y gallai cynnal digwyddiad Pride arwain at fwy o wahaniaethu, os oes gan breswylwyr a staff eraill agweddau homoffobaidd neu drawsffobaidd. Efallai y bydd staff neu breswylwyr LHDTC+ hefyd yn poeni y byddan nhw’n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddyn nhw gymryd rhan mewn sgyrsiau sy'n heriol yn emosiynol neu'n peri gofid (Willis, 2017).
Nid yw hyn yn golygu y dylem osgoi codi ymwybyddiaeth o bobl LHDTC+. Ond mae'n bwysig bod cynyddu ymwybyddiaeth o bobl LHDTC+ hŷn yn cynnwys herio homoffobia a thrawsffobia pan fydd yn codi.
Profiadau o wahaniaethu yn y gorffennol
Efallai y bydd pobl LHDTC+ hŷn yn poeni am ymgysylltu â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd eu bod nhw wedi cael profiadau gwael yn y gorffennol. Mewn ymchwil ymhlith pobl LHDTC+ hŷn, un thema amlwg a ddaeth i'r golwg oedd eu bod nhw’n poeni am wynebu trawsffobia neu homoffobia wrth ddarparwyr gofal (Stinchcombe et al., 2017). Fe wnaeth Willis et al. (2016) gyfweld â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol hŷn yng Nghymru a darganfod eu bod wedi’u dylanwadu’n gryf gan brofiadau o wahaniaethu yn y gorffennol. Roedd hyn yn cynnwys profiadau o drais corfforol a bod eu hunaniaethau wedi cael eu hystyried fel anhwylderau seiciatrig.
Bydd pobl LHDTC+ hŷn wedi byw drwy gyfnodau pan oedd eu hunaniaethau nid yn unig yn llai derbyniol yn gymdeithasol ond yn drosedd. Yng Nghymru a Lloegr, roedd rhyw rhwng dynion yn drosedd tan 1967, ac roedd yr oedran cydsynio yn uwch ar gyfer rhyw rhwng dynion tan 2000 (Deddf Troseddau Rhywiol 1967 a Deddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000). Roedd adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (DU) yn atal “hyrwyddo cyfunrywioldeb” mewn ysgolion neu gyhoeddiadau llywodraeth leol. Roedd Adran 28 yn weithredol tan 2003. Mae Willis (2017) yn dadlau ei fod yn bwysig cofio’r ffeithiau hanesyddol hyn i ddeall pam efallai nad yw rhai pobl hŷn yn teimlo ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw fod “allan” fel pobl LHDTC+.
Cafodd astudiaeth yn yr Unol Daleithiau ymhlith 2,281 o ddynion hoyw a deurywiol, fod cysylltiad cryf rhwng faint o wahaniaethu roedd yr ymatebwyr wedi’i deimlo yn eu cymunedau a'u mynediad at ofal meddygol. Po fwyaf o wahaniaethu roedden nhw wedi teimlo oedd yno, y lleiaf tebygol oedden nhw o gael mynediad at ofal meddygol cyson. Serch hynny, roedd dynion a oedd â chysylltiad cryf â'r gymuned LHDTC+ yn llai tebygol o brofi hyn (Anderson-Carpenter et al., 2018). Rydyn ni’n trafod pwysigrwydd cydnabod cysylltiadau cymunedol pobl LHDTC+ hŷn nes ymlaen yn y crynodeb tystiolaeth hwn.
Un ffactor a gafodd ei nodi mewn ymchwil ar bobl LHDTC+ hŷn yw arwyddocâd byw drwy'r epidemig HIV/AIDS. Roedd y ffordd y cafodd nifer o ddynion hoyw a deurywiol eu trin, yn enwedig yn yr 1980au a'r 1990au, wedi’i nodweddu gan esgeulustod meddygol a stigma. Mae ymchwil yn dangos bod hyn wedi cael effaith hirdymor ar sut mae rhai pobl LHDTC+ hŷn yn ymgysylltu â gwasanaethau.

Bydd pobl LHDTC+ hŷn wedi byw drwy gyfnodau pan oedd eu hunaniaethau nid yn unig yn llai derbyniol yn gymdeithasol ond yn drosedd
Dangosodd astudiaeth yng Nghanada a edrychodd ar brofiadau dynion hoyw hŷn fod byw drwy’r epidemic HIV/AIDS wedi siapio perthynas bob un ohonyn nhw â’r system gofal iechyd. P’un a oedden nhw’n HIV positif eu hunain neu beidio. Mae Kia et al. (2018) yn dadlau bod y profiadau hyn o ymyleiddio yn cael effaith ar fynediad dynion hoyw hŷn at ofal iechyd ac ar ganlyniadau'r gofal iechyd hwnnw. Maen nhw’n dadlau bod hanes o wahaniaethu yn erbyn dynion hoyw yn eu harwain at ystyried gofal iechyd fel “safle darostyngiad”. Mae hyn yn golygu eu bod nhw wedi cael profiadau mor negyddol dros amser fel eu bod nhw’n teimlo fel pe baen nhw wedi colli eu rhyddid a'u hawliau o fewn y mannau hyn. Er bod yr astudiaeth hon yn edrych yn benodol ar ofal iechyd, mae'r gwersi sy’n deillio ohoni hefyd yn bwysig i ofal cymdeithasol. Gall hyn effeithio ar sut mae dynion hoyw a phobl LHDTC+ eraill yn rhyngweithio ag unrhyw sefydliad sy’n cynnig gofal a chymorth.
Disgrifiodd cyfranogwyr astudiaeth Kia et al. (2018) homoffobia a stigma ynglŷn ag HIV/AIDS fel rhywbeth roedden nhw wedi'i brofi yn y gorffennol yn ogystal â rhywbeth y maen nhw’n delio ag ef heddiw. Disgrifiodd rhai o’r bobl a gafodd eu cyfweld a oedd yn HIV positif eu bod yn teimlo fel pe bai gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwneud rhagdybiaethau am eu cymeriad. A dywedodd un person a gafodd ei gyfweld, a oedd yn HIV negyddol ei fod yn cael ei atgyfeirio'n rheolaidd i gael profion er gwaetha’r ffaith ei fod mewn perthynas gyda’r un person ers degawdau lawer.
Mae pobl drawsryweddol hefyd yn debygol o gael perthynas gymhleth â gwasanaethau iechyd a phryderon ynglŷn â chael mynediad at ofal sy'n diwallu eu hanghenion. Mae ymchwil yn dangos bod rhai pobl drawsryweddol yn osgoi archwiliadau neu driniaethau oherwydd eu bod nhw’n poeni am brofi gwahaniaethu. Gall hyn arwain at bobl drawsryweddol yn profi iechyd gwaeth (Safer et al., 2016). Gall y pryderon hyn hefyd ddod i'r amlwg mewn perthynas â gofal cymdeithasol, yn enwedig lle mae'n ymwneud â chymorth gyda gweithgareddau dyddiol a phethau fel gwisgo neu hylendid personol. Mewn astudiaeth o bobl drawsryweddol hŷn, gwelodd Jones a Willis (2016) fod rhai pobl yn poeni am wynebu agweddau gwahaniaethol os oedd staff gofal yn anghyfforddus am weithio gyda rhywun a oedd yn drawsryweddol. Roedden nhw’n arbennig o bryderus am hyn oherwydd eu bod nhw’n teimlo na fydden nhw, o bosib, yn gallu herio gweithiwr gofal. Pwysleisiodd Jones a Willis (2016) ymhellach yr angen i staff gofal cymdeithasol ddeall sut gallai profiadau’r gorffennol arwain at wneud pobl drawsryweddol yn ddrwgdybus o wasanaethau gofal cymdeithasol, ac yn arbennig o anghyfforddus gyda newidiadau ymhlith staff.
Teuluoedd a chymunedau amrywiol
Gall pobl gael safbwyntiau eithaf penodol am yr hyn y mae teulu yn ei olygu, ac yn gyffredinol maen nhw’n seiliedig ar syniadau Gorllewinol a heteronormadol. Mae Willis et al. (2024) yn nodi y gall pobl LHDTC+ hŷn deimlo eu bod nhw wedi'u heithrio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol sydd wedi'u hadeiladu ar ragdybiaethau heteronormadol a cisnormadol. Rydyn ni wedi edrych ar pam ei bod hi'n bwysig cwestiynu ein rhagdybiaethau sylfaenol ynghylch beth yw teuluoedd "da" yn ein crynodeb tystiolaeth ar gefnogi teuluoedd sydd ar y cyrion. Mae heteronormadol, sy’n cael ei drafod yn yr adran cysyniadau allweddol, yn golygu ein bod yn cymryd yn ganiataol mai heterorywioldeb yw'r ffordd osodedig neu'r ffordd orau o brofi atyniad. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai pobl LHDTC+ brofi eu perthnasoedd teuluol neu berthnasau mewn ffyrdd gwahanol ac ehangach na phobl cisryweddol syth (Knocker a Smith, 2021; Peel a McDaid, 2015). Mae’r term “gofal gan berthynas” yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â ffurfiau teuluol LHDTC+ i bwysleisio'r ffaith eu bod yn aml yn gwneud synnwyr o'u hanesion a'u cysylltiadau teuluol drwy fwy na chysylltiad biolegol (Garwood, 2022). Weithiau mae hyn yn cael ei ddisgrifio fel “teulu dewisol, teulu o ddewis neu deuluoedd Lafant” (Stinchcombe et al., 2017).
Mae ymchwil yn dangos bod boddhad bywyd, mynediad at ofal, a llesiant cyffredinol pobl LHDTC+ wedi'u cysylltu'n gryf â chael ymdeimlad o gymuned ac o berthyn (Orel, 2004; Jones a Willis, 2016; Kneale et al. 2021, Willis et al. 2023). Yn aml, mae gan bobl LHDTC+ rwydweithiau estynedig o bobl, fel ffrindiau neu bartneriaid, nad ydyn nhw’n cael yr un statws â theulu biolegol. Pwysleisia Jones a Willis (2016) yr angen i gefnogi'r perthnasoedd hyn yn ogystal â chefnogi pobl LHDTC+ hŷn i ymgysylltu â’u cymunedau ehangach. Mae hefyd yn bwysig gallu rheoli gwrthdaro, os bydd yn codi, rhwng teulu dewisol rhywun a'i deulu biolegol. Yn Peel a McDaid (2015), soniodd pobl LHDTC+ am eu pryderon ynglŷn â cholli mynediad at eu teulu dewisol pe bydden nhw’n mynd yn rhy fregus i eirioli drostyn nhw eu hunain.
Yn Willis et al. (2016), dywedodd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru ei bod yn bwysig iawn fod eu perthnasoedd yn cael eu trin yr un mor bwysig â chyplau heterorywiol. Ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, mae hyn yn golygu peidio â gwneud rhagdybiaethau am natur perthnasoedd pobl yn seiliedig ar dybiaethau am rywedd. Mae cydnabod y perthnasoedd sy'n bwysig i bobl hefyd yn golygu cydnabod a gwerthfawrogi'r teuluoedd ehangach y gallai pobl LHDTC+ hŷn fod wedi'u hadeiladu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhwydweithiau ehangach hyn yn rhan o benderfyniadau gofal. (Stinchcombe et al., 2017). Gall hyn hefyd wneud gofal yn fwy cynhwysol i bobl aramantaidd, sydd efallai heb berthnasoedd rhamantus o gwbl, a phobl amlgarwriaethol, a allai fod yn cael mwy nag un berthynas ramantus ar yr un pryd.
Dementia a phobl LHDTC+
Awgryma McGovern (2014) y gallai pobl LHDTC+ â dementia fod “wedi’u hymyleiddio deirgwaith gymaint” oherwydd eu hoedran, eu hamhariad gwybyddol, a’u cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd. Mae'n bwysig i'r rhai sy'n darparu gofal a chymorth fod yn ymwybodol o wendidau penodol y grŵp hwn.
Mae nifer o ffyrdd y gall dementia effeithio’n unigryw ar bobl LHDTC+.Efallai y bydd pobl sydd erioed wedi datgelu eu hunaniaeth LHDTC+ yn “dod allan” yn anfwriadol oherwydd eu symptomau dementia (Peel a McDaid, 2015). Pwysleisiodd ymatebwyr mewn astudiaeth ar bobl LHDTC+ â dementia bwysigrwydd gwerthfawrogi hunaniaeth pobl, yn enwedig oherwydd eu bod nhw'n ei chael hi'n anoddach dal gafael arni eu hunain. Iddyn nhw, fel pobl LHDTC+ mewn astudiaethau eraill, roedd y syniad o orfod gwadu neu guddio eu hunaniaeth yn hwyrach mewn bywyd yn achos gofid mawr (Peel a McDaid, 2015).
Gallai pobl drawsryweddol â dementia hefyd brofi brwydrau penodol. Os nad ydyn nhw erioed wedi rhannu eu hunaniaeth rhywedd, efallai y byddan nhw’n ei datgelu pan fyddan nhw’n datblygu symptomau dementia. Efallai y byddan nhw hefyd yn anghofio pethau maen nhw wedi'u newid fel rhan o gadarnhau eu hunaniaeth rhywedd. Gall hyn gynnwys pethau fel eu henw, y rhagenwau maen nhw’n eu defnyddio, y ffordd maen nhw'n gwisgo, neu eu bod nhw wedi cael triniaeth feddygol i gadarnhau eu rhywedd. Mae Peel a McDaid (2015) yn pwysleisio'r angen i ddarparwyr gofal gefnogi pobl drawsryweddol gyda’u hunaniaeth rhywedd mewn ffordd dderbyniol ac agored. Pwysleisiodd un cyfranogwr yn eu hastudiaeth yr angen i reoli therapi atgofion yn ofalus gyda phobl drawsryweddol hŷn. Nod therapi atgofion yw gwella llesiant pobl drwy drafod atgofion a phrofiadau’r gorffennol er mwyn ysgogi gweithgaredd meddyliol. Gall hwn fod yn brofiad mwy cymhleth i bobl a allai gael trafferth gydag atgofion o gyfnod pan oedden nhw’n byw eu bywyd fel rhywun o rywedd gwahanol. Nododd ymatebwr arall ei bod yn bwysig cefnogi hunaniaeth pobl drawsryweddol â dementia, yn enwedig pan oedd aelodau biolegol y teulu yn anghyfforddus gyda'u hunaniaeth ac yn ceisio rhoi pwysau arnyn nhw i “fod yn rhywun doedden nhw ddim eisiau bod” (Peel a McDaid, 2015).
Cymorth i staff gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl LHDTC+
Gall fod yn anodd i staff gofal cymdeithasol wybod y ffordd orau o gefnogi pobl LHDTC+ hŷn. Er bod rhai sefydliadau wedi cynhyrchu canllawiau ar sut i gefnog pobl LHDTC+ hŷn yn well (Alzheimer’s Society, 2025; Keemink, 2024; Knocker a Smith, 2021; Skills for Care, 2025; Furzedown Project, 2025) rydyn ni’n gwybod bod angen mwy o waith i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Er mwyn gwella dealltwriaeth o faterion LHDTC+, mae Willis (2017) a Jeyasingham (2008) yn dadlau bod angen ymgysylltiad dyfnach i ddeall sut mae bywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn wahanol i bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys meddwl am y gwahanol ffyrdd y gall pobl feithrin cymuned a theuluoedd.
Gall fod yn anodd iawn cael sgyrsiau am hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae’n amlwg bod hunaniaethau LHDTC+ yn aml yn anweledig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Yn hytrach na bod o ganlyniad i agweddau gwahaniaethol, mae'n aml oherwydd bod pobl yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn drwy barchu bywyd preifat unigolyn. Ond i lawer o bobl LHDTC+, mae ymchwil yn awgrymu bod osgoi’r pwnc yn gwneud iddyn nhw deimlo'r angen i guddio agweddau pwysig ar bwy ydyn nhw (Hafford-Letchfield, 2017).
Mae ymchwil yn awgrymu y gall agor lle diogel i staff gofal cymdeithasol ddysgu mwy am fywydau pobl LHDTC+ wella eu hyder wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl LHDTC+. Canfu Hafford-Letchfield (2017) fod creu lle o'r fath yn arbennig o ddefnyddiol i staff gofal cymdeithasol sydd heb lawer o brofiad blaenorol o weithio gyda phobl LHDTC+. Neu staff a ddaeth o gefndiroedd nad oeddent yn dderbyniol iawn o bobl LHDTC+.
Mae Hafford-Letchfield et al. (2017) yn pwysleisio'r angen i hwyluso mannau sy’n emosiynol ddiogel, heb feirniadaeth, i bobl LHDTC+ er mwyn hwyluso sgyrsiau a dysgu i staff gofal cymdeithasol. Mewn rhaglen lle cafodd sgyrsiau eu hwyluso ar draws chwe chartref gofal gwahanol yn y DU, disgrifiodd un hwylusydd nhw fel rhai sy'n cefnogi tosturi tuag at bobl LHDTC+. Drwy roi lle i staff gofal gyda safbwyntiau gwahanol ar faterion LHDTC+ archwilio eu credoau ac i ddysgu mwy, roedd yn bosib newid agweddau er mwyn creu dull mwy cynhwysol. Dywedodd hwyluswyr y rhaglen eu bod wedi gweld newidiadau yn niwylliannau'r cartrefi gofal lle cynhaliwyd y sgyrsiau hyn tuag at fod yn fwy cyfforddus a hyderus wrth siarad am faterion LHDTC+. Yn ôl canfyddiadau Hafford-Letchfield et al. (2017), er na allai'r hyfforddiant newid meddyliau pobl bob amser os oedd eisoes ganddyn nhw safbwyntiau am hunaniaethau LHDTC+, roedd y staff yn gyffredinol yn hapus i ymgysylltu ac yn gwerthfawrogi'r cipolwg a roddodd yr hyfforddiant iddyn nhw.
Mae Jones a Willis (2016) yn dangos fod pobl drawsryweddol hŷn wir yn gwerthfawrogi parodrwydd darparwyr gofal i ddysgu. Dywedon nhw nad oedd o reidrwydd yn bwysig bod staff yn gwybod llawer am faterion trawsryweddol. Yr hyn oedd bwysicaf iddyn nhw oedd bod staff yn barod i ymgysylltu â nhw yn ddidwyll, heb feirniadaeth. Ar yr un pryd, mae'n bwysig cydnabod na fydd pob gwrthdaro yn hawdd i'w ddatrys drwy sgyrsiau'n unig. Ac y gallai heriau ymddangos, sy'n gofyn am gael eu rheoli'n ofalus er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i bawb (Knocker a Smith, 2021).
Awgrymiadau ymarferol
Mae ymchwil yn dweud bod rhai pethau ymarferol y gall gweithwyr gofal cymdeithasol eu gwneud i wneud gofal yn fwy cyfeillgar i bobl LHDTC+. Mae'r awgrymiadau hyn wedi'u haddasu o Keemink (2024) a Knocker a Smith (2021).
- Peidio â chymryd yn ganiataol bod pawb rydych chi'n gweithio gyda nhw yn heterorywiol a cisrywiol, oherwydd nad ydyn nhw wedi dweud fel arall. Mae hyn yn golygu bod yn ymwybodol o'r iaith rydych chi'n ei defnyddio yn ogystal â'r anghenion cymorth y gallai fod gan rywun. Mae hefyd yn golygu peidio â gwneud rhagdybiaethau ynglŷn â sut mae pobl eisiau gwisgo neu gael eu trin gan eraill.
- Gwerthfawrogi'r perthnasoedd sydd gan bobl. Mae hyn yn golygu gwerthfawrogi partneriaid pobl waeth beth yw eu rhywedd. Mae hefyd yn golygu gofyn i'r person sy'n defnyddio gofal a chymorth pwy yw'r bobl bwysicaf iddyn nhw a chefnogi'r perthnasoedd hyn.
- Galluogi a chefnogi pobl LHDTC+ hŷn i gymryd rhan yn y gymuned LHDTC+ leol, os yw hynny'n rhywbeth maen nhw ei eisiau.
- Adeiladu cysylltiadau â mudiadau LHDTC+ i gymryd arweiniad gan bobl LHDTC+.
- Cefnogi staff yn rhagweithiol i wella eu gwybodaeth o faterion LHDTC+ a rhwystro camwybodaeth a rhagfarnau.
- Cofio bod pobl LHDTC+ i gyd yn uniaethu â'u hunaniaeth a'r byd o'u cwmpas mewn ffordd wahanol. Byddwch yn barod i gael eich arwain gan unigolion o ran pa mor bwysig y maen nhw’n teimlo yw eu hunaniaeth LHDTC+ i'w hymdeimlad o’r hunan.
- Dathlu hunaniaethau, perthnasoedd a chynhwysiant LHDTC+. Mae pethau fel baneri enfys neu gael cynrychiolaeth LHDTC+ mewn lluniau sy’n cael eu harddangos, yn gallu gwneud llawer i wneud pobl deimlo’n fwy cyfforddus.
- Codi llais yn erbyn homoffobia a thrawsffobia yn y gwaith. Gwneud yn siŵr nad yw iaith wahaniaethol yn cael ei normaleiddio o fewn lleoliadau gofal a bod pobl yn teimlo’n gyfforddus i leisio pryderon.
Casgliad
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu heneiddio gydag urddas a chael mynediad at ofal a chymorth sy’n diwallu eu hanghenion. Mae ymchwil ar bobl LHDTC+ hŷn yn dweud wrthym eu bod yn aml yn poeni na fyddan nhw’n cael y cymorth sy'n gwerthfawrogi pwy ydyn nhw. Gall y crynodeb tystiolaeth hwn helpu staff gofal cymdeithasol i deimlo'n fwy hyderus wrth roi cymorth mewn ffordd sy'n dathlu amrywiaeth ac yn diwallu anghenion pobl LHDTC+.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi pobl LHDTC+ hŷn ym maes gofal cymdeithasol sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Hafford-Letchfield, T., Almack, K., Simpson, P. a Willis, P. (2017) ‘Developing inclusive residential care for older lesbian, gay, bisexual and trans (LGBT) people: an evaluation of the Care Home Challenge action research project’. Health and Social Care in the Community, 26 (2), tt. e312-e320, doi:10.1111/hsc.12521, ar gael yn https://doi.org/10.1111/hsc.12521.
- Keemink, J. (2024) Creating inclusive residential care for LGBTQ+ elders (CIRCLE), Prifysgol Caint, ar gael yn https://research.kent.ac.uk/chss/research-projects/creating-inclusive-residential-care-for-lgbtq-elders-circle/ (cyrchwyd: 1 Ebrill 2025).
- Peel, E. a McDaid, S. (2015) ‘Over the rainbow’: lesbian, gay, bisexual and trans people and dementia project summary report, Prifysgol Caerwrangon, ar gael yn https://dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/Over-the-Rainbow-LGBTDementia-Report.pdf (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
- Westwood, S. (2015) ‘“We see it as being heterosexualised, being put into a care home”: Gender, sexuality and housing/care preferences among older LGB individuals in the UK’, Health and Social Care in the Community, doi:10.1111/hsc.12265, ar gael yn https://doi.org/10.1111/hsc.12265.
- Willis, P., Beach, B., Powell, J., Vickery, A., Cameron, A. a Smith, R. (2023) ‘“There isn’t anybody else like me around here”: the insider-outsider status of LGBT residents in housing with care schemes for older people’, Frontiers in Sociology, 8, 1128120, doi:10.3389/fsoc.2023.1128120, ar gael yn https://doi.org/10.3389/fsoc.2023.1128120.
Cyfeiriadau -
Alzheimer’s Society (2025) LGBTQ+: Living with dementia, ar gael yn https://www.alzheimers.org.uk/get-support/daily-living/lgbtq-living-with-dementia (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Anderson-Carpenter, K. D., Sauter, H. M., Luiggi-Hernández, J. G. a Haight, P. E. (2019) ‘Associations between perceived homophobia, community connectedness, and having a primary care provider among gay and bisexual Men’, Sexuality Research and Social Policy, 16, tt. 309-316, doi:10.1007/s13178-018-0347-8.
Berry, A. W. a Monro, S. (2022) ‘Ageing in obscurity: a critical literature review regarding older intersex people’, Sexual and Reproductive Health Matters, 30 (1), 2136027, doi:10.1080/26410397.2022.2136027.
EHRC (2023) ‘Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru'n Decach?, ar gael yn https://www.equalityhumanrights.com/sites/default/files/2023/Is%20Wales%20Fairer%20Equality%20and%20Human%20Rights%20Monitor-%20Cymraeg-%20accessible%20PDF.pdf (cyrchwyd: 25 April 2025).
Furzedown Project (2025) Ageing on our own terms: A resource for commissioners, providers and regulators of social care, ar gael yn https://www.furzedownproject.org/wp-content/uploads/2025/03/Ageing_on_our_own_terms-Booklet.pdf (cyrchwyd: 25 Ebrill 2025).
Garwood, E. (2022) ‘Queering the kinship story: constructing connection through LGBTQ family narratives’, Feminist Theory, 24 (1), tt. 30-46, doi:10.1177/14647001211059521.
Hafford-Letchfield, T., Almack, K., Simpson, P. aWillis, P. (2017) ‘Developing inclusive residential care for older Lesbian, Gay, Bisexual and Trans (LGBT) people: An evaluation of the Care Home Challenge action research project’. Health and Social Care in the Community, 26 (2), tt. e312-e320, doi:10.1111/hsc.12521.
Henningham M. a Jones, T. (2021) ‘Intersex students, sex-based relational learning & isolation’, Sex Education, 21 (5), tt. 600-613, doi:10.1080/14681811.2021.1873123.
Jeyasingham, D. (2008) ‘Knowledge/Ignorance and the construction of sexuality in social work education’, Social Work Education, 27 (2), tt. 138-151, doi:10.1080/02615470701709469.
Jones, S. M. a Willis, P. (2016) ‘Are you delivering trans positive care?’, Quality in Ageing and Older Adults, 17 (1), tt. 50-60, doi:10.1108/QAOA-05-2015-0025.
Keemink, J. (2024) Creating inclusive residential care for LGBTQ+ elders (CIRCLE), Prifysgol Caint, ar gael yn https://research.kent.ac.uk/chss/research-projects/creating-inclusive-residential-care-for-lgbtq-elders-circle/ (cyrchwyd: 1 Ebrill 2025).
Kia, H., Grace, D., Strike, C. a Ross, L. E. (2019) ‘Across Serostatus: a study of subjugation and resistance in older gay men’s experiences Navigating Health Care’, Sexuality Research and Social Policy, 16, tt. 121-133, doi:10.1007/s13178-018-0344-y.
Kneale, D., Henley, J., Thomas, J. a French, R. (2021) ‘Inequalities in older LGBT people's health and care needs in the United Kingdom: a systematic scoping review’, Ageing and Society, 41(3), tt. 493-515, doi:10.1017/S0144686X19001326.
Knocker, S. (2006) The whole of me... Meeting the needs of older lesbians, gay men and bisexuals living in care homes and extra care housing, Age Concern England, ar gael yn https://housingcare.org/downloads/kbase/2807.pdf (cyrchwyd: 3 Ebrill 2025).
Knocker, S. a Smith, A. (2021) Safe to be me - Meeting the needs of older lesbian, gay, bisexual and transgender people using health and social care services, Age UK, ar gael yn https://www.ageuk.org.uk/siteassets/documents/booklets/safe_to_be_me.pdf (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Lenning, E., Brightman, S. a Buist, C. L. (2021) ‘The trifecta of violence: a socio-historical comparison of lynching and violence against transgender women’. Critical Criminology, 29, tt. 151-172, doi:10.1007/s10612-020-09539-9.
Llywodraeth Cymru (2021) Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, ar gael yn https://www.llyw.cymru/cymru-o-blaid-pobl-hyn-ein-strategaeth-ar-gyfer-cymdeithas-syn-heneiddio-html (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Llywodraeth Cymru (2023) Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) (diwygiedig), ar gael yn https://www.llyw.cymru/cyfeiriadedd-rhywiol-hunaniaeth-o-ran-rhywedd-yng-nghymru-cyfrifiad-2021-diwygiedig-html (cyrchwyd: 11 Ebrill 2025).
Madrigal-Borloz, V. (2023) United Nations Independent Expert on protection against violence and discrimination based on sexual orientation and gender identity, ar gael yn https://www.ohchr.org/sites/default/files/documents/issues/sexualorientation/statements/eom-statement-UK-IE-SOGI-2023-05-10.pdf (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
McDermott, E., Nelson, R. a Weeks, H. (2021) ‘The politics of LGBT+ health inequality: conclusions from a UK scoping review’, International Journal of Environmental Research and Public Health, 18 (2), t. 826, doi:10.3390/ijerph18020826.
McGovern, J. (2014) ‘The forgotten: dementia and the aging LGBT community’, Journal of Gerontological Social Work, 57 (8), tt. 845-857, doi:10.1080/01634372.2014.900161.
Orel, N. (2004) ‘Gay, lesbian and bisexual elders: expressed needs and concerns across focus groups’, Journal of Gerontological Social Work, 43 (2 –3), tt. 57-77, doi:10.1300/J083v43n02_05.
Peel, E. a McDaid, S. (2015) ‘Over the rainbow’: lesbian, gay, bisexual and trans people and dementia project summary report, Prifysgol Caerwrangon, ar gael yn https://dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/Over-the-Rainbow-LGBTDementia-Report.pdf (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Richardson, D. (2000) ‘Claiming citizenship? Sexuality, citizenship and lesbian/ feminist theory’, Sexualities, 3 (2), tt. 255-272, doi:10.1177/136346000003002009.
Safer, J. D., Coleman, E., Feldman, J., Garofalo, R., Hembree, W., Radix, A. a Sevelius, J. (2016) ‘Barriers to healthcare for transgender individuals’, Current opinion in endocrinology, diabetes, and obesity, 23 (2), tt. 168-171. doi:10.1097/MED.0000000000000227.
Skills for Care (2025) LGBTQ+ learning framework, ar gael yn https://www.skillsforcare.org.uk/Developing-your-workforce/Care-topics/Equality-diversity-and-inclusivity/LGBTQ-learning-framework.aspx (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Stinchcombe, A., Smallbone, J., Wilson, K. a Kortes-Miller, K. (2017) ‘Healthcare and end-of-life needs of lesbian, gay, bisexual, and transgender (LGBT) older adults: a scoping review’, Geriatrics, 2 (1), t. 13, doi:10.3390/geriatrics2010013.
Stonewall (2022) List of LGBTQ+ terms, ar gael yn https://www.stonewall.org.uk/resources/list-lgbtq-terms (cyrchwyd: 24 Chwefror 2025).
Westwood, S. (2015) ‘“We see it as being heterosexualised, being put into a care home”: Gender, sexuality and housing/care preferences among older LGB individuals in the UK’, Health and Social Care in the Community, 24 (6), tt. e155-e163, doi:10.1111/hsc.12265.
Westwood, S. (2016) ‘LGBT* ageing in the UK: spatial inequalities in older age housing/care provision’, Journal of Poverty and Social Justice, 24 (1), tt. 63-76, doi:10.1332/175982716X14538098308249.
Westwood, S., King, A., Almack, K. Suen, Y.T. a Bailey, L. ‘Good practice in health and social care provision for LGBT older people in the UK’, in Fish, J. a Karban, K. (eds.) (2015) Lesbian, gay, bisexual and trans health inequalities: International perspectives in social work, Bryste, Policy Press, tt. 145-158.
Willis, P. (2017) ‘Queer, visible, present: the visibility of older LGB adults in long-term care environments’, Housing, Care and Support, 20 (3), tt. 110-120, doi:10.1108/HCS-04-2017-0007.
Willis, P., Beach, B., Powell, J., Vickery, A., Cameron, A. a Smith, R. (2023) ‘“There isn’t anybody else like me around here”: the insider-outsider status of LGBT residents in housing with care schemes for older people’, Frontiers in Sociology, 8, 1128120, doi:10.3389/fsoc.2023.1128120.
Willis, P., Maegusuku-Hewett, T., Raithby, M. a Miles, P. (2016) ‘Swimming upstream: the provision of inclusive care to older lesbian, gay and bisexual (LGB) adults in residential and nursing environments in Wales’, Ageing and Society, 36 (2), tt. 282-306, doi:10.1017/S0144686X14001147.
Withall, L. (2014) Dementia, transgender and intersex people: do service providers really know what their needs are?, Alzheimer’s Australia, ar gael yn https://old.lgbtihealth.org.au/wp-content/uploads/2018/01/130739_LGBTI-Discussion-Paper.2-21.pdf (cyrchwyd: 3 Ebrill 2025).