Gofal sy’n seiliedig ar le
Ysgrifennwyd gan Dr Kat Deerfield a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Grace Krause
Chwefror 2024
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n amlygu ymchwil berthnasol a chyfredol ar ofal seiliedig ar le a’i rôl mewn darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gofal seiliedig ar le yn ddull o ddarparu gofal cymdeithasol sy’n defnyddio adnoddau cymunedau lleol i ddiwallu anghenion unigol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth yn gallu gweithio gyda’i gilydd o fewn cymunedau, fel bod pobl yn gallu defnyddio gofal sy’n briodol ac yn amserol. Mae gofal seiliedig ar le wedi cael sylw cynyddol yng Nghymru yn ddiweddar, ond nid yw’n ffordd gwbl newydd o weithio.
Fideo
Cyflwyniad
Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn ffordd o ddarparu gofal cymdeithasol sy’n diwallu anghenion unigol pobl drwy ddefnyddio adnoddau’r gymuned lle maen nhw’n byw neu lle maen nhw’n teimlo bod ganddyn nhw gysylltiad.
Mae gofal sy’n seiliedig ar le’n canolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael mewn ardal i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ac ar yr adeg iawn. Mae’n hybu gweithio amlasiantaethol effeithiol, yn gwella canlyniadau i bobl sydd angen pob math o ofal a chymorth, ac mae’n gwneud yn siŵr bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffyrdd mwyaf effeithlon a chost-effeithiol.
Mae tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod ymyriadau sy’n seiliedig ar le yn gallu cael canlyniadau positif. Mae’r rhain yn cynnwys llai o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd aros byrrach am asesiadau iechyd. Mae pobl sy’n gysylltiedig ag ymyriadau sy’n seiliedig ar le hefyd yn dweud bod lefelau bodlonrwydd â’r cymorth maen nhw’n ei gael yn uwch (Thiel et al., 2013, Parsons a Wade, 2023). Mae gofal sy’n seiliedig ar le hefyd yn gallu helpu rhoi gwerth am arian drwy gael yr adnoddau cywir i’r bobl gywir ac atal rhagor o anghenion iechyd a gofal rhag datblygu (Thiel et al., 2013; Munro, 2015; NHS Confederation, 2020).
Mae pwyslais ar le yn ymdrechu i leihau gwahaniaethau rhwng pobl sy’n byw mewn lleoliadau penodol neu sy’n perthyn i grwpiau economaidd-gymdeithasol gwahanol. Mae’n ymdrechu i wneud hyn drwy dargedu ymyriadau i’r mannau lle mae mwyaf o angen amdanynt a darparu gofal a chymorth gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ym mhob lle (Naylor a Charles, 2022; McGowan et al., 2021).
Mae gofal sy’n seiliedig ar le’n golygu defnyddio adnoddau lleol i sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn
Beth rydyn ni’n golygu wrth ofal sy’n seiliedig ar le?
Mae gweithio sy’n seiliedig ar le yn rhoi pwyslais ar ddarparu gofal sy’n ystyried cymuned unigolyn: y lle maen nhw’n byw, yn treulio’u hamser, neu’n teimlo’n rhan ohono. Mae canolbwyntio ar y lleoedd sy’n bwysig i bobl yn ei gwneud yn bosibl i wneud cysylltiadau rhwng pob math o ofal a chymorth sydd ar gael mewn cymuned. Mae hefyd yn helpu gweithwyr ac aelodau’r gymuned i gysylltu’r wybodaeth leol sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn werthfawr am ei fod yn ei gwneud yn haws i wahanol sefydliadau weithio â’i gilydd gan arwain at ganlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau (NHS Confederation, 2020).
Mae modd dadlau bod pob gofal cymdeithasol yn seiliedig ar le, am ei fod yn digwydd yng nghartref rhywun neu mewn gofod arall yn y gymuned (Ratliff et al., 2023). Ond pan fyddwn ni’n sôn am ofal sy’n seiliedig ar le rydyn ni’n golygu cydweithio lle mae amryw o asiantaethau, sefydliadau, ac unigolion mewn ardal yn dod at ei gilydd i ddarparu gofal, yn enwedig pan fydd y gymuned leol yn rhan ohono (Munro, 2015).
Mae’r ‘lle’ mewn gofal sy’n seiliedig ar le yn aml yn cyfeirio at leoliad ffisegol. Gall hyn ymddangos yn rhywbeth amlwg, ond mae modd ei ddehongli mewn mwy nag un ffordd. Mae hyn yn arwain at beth anghysondeb mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae’r GIG yn diffinio ‘lle’ fel unrhyw leoliad daearyddol gyda phoblogaeth o 250,000 i 500,000 o bobl (NHS Confederation, 2020). Er hynny, mae llawer o ddulliau sy’n seiliedig ar le yn canolbwyntio ar gymunedau llai, ac weithiau yn defnyddio ffiniau awdurdodau lleol i ddiffinio ‘lle’ beth bynnag yw maint y boblogaeth (Naylor a Charles, 2022).
Mewn peth gwaith ymchwil, mae mwy o bwyslais ar ‘ymdeimlad’ pobl o le nag ar leoliad penodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ystyried ym mha ffordd mae pobl yn teimlo cysylltiad â’u cymuned yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ardal ffisegol yn unig (Ratliff et al., 2023). Mae sawl ystyr yn gallu fod i’r syniad o ‘gymuned’ hyd yn oed. ‘Cymunedau lle’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i sôn am grwpiau o bobl, ac mae’n nhw’n defnyddio ‘cymunedau buddiant’ ar gyfer grwpiau o bobl sy’n rhannu hunaniaeth ond nid o reidrwydd yn treulio amser yn yr un lleoliad (Llywodraeth Cymru, 2021). Gall gweithio sy’n seiliedig ar le roi blaenoriaeth i’r lle ble mae unigolyn yn treulio’u hamser a’r cymunedau maen nhw’n rhan ohonyn nhw.
Mae gofal sy’n seiliedig ar le wedi dod yn derm mwy cyffredin yn ddiweddar, ond nid yw’r ffordd hon o weithio’n beth hollol newydd. Mae unrhyw ymyriad neu brosiect sy’n canolbwyntio ar leoliad penodol yn fath o weithio sy’n seiliedig ar le. Ac mae’r dulliau hyn sy’n seiliedig ar le wedi cael eu defnyddio ar hyd a lled y DU ers dros 50 mlynedd (Baker, 2022). Yn 2014, cafodd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Maen nhw’n un enghraifft o sut mae gweithio sy’n seiliedig ar le yn digwydd eisoes ar lefel ranbarthol yng Nghymru. Ar y lefel leol, mae llawer o brosiectau cymunedol yn bod eisoes sy’n enghreifftiau o ofal sy’n seiliedig ar le sy’n digwydd yng Nghymru (Baker, 2022; Easterbrook a Blood, 2022).
Gall lle olygu ‘lleoliad’ a ‘chymuned’
Gofal sy’n seiliedig ar le mewn deddfwriaeth a chanllawiau Cymreig
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWBA) yn cyflwyno’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer hybu llesiant pawb sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn un ffordd o gyflawni’r nodau a’r dyletswyddau sy’n cael eu nodi yn y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn cynnwys pedair egwyddor sylfaenol ar gyfer gofal cymdeithasol. Gall gofal sy’n seiliedig ar le roi sylw i bob un o’r pedair:
- llais a rheolaeth
- Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn rhoi pwyslais ar helpu i ddiwallu nodau unigolyn ar gyfer eu gofal. Mae hyn yn golygu bod eu llais a’u rheolaeth dros eu hamgylchiadau yn ganolog i bopeth
- atal ac ymyrryd yn gynnar
- Mae gofal sy’n seiliedig ar le wedi’i ddylunio i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gafael ar y gofal cywir ar yr adeg gywir. Mae hyn yn osgoi canlyniadau gwaeth a lleihau’r defnydd o wasanaethau brys
- llesiant
- Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn annog canolbwyntio ar yr hyn mae llesiant yn ei olygu yn amgylchiadau pob unigolyn. Mae hyn yn cynnwys sut mae eu cymuned leol yn helpu eu llesiant
- cydgynhyrchu
- Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn creu ac yn cefnogi cyfleoedd i bob sefydliad ac unigolyn sy’n gysylltiedig â gofal ac yn cyfrannu at ddatblygu arferion da.
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) hefyd wedi sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n dwyn nifer o sefydliadau ac aelodau o’r gymuned ynghyd i weithio i ddatblygu dulliau sy’n benodol i ranbarth i gyflawni gofynion llesiant y Ddeddf.
Mae’r fframwaith polisi ar gyfer darparu gofal yng Nghymru wedi’i gynnwys yn Cymru Iachach (2018), sy’n nodi sawl rhaglen sy’n cefnogi gofal sy’n seiliedig ar le. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)
- Rhaglen Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng
- Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r fframweithiau polisi hyn i gyd wedi’u llunio i helpu unigolion sydd angen gofal drwy roi pwyslais ar anghenion, hoffterau a nodau pob unigolyn. Maen nhw hefyd wedi’u creu i gefnogi pobl mewn ffordd sy’n ystyried yr ardal leol lle maen nhw’n byw neu’n treulio’u hamser. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i aros yn, neu ger, eu cartrefi am gyhyd â phosibl.
Mae menter Llywodraeth Cymru Ymhellach, yn Gyflymach yn ymdrech i gyflawni’r nodau sy’n cael eu sefydlu gan y Ddeddf ac sy’n cael eu gosod drwy Cymru Iachach ar gyfer darpariaeth gofal sy'n seiliedig ar le. Bydd yn darparu cyllid a fframwaith polisi i hybu gweithio sy’n seiliedig ar le yn y ddarpariaeth gofal i oedolion hŷn ledled Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, 2023b).
Arweiniodd cyhoeddi Ymhellach, yn Gyflymach at lawer o drafod ar ofal sy’n seiliedig ar le. Ond nid yw popeth am weithio sy’n seiliedig ar le yn newydd Ac nid yw ymchwil i ofal sy'n seiliedig ar le yn canolbwyntio ar newid darpariaeth gofal yn unig. Mae llawer o ymchwil yn ystyried sut mae gofal yn cael ei ddarparu eisoes mewn ffordd sy’n seiliedig ar le. Ac mae angen llawer mwy o ymchwil i gofnodi’r holl arferion da mewn darpariaeth gofal sy’n seiliedig ar le sy’n digwydd eisoes (Evans et al., 2017; Baker, 2022; Ratliff et al., 2023).
Mae gofal sy’n seiliedig ar le’n defnyddio gwybodaeth leol i sefydlu systemau gofal
Prif egwyddorion gofal sy’n seiliedig ar le
Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn gallu cael ei darparu mewn ffyrdd gwahanol sy’n ddibynnol ar gyd-destun ac anghenion y gymuned. Mae defnyddio gwybodaeth leol i sefydlu systemau gofal gydag adnoddau lleol yn gryfder allweddol mewn gofal sy’n seiliedig ar le. Ond mae hyn yn golygu hefyd nad oes un dull a fydd yn addas i bawb yn achos gofal sy’n seiliedig ar le. Nid oes modd ‘trawsgludo’ strategaeth o un lleoliad a gwneud iddi weithio’n llwyddiannus mewn un arall (Goodwin et al., 2013).
Mae tystiolaeth ymchwil wedi dangos rhai egwyddorion cyffredinol sy’n bwysig i ddarparu gofal da sy’n seiliedig ar le. Mae’r rhain yn cynnwys:
- rhoi blaenoriaeth i ganlyniadau unigol pob unigolyn sydd angen cymorth (Munro, 2015)
- creu amgylchedd neu strwythur lle mae sefydliadau ac unigolion yn gallu cydweithio’n glos â’i gilydd ar anghenion lleol (Munro, 2015; Baker, 2022)
- gwneud y berthynas rhwng sefydliadau’n eglur fel bod pawb yn deall sut mae atgyfeiriadau a data’n cael eu rhannu (Baker, 2022; Parsons a Wade, 2023)
- gwneud yn siŵr bod trafodaethau’n agored i safbwyntiau pawb a chreu ‘mannau diogel ar gyfer dadleuon’ (Munro, 2015).
Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn gorgyffwrdd â gweithio mewn partneriaeth amlasiantaethol gan fod y pwyslais ar le’n tanlinellu sut y gall yr holl ffynonellau cymorth mewn ardal weithio â’i gilydd. Gall gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar le weithio â gweithwyr proffesiynol o’r sectorau iechyd, tai, addysg, ieuenctid, a chyfiawnder troseddol, yn ogystal ag ystod o sefydliadau cymunedol.
Gall mentrau sy’n seiliedig ar le dilyn y dulliau ‘o’r brig i lawr’ neu ‘o’r gwaelod i fyny’. Mewn dull ‘o’r brig i lawr’, mae’r llywodraeth yn llunio’r dull ac yn pennu ei nodau ar gyfer y gwaith (Baker, 2022). Mae dull ‘o’r gwaelod i fyny’ yn seiliedig ar wybodaeth ac adnoddau sydd i’w cael mewn cymuned. Mae’n rhoi pwyslais ar y cryfderau hyn, yn hytrach nag ar bethau mae pobl yn teimlo sy’n eisiau yn y gymuned (Munro, 2015). Mae dull ‘o’r gwaelod i fyny’ hefyd yn cydnabod anghydraddoldebau rhanbarthol (McGowan et al., 2021).
Beth mae dull gofal sy’n seiliedig ar le yn ei olygu?
Strategaethau gweithlu sy’n seiliedig ar le
Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn golygu defnyddio adnoddau lleol a gwybodaeth leol i ddiwallu anghenion lleol. Mae natur llawer o’r gwaith sy’n digwydd mewn cymunedau eisoes yn seiliedig ar le. Felly mae gweithio sy’n seiliedig ar le yn aml yn golygu cefnogi pob math o waith drwy hwyluso cysylltiadau mewn cymunedau presennol (Munro, 2015; Ratliff et al., 2023).
Nid oes llawer o ymchwil gyfredol ar gael ynglŷn â pha hyfforddiant a datblygiad byddai’n helpu’r gweithlu gofal cymdeithasol i ddarparu gofal effeithiol sy’n seiliedig ar le. Gwnaeth un astudiaeth ar ddatblygiad dulliau dysgu sy’n seiliedig ar le ddarganfod fod dulliau llwyddiannus yn pwysleisio (Germaine et al., 2022):
- dysgu ‘sy’n canolbwyntio ar bobl’ – gwneud yn siŵr bod gwybodaeth a phrofiad pawb yn cael eu gwerthfawrogi yn y broses ddysgu
- datblygu ‘diwylliannau gwaith tîm’ i hybu dysgu
- creu rhwydweithiau i hybu cyd-ddysgu.
Mae’r tri phwynt uchod yn pwysleisio gwerth safbwyntiau gwahanol, dod â phobl sydd â gwahanol fathau o arbenigedd ynghyd; a helpu pawb i ddysgu gyda’i gilydd (Germaine et al., 2022).
Mae recriwtio sy’n seiliedig ar le yn un ffordd arall lle mae egwyddorion sy’n seiliedig ar le yn cysylltu â datblygu’r gweithlu. Mae recriwtio sy’n seiliedig ar le yn golygu rhoi pwyslais ar recriwtio o fewn ardal leol. Mae hyn hefyd yn golygu defnyddio gwybodaeth leol i ddatblygu ffyrdd effeithiol o recriwtio pobl i rolau gofal cymdeithasol. Mae recriwtio sy’n seiliedig ar le yn un ffordd o ymateb i’r thema denu a recriwtio sy’n rhan o Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, 2020).
Cyllid sy’n seiliedig ar le
Yn aml bydd gwahanol asiantaethau’n gweithio gyda ffynonellau cyllid gwahanol sydd â phrosesau ymgeisio, gofynion, ac amserlenni gwahanol. Mae hyn yn gallu gwneud gweithio’n esmwyth rhwng gwahanol dimau’n fwy o her. Gall modelau cyllido sy’n seiliedig ar le helpu i roi sylw i hyn drwy ddarparu cyllid i gryfhau cymunedau neu ardaloedd penodol. Mae hyn yn atal adnoddau rhag cael eu cyfeirio’n unig at y partneriaid unigol sy’n gwneud y gwaith (LGA et al., 2018; Baker, 2022). Mae gwerthusiadau o rai dulliau sy’n seiliedig ar le yn awgrymu y gall rhai modelau cyllido sy’n seiliedig ar le helpu i’w gwneud yn haws i wahanol asiantaethau gydweithio'n effeithiol (Baker, 2022). Mae angen rhagor o ymchwil i ddeall y ffyrdd mwyaf effeithlon o ariannu gofal sy’n seiliedig ar le.
Er mwyn i ofal sy’n seiliedig ar le fod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i unigolion a sefydliadau wybod hefyd pa gyllid ac adnoddau sydd ar gael mewn ardal. Un ffordd o wneud hyn yw creu adnoddau sy’n ymateb i'r angen hwn. Mae Ymhellach, yn Gyflymach yn ymdrech i hybu gweithio sy’n seiliedig ar le drwy ddefnyddio dull digidol yn gyntaf gan gynnwys sefydlu adnoddau canolog a fydd yn ei gwneud yn haws i ddod o hyd i gymorth. Mae hyn wedi’i ddatblygu i wneud pob rhan o’r siwrnai ofal yn haws i bob math o ddarparwr drwy godi ymwybyddiaeth a gwella hygyrchedd adnoddau (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, 2023b).
Mae ymchwil yn dweud wrthyn ni bod gofal sy’n seiliedig ar le yn gallu arwain at ganlyniadau gwell
Ydy dull sy’n seiliedig ar le yn gweithio?
Mae ffactorau ehangach yn cael effaith ddifrifol ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’r rhain yn cynnwys llai o arian i wasanaethau cyhoeddus, ymadawiad y DU â’r UE, y pandemig COVID-19, a newid yn yr hinsawdd. Hefyd, mae anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau’n eithriadol o uchel yn y DU, ac mae adferiad Cymru ar ôl argyfwng ariannol 2008 wedi bod yn arafach na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (Baker, 2022).
Mae’r heriau hyn yn rhai cyffredinol ond maen nhw’n effeithio ar rai cymunedau fwy nag eraill (Thiel et al., 2013; Baker, 2022). Mae gan ofal cymdeithasol rôl hanfodol i’w chwarae i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyfoeth, hiliaeth a gwahaniaethu, ac allgau ac ynysigrwydd, ar yr un pryd â diwallu anghenion gofal uniongyrchol unigolion. Mae ymchwil yn awgrymu bod gofal sy’n seiliedig ar le yn helpu ni i ddeall y cysylltiadau rhwng anghenion unigolion, eu safonau byw lleol, a phrofiadau eu cymunedau ehangach (Baker, 2022; McGowan et al., 2021; Ratliff et al., 2023).
Gall dull gofal sy’n seiliedig ar le helpu i ymateb i nifer o heriau am ei bod yn anodd datblygu pwyslais ar y cyd a chyd-ddysgu rhwng nifer o asiantaethau a chymunedau (Munro, 2015). Gall ymwybyddiaeth o faterion lleol – gan gynnwys adnoddau a heriau – helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn gweithio i fynd i’r afael â phroblemau’n effeithiol drwy gydweithio (Munro, 2015; McGowan et al., 2021).
Mae ymchwil yn dweud wrthyn ni bod gofal sy’n seiliedig ar le yn gallu:
- cefnogi gweithio amlasiantaethol effeithiol
- arwain at ganlyniadau gwell
- cynnig gwerth am arian.
Hybu gweithio amlasiantaethol
Mae gweithio llwyddiannus sy’n seiliedig ar le yn gofyn bod y sefydliadau a’r unigolion sy’n cefnogi gofal yn cydweithio. Ar yr un pryd, mae gweithio sy’n seiliedig ar le yn un fframwaith gall helpu i wneud gweithio amlasiantaethol yn haws drwy annog pwyslais ar y cyd ar le. Mae rhannu’r pwyslais hwn yn ei gwneud yn haws i ddarparu’r gofal cywir yn y ffordd fwyaf effeithlon (Goodwin et al. 2013; Baker, 2022).
Mae gweithio amlasiantaethol effeithiol yn dibynnu ar rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o ba adnoddau sydd ar gael. Elfen o weithio sy’n seiliedig ar le yw cynllunio sut mae asiantaethau yn gallu rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth. Wrth edrych ar bartneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar le, gwnaeth Parsons a Wade (2023) y canfyddiad nad oedd nyrsys bob amser yn gwybod beth i’w wneud ynglŷn â materion ‘anghlinigol’ nad oedden nhw’n cael eu hystyried yn bryderon diogelu. Roedd yr ansicrwydd hwnnw weithiau’n golygu nad oedd nyrsys yn gallu gwneud atgyfeiriadau pan oedd angen cymorth gofal cymdeithasol. Yn y tîm sy’n seiliedig ar le, roedd cysylltiadau a sgyrsiau a oedd yn digwydd rhwng gweithwyr drwy’r bartneriaeth sy’n seiliedig ar le yn helpu pob grŵp i ddeall beth oedd pawb yn gallu cynnig. Roedd hyn yn golygu bod y cymorth cywir yn gallu fod ar gael i ystod ehangach o anghenion gofal (Parsons a Wade, 2023).
Yn ôl Parsons a Wade (2023), wrth i lwyddiannau’r fenter ddod yn fwy eglur, ymunodd mwy a mwy o asiantaethau. Daeth yn amlwg hefyd fod presenoldeb mewn cyfarfodydd tîm yn parhau’n uchel yn achos yr holl sefydliadau ac unigolion oedd yn gysylltiedig â’r gwaith (Parsons a Wade, 2023). Mae hyn yn awgrymu bod dulliau sy’n seiliedig ar le yn helpu i wneud yn siŵr bod nifer o asiantaethau yn siarad â’i gilydd ac yn cydweithio.
Mae rhoi pwyslais ar le’n ymdrechu i leihau gwahaniaethau mewn canlyniadau rhwng gwahanol ranbarthau a grwpiau
Gwella canlyniadau
Mae ymchwil yn awgrymu bod gofal sy’n seiliedig ar le yn gallu gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio cymorth. Mae dulliau sy’n seiliedig ar le wedi’u dylunio i adeiladu ar wybodaeth leol ac i gydnabod anghenion lleol (Goodwin et al., 2013). Mae hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen. Mae cael pobl i ddefnyddio’r cymorth lleol cywir yn golygu y gallan nhw gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal. Mae canfyddiadau ymchwil yn awgrymu bod y gwahanol fathau o gymorth sy’n cael ei gynnig gan dimau sy’n seiliedig ar le yn helpu unigolion i adnabod ac i wneud eu dewisiadau eu hunain am gael gofal (Parsons a Wade, 2023).
Mae canlyniadau gwell yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, felly mae mesur llwyddiant ymyriadau sy’n seiliedig ar le yn gallu bod yn anodd. Ond mae tystiolaeth ar gael sy’n dangos bod ymyriadau sy’n seiliedig ar le yn lleihau nifer yr ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys. A’u bod nhw’n lleihau’r amseroedd aros i gael asesiadau iechyd (Parsons a Wade, 2023). Mae pobl hefyd yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy annibynnol ac yn fwy bodlon â’u gofal a chymorth (Thiel et al., 2013). Mae gofal sy’n seiliedig ar le hefyd yn cael ei gysylltu â chost-effeithiolrwydd gwell a mwy o allu i wneud gwaith ataliol, am fod yr adnoddau cywir yn mynd i’r bobl sydd eu hangen (Thiel et al., 2013; Munro, 2015; NHS Confederation, 2020).
Mae rhoi pwyslais ar le yn ymdrechu i leihau gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a gofal rhwng gwahanol ranbarthau a grwpiau. Mae cyflwyno ymyriadau mewn ardaloedd penodol a manteisio ar ddealltwriaeth leol o anghenion lleol yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb drwy sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu lle mae mwyaf o angen amdano ac yn y ffordd fwyaf effeithlon (Naylor a Charles, 2022; McGowan et al., 2021).
Mae tystiolaeth bod rhoi pwyslais ar le a chymuned yn arbennig o bwysig mewn gofal cymdeithasol i oedolion hŷn. Mae ymchwil i lesiant ac iechyd ar gyfer oedolion hŷn yn dangos bod pobl yn cael canlyniadau gwell pan fyddan nhw’n aros gartref ac yn eu cymuned leol cyhyd â phosibl. Mae’r canlyniadau hyn yn cynnwys (NHS Confederation, 2020; Robertson et al., 2020):
- osgoi derbyniadau diangen i ysbytai
- lleihau ynysigrwydd
- helpu i greu ymdeimlad o gysylltiad â’r gymuned yn ddiweddarach mewn bywyd
- lleihau arosiadau ysbyty i bobl sy’n barod i gael eu rhyddhau.
Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, ond mae hefyd yn galluogi modelau o ofal preswyl sydd wedi’u hintegreiddio i’r gymuned ehangach. Nid oes rhaid rhoi terfyn ar weithio sy’n seiliedig ar le am fod unigolyn yn symud i leoliad gwahanol. Ac mae dulliau sy’n seiliedig ar le yn cydnabod bod popeth yn bodoli o fewn y gymuned – gan gynnwys lleoliadau gofal y tu allan i’r cartref (Evans et al., 2017).
Rhoi gwerth am arian
Mae adnoddau prin gwasanaethau cymdeithasol yn golygu bod cynnal holl anghenion pobl yn effeithiol yn gallu bod yn anodd (McGowan et al., 2021; Baker, 2022). Pan fydd cyllid ar gael ar gyfer gofal sy’n seiliedig ar le, fel y cyllid ar gael drwy Ymhellach, yn Gyflymach, bydd hyn yn cyfeirio adnoddau at wasanaethau cymunedol ataliol (Hywel Dda UHB, 2023b). Gall gwasanaethau gofal cymunedol sy’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar le fanteisio ar adnoddau a gwybodaeth leol. Gall hyn wneud byd o wahaniaeth pan fydd adnoddau’n brin, a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol posibl (Munro, 2015; Parsons a Wade, 2023).
Mae angen rhagor o ymchwil i ddangos sut yn union y gall gofal sy’n seiliedig ar le arbed costau (McGowan et al., 2021). Ond mae peth ymchwil wedi dangos bod gweithio sy’n seiliedig ar le yn gallu arbed arian drwy leihau derbyniadau ysbyty ac osgoi treulio amser diangen mewn ysbytai (Thiel et al., 2013; Munro, 2015). Mae’n bosibl hefyd arbed costau drwy ddod â’r sefydliadau sy’n gweithio mewn cymuned at ei gilydd, fel bod y cymorth mwyaf priodol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon (Munro, 2015; Parsons a Wade, 2023).
Casgliad
Mae’r fenter Ymhellach, yn Gyflymach wedi golygu bod mwy o sylw’n cael ei roi i ddarpariaeth gofal sy’n seiliedig ar le yng Nghymru. Mae gofal sy’n seiliedig ar le yn un ffordd o wneud yn siŵr bod gofal yn ymateb i anghenion unigol pobl mewn cymuned. Mae hefyd yn ffordd o annog gweithio effeithiol rhwng y sefydliadau a’r unigolion niferus sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch, a llesiant pobl. Mae ymchwil yn awgrymu y gall dulliau sy’n seiliedig ar le helpu â llawer o’r heriau sydd bellach yn wynebu’r sector gofal. Mae ymchwil yn awgrymu hefyd y bydd mwy o weithio sy’n seiliedig ar y gymuned yn arwain at ganlyniadau gwell i’r rhai sy’n cael gofal a chymorth.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i ofal sy’n seiliedig ar lesydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
- Baker, S. (2022) Adolygiad cwmpasu o ddulliau gweithredu seiliedig ar le o ymgysylltu â'r gymuned a darparu cymorth i gymunedau, Llywodraeth Cymru, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2022-06/adolygiad-cwmpasu-o-ddulliau-gweithredu-seiliedig-ar-le-o-ymgysylltu-ar-gymuned-a-darparu-cymorth-i-gymunedau.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
- McGowan, V., Buckner, S., Mead, R., McGill, E., Ronzi, S., Beyer, F. a Bambra, C. (2021) ‘Examining the effectiveness of place-based interventions to improve public health and reduce health inequalities: an umbrella review’, BMC Public Health, 21 (1), doi:10.1186%2Fs12889-021-11852-z, ar gael yn https://doi.org/10.1186%2Fs12889-021-11852-z.
- NHS Confederation. (2020) From place-based to place-led: a whole-area approach to integrating care systems. https://www.nhsconfed.org/publications/place-based-place-led (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
- Parsons, J. a Wade, S. (2023) ‘Making a success of a place-based team’, Journal of Community Nursing, 37(1), tt. 59-64, ar gael yn https://www.proquest.com/docview/2779943795.
- Robertson, J. M., Gibson, G., Greasley-Adams, C., McCall, V., Gibson, J., Mason-Duff, J. and Pengelly, R. (2022) ‘“It gives you a reason to be in this world”: the interdependency of communities, environments and social justice for quality of life in older people’, Ageing & Society 42 (3), tt. 539-563, doi: 10.1017/S0144686X20000859, ar gael yn https://doi.org/10.1017/S0144686X20000859.
Rhestr cyfeiriadau -
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (2020) Cymru Iachach: Strategaeth ein Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar gael yn https://aagic.gig.cymru/files/workforce-strategy/ (cyrchwyd: 4 Gorffennaf 2023).
Baker, S. (2022) Adolygiad cwmpasu o ddulliau gweithredu seiliedig ar le o ymgysylltu â'r gymuned a darparu cymorth i gymunedau, Llywodraeth Cymru, ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2022-06/adolygiad-cwmpasu-o-ddulliau-gweithredu-seiliedig-ar-le-o-ymgysylltu-ar-gymuned-a-darparu-cymorth-i-gymunedau.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (2023a) Y Gweinidog Iechyd yn canmol gweithio mewn partneriaeth yn Ysbyty Cymunedol, ar gael yn https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/y-gweinidog-iechyd-yn-canmol-gweithio-mewn-partneriaeth-yn-ysbyty-cymunedol/ (cyrchwyd: 14 Gorffennaf 2023).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (2023b) Buddsoddi hyd at £30m mewn gofal yn y gymuned i leihau’r pwysau ar ysbytai, ar gael yn https://www.llyw.cymru/buddsoddi-hyd-30m-mewn-gofal-yn-y-gymuned-i-leihaur-pwysau-ar-ysbytai (cyrchwyd: 14 Gorffennaf 2023).
Easterbrook, L. a Blood, I. (2022, heb ei gyhoeddi) Scoping how we can support the development of different workforce and care service models within communities across Wales.
Evans, S., Atkinson, T., Darton, R., Cameron, A., Netten, A., Smith, R. a Porteus, J. (2017) ‘A community hub approach to older people’s housing’, Quality in Ageing and Older Adults, 18(1), tt. 20-32. doi:10.1108/QAOA-02-2015-0008.
Firmin, C., Curtis, G., Fritz, D., Olaitan, P., Latchford, L. a Larasi, I. (2016) Towards a Contextual Response to Peer-on-Peer Abuse: Research and Resources from Misunderstood Local Site Work 2013–2016, University of Bedfordshire, ar gael yn https://www.contextualsafeguarding.org.uk/media/ie2kygq4/towards-a-contextual-response-to-peer-on-peer-abuse_161013_170057.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Germaine, R., Manley, K., Stillman, K. a Nicholls, P.J. (2022) ‘Growing the interprofessional workforce for integrated people-centred care through developing place-based learning cultures across the system’, International Practice Development Journal, 12(1), doi:10.19043/ipdj.121.004.
Gofal Cymdeithasol Cymru (2023), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Trosolwg, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/hyb-gwybodaeth-a-dysgu/deddf-sswb/trowsolwg (cyrchwyd: 24 Gorffennaf 2023).
Goodwin, N., Sonola, L., Thiel, V. a Kodner, D.L. (2013) Co-ordinated care for people with complex chronic conditions, The King’s Fund, ar gael yn https://www.kingsfund.org.uk/sites/default/files/field/field_publication_file/co-ordinated-care-for-people-with-complex-chronic-conditions-kingsfund-oct13.pdf (cyrchwyd: 14 Mehefin 2023).
Local Government Association (LGA), Association of Directors of Adult Social Services, NHS Clinical Commissioners, NHS Confederation, NHS Providers and Association of Directors of Public Health (2018) Shifting the centre of gravity: making place-based, person-centred health and care and reality, ar gael yn https://www.local.gov.uk/sites/default/files/documents/1.84%20-%20Shifting%20the%20centre%20of%20gravity%20WEB_0.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Llywodraeth Cymru (2018) Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 24 Gorffennaf 2023).
Llywodraeth Cymru (2020) Byrddau partneriaeth rhanbarthol (RPBs), ar gael yn https://www.llyw.cymru/byrddau-partneriaeth-rhanbarthol (cyrchwyd: 24 Gorffennaf 2023).
Llywodraeth Cymru (2021) Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010., ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-03/cymru-sy%E2%80%99n-fwy-cyfartal.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Llywodraeth Cymru (2022) Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/y-gronfa-integreiddio-rhanbarthol-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol (cyrchwyd: 24 Gorffennaf 2023).
McGowan, V. J., Buckner, S., Mead, R., McGill, E., Ronzi, S., Beyer, F. a Bambra, C. (2021) ‘Examining the effectiveness of place-based interventions to improve public health and reduce health inequalities: an umbrella review’, BMC Public Health, 21(1), doi:10.1186%2Fs12889-021-11852-z (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Munro, F. (2015) Place-based working, IRISS, ar gael yn https://www.iriss.org.uk/sites/default/files/2016-07/iriss-on-placebasedworking-08-2015-2.pdf (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Naylor, C. a Charles, A. (2022) Place-based partnerships explained, The King’s Fund, ar gael yn https://www.kingsfund.org.uk/publications/place-based-partnerships-explained (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
NHS Confederation (2020) From place-based to place-led: a whole-area approach to integrating care systems, ar gael yn https://www.nhsconfed.org/publications/place-based-place-led (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Owens, R. a Lloyd, J. ‘From behaviour-based to ecological: Multi-agency partnership responses to extra-familial harm’, Journal of Social Work, 13 Mawrth 2023. doi:10.1177/14680173231162553 (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Parsons, J. a Wade, S. (2023) ‘Making a success of a place-based team’, Journal of Community Nursing, 37(1), tt. 59-64, ar gael yn https://www.proquest.com/docview/2779943795.
Ratliff, G. A., Graaf, G. a Choy-Brown, M. (2023) ‘Orienting social work to incorporate place-based principles: A practical guide to the use of place in social work practice’, Journal of Social Work, 20 Mawrth 2023. doi:10.1177/14680173231162537 (cyrchwyd: 23 Mai 2023).
Robertson, J. M., Gibson, G., Greasley-Adams, C., McCall, V., Gibson, J., Mason-Duff, J. a Pengelly, R. (2022) “It gives you a reason to be in this world”: the interdependency of communities, environments and social justice for quality of life in older people’, Ageing & Society 42 (3), tt. 539-563. doi:10.1017/S0144686X20000859.
Thiel, V., Sonola, L., Goodwin, N. a Kodner, D.L. (2013) Developing community resource teams in Pembrokeshire, Wales, The King’s Fund, ar gael yn https://www.kingsfund.org.uk/insight-and-analysis/reports/developing-community-resource-teams-pembrokeshire-wales (cyrchwyd: 4 Mawrth 2024).
Lawrlwythwch PDF
Lawrlwythwch y crynodeb tystiolaeth hwn fel PDF