Dr Grace Krause
Cydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymruDr Kat Deerfield
Cydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymruYsgrifennwyd gan Dr Grace Krause a Dr Kat Deerfield
Yn y blog hwn, byddwn ni’n edrych ar dystiolaeth o astudiaeth yn 2022 sy’n cysylltu incwm teuluoedd â’r tebygolrwydd o blant yn cael eu rhoi mewn gofal.
Mae llawer o ymchwil eisoes yn dangos bod plant mewn teuluoedd tlotach yn fwy tebygol o gael eu rhoi mewn gofal. Ond does dim llawer o ymchwil ynghylch sut gall newidiadau i incwm teuluoedd effeithio ar y tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd.
Mae’r astudiaeth hon yn edrych ar sut mae gwahanol ymyriadau sy’n effeithio ar gyllid teuluoedd hefyd yn dylanwadu ar les plant, a sut gall gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr adolygiad ‘cyflym’. Dyma fath o astudiaeth sy'n edrych ar ymchwil presennol ar bwnc ac yn cymharu canlyniadau astudiaethau gwahanol. Yn yr achos hwn, edrychodd yr ymchwilwyr ar 10 astudiaeth a oedd yn profi sut roedd gwahanol ymyriadau wedi effeithio ar gyllid teuluoedd. Daeth naw o’r astudiaethau o’r Unol Daleithiau ac un o Ddenmarc.
Roedd y teuluoedd dan sylw eisoes wedi cael rhyw fath o gymorth (er enghraifft budd-daliadau’r wladwriaeth neu gymhorthdal tai) neu roedden nhw eisoes mewn cysylltiad â’r system ofal. Roedd yr holl ymyriadau dan sylw wedi effeithio’n uniongyrchol ar gyllid teuluoedd. Edrychodd pump o’r astudiaethau ar fesurau a oedd wedi gwella sefyllfa ariannol teuluoedd (fel taliadau arian parod neu gymorth ymarferol). Roedd y pump arall yn canolbwyntio ar fesurau a oedd wedi gwaethygu sefyllfa ariannol teuluoedd (er enghraifft llai o fudd-daliadau). Fe wnaethon nhw astudio effeithiau’r mesurau i weld a oedd plant yn fwy tebygol o gael eu rhoi mewn gofal neu a oedd plant â phrofiad o fod mewn gofal yn fwy neu’n llai tebygol o ddychwelyd i fyw gyda’u teuluoedd.
Defnyddiodd y 10 astudiaeth ddulliau gwahanol i archwilio’r cysylltiad rhwng cyllid teuluoedd a phrofiadau o ofal. Er enghraifft, defnyddiodd rhai ddata gweinyddol hirdymor (gwybodaeth sy’n cael ei chreu pan fydd pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus) i dracio effaith newidiadau i systemau budd-daliadau’r wladwriaeth. Drwy wneud hynny, gallai’r astudiaethau edrych ar sut roedd newidiadau mewn polisïau wedi effeithio ar deuluoedd. Roedd astudiaethau eraill yn profi beth sy’n digwydd pan fydd teuluoedd yn cael cymorth uniongyrchol drwy ymyriadau arbrofol.
Nid oedd pob ymyriad wedi effeithio ar y tebygolrwydd y byddai plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Ond yn achos yr ymyriadau oedd yn cael effaith, daeth patrwm clir i’r amlwg. Roedd ymyriadau a oedd yn gwneud teuluoedd yn dlotach yn fwy tebygol o arwain at blant yn cael eu rhoi mewn gofal neu, os oedd plant eisoes mewn gofal, roedden nhw’n llai tebygol o ddychwelyd at eu teuluoedd. Roedd ymyriadau a oedd yn gwella sefyllfa ariannol teuluoedd, yn llai tebygol o arwain at blant yn cael eu rhoi mewn gofal ac roedd hi’n fwy tebygol y byddai plant sy’n derbyn gofal yn dychwelyd at eu teuluoedd.
Edrychodd yr ymchwilwyr ar ble y gallai ymyriadau helpu teuluoedd a nodi pedwar llwybr posibl a allai ddylanwadu ar y risg o blentyn yn cael ei roi mewn gofal:
Mae’r canfyddiadau ar gyflogaeth yn gyfyngedig oherwydd bod yr ymchwil dim ond wedi archwilio a oedd mamau sengl yn gweithio ai peidio.
Roedd effeithiau cadarnhaol neu negyddol cyflogaeth mamau mewn teuluoedd mamau sengl yn dibynnu ar amgylchiadau fel eu rhesymau dros chwilio am waith, natur y gwaith, a’u mynediad at ofal plant a mathau eraill o gymorth.
Roedd mamau a oedd yn dymuno gweithio yn fwy tebygol o wella eu llesiant drwy gyflogaeth am dâl, a hyn, o bosibl, yn arwain at well llesiant teuluol a chyfraddau is o blant yn cael eu rhoi mewn gofal.
Ond pan oedd angen i famau nad oedden nhw’n dymuno gweithio ymgymryd â gwaith am dâl oherwydd eu bod wedi colli incwm arall, roedd effeithiau negyddol. Roedd mamau yn y sefyllfa hon yn debygol o gymryd swyddi ansicr oedd yn talu’n wael, ac roedd hyn yn cael effaith negyddol ar eu llesiant a’u gallu i ofalu am eu plant.
Roedd yr effeithiau negyddol hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o blant yn cael eu rhoi mewn gofal.
Pan oedd mwy o arian ar gael, roedd amgylchedd y cartref yn well i blant. Gallai teuluoedd ddarparu safon byw uwch a mwy o sefydlogrwydd economaidd. Dangosodd rhai astudiaethau y gallai mwy o sicrwydd ariannol gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl rhieni. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw fodloni anghenion emosiynol eu plant. Ond roedd gostyngiad yn incwm y teulu yn achosi pwysau ariannol a straen emosiynol a oedd yn effeithio ar allu rhieni i fodloni anghenion eu plant.
Pan oedd incwm y teulu yn gostwng, roedd y risg o ddigartrefedd yn cynyddu. Roedd bod yn ddigartref yn cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl rhieni ac yn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw gefnogi eu plant ym mhob ffordd.
Roedd y risg o ddigartrefedd hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol i riant aros mewn perthynas y gallai fod wedi’i gadael fel arall. I rai, roedd yr anallu hwn i adael perthynas yn gwneud trais domestig neu fathau eraill o gam-drin yn fwy tebygol.
Pan oedd ganddyn nhw lai o bryderon ariannol, roedd teuluoedd yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar rannau eraill o’u bywyd. Roedd ymyriadau a oedd yn gwella sefyllfa ariannol teuluoedd hefyd wedi arwain at well ymgysylltiad a mwy o ymddiriedaeth yn y berthynas â gweithwyr cymdeithasol. Roedd hefyd wedi helpu i wella ymgysylltiad â chyfleoedd hyfforddi, ac agweddau eraill ar ymyriadau.
Mae'r ymchwilwyr yn dadlau y dylai rhai newidiadau i wella sefyllfa ariannol teuluoedd fod ar raddfa fawr, fel newidiadau i systemau budd-daliadau a pholisïau cyflogaeth. Mae’r rhain yn gweithio ar lefel genedlaethol i wella pethau.
Yng Nghymru, mae hyn yn golygu newidiadau i bolisi’r DU a pholisi Cymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i newid y system fudd-daliadau, gan nad yw’r maes hwn wedi’i ddatganoli. Ond mae wrthi’n datblygu Strategaeth Tlodi Plant Cymru. Nod y strategaeth yw newid bywydau plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi drwy feysydd eraill o ddylanwad.
Ar lefel leol, mae ymchwilwyr yn dadlau y dylai gwasanaethau plant ddarparu incwm ychwanegol i deuluoedd sy’n cael trafferthion fel mesur ataliol.
Mae Deddf Plant 1989 yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol i wella lles plant. Mae llawer o ddulliau gwaith cymdeithasol yn canolbwyntio mwy ar feithrin perthynas a newid ymddygiad rhieni drwy fesurau therapiwtig.
Mae’r astudiaeth hon yn dangos manteision archwilio mesurau sy’n gwella mewn ffordd uniongyrchol sefyllfa ariannol teuluoedd mewn argyfwng. Er enghraifft, mae rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi rhoi mwy o reolaeth dros gyllidebau yn nwylo gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd sydd mewn perygl. Mae hyn yn golygu bod modd gwella amgylchiadau teuluoedd drwy ddull ymarferol.
Mae llawer o ymyriadau a dulliau a all atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal oherwydd bod eu teuluoedd yn dlawd. Er mwyn helpu teuluoedd sy’n cael trafferthion, mae modd gwneud newidiadau ar lefel polisi, er enghraifft drwy fudd-daliadau’r wladwriaeth neu gyflwyno lwfans plant cyffredinol. Hefyd, mae pethau y gall awdurdodau lleol a gweithwyr cymdeithasol eu gwneud i wneud gwahaniaeth.
Dydyn ni ddim yn deall popeth sy’n cysylltu amgylchiadau economaidd teuluoedd â’r tebygolrwydd y bydd plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Ond mae’r dystiolaeth yn yr astudiaeth hon yn awgrymu’n glir, pan fydd cyllid teuluoedd yn gwella, mae canlyniadau i blant a theuluoedd yn gwella hefyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn siarad am yr ymchwil hon yn fanylach, neu os hoffech chi archwilio tystiolaeth gofal cymdeithasol yn gyffredinol, tarwch olwg ar ein Cymuned Dystiolaeth.
Mae’r Gymuned Dystiolaeth yn lle diogel i gysylltu a chydweithio. Mae wedi’i chynllunio ar gyfer ymarferwyr, ymchwilwyr, pobl sydd â phrofiad bywyd a’r rheini sydd ag angerdd am, a diddordeb cyffredin mewn, ymchwil a thystiolaeth gofal cymdeithasol.
Gallwch gofrestru ar ein tudalen Cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru a gwneud cais i ymuno â’r Gymuned Dystiolaeth.
Cydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymruCydlynydd ymchwil
ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru