Skip to Main content

Buddion adrodd straeon

Beth yw’r buddion sy’n ysgogi’r defnydd o adrodd straeon mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol?

Gallwn ni eu dychmygu fel to sy'n cysgodi ac yn amddiffyn y tri philer o ymarfer adrodd straeon. 

Rydyn ni wedi nodi pedwar budd allweddol:

  • cefnogi gwrando’n astud
  • ymgysylltu pen, calon a dwylo
  • meithrin perthnasoedd a chymuned
  • croesawu cymhlethdod.

Cefnogi gwrando'n astud

Fel pobl, efallai bod gennym ni lawer yn gyffredin. Ond rydyn ni i gyd yn unigryw, gyda gwahanol bersonoliaethau a straeon bywyd sy'n siapio pwy ydyn ni. Roedd Tom Kitwood, arloeswr gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cydnabod pa mor bwysig yw gwerthfawrogi pob unigolyn.

"Pan rydych chi wedi cwrdd ag un person â dementia, rydych wedi cwrdd ag un person â dementia." (Kitwood, 1997).

Mae'n hanfodol gwrando ar 'beth sy'n bwysig' i bob person o'u safbwynt nhw. I'r rhan fwyaf o bobl, mae hyn wedi'i fframio yn eu straeon - hynny yw, o ble maen nhw wedi dod, ble maen nhw nawr a ble maen nhw eisiau mynd. Gall astudiaeth achos gynnig rhywfaint o ddealltwriaeth i ni am berson, ond mae stori bersonol yn rhoi ei brofiad ei hunain i ni o'r byd.

Gall chwilio am straeon hefyd ein helpu i wrando’n astud ar y lleisiau nad ydym yn eu clywed yn aml.

Dyma enghraifft o stori ddigidol gan ddyn awtistig ifanc sy'n medru adrodd ei story drwy deipio:

Mae gwrando'n astud yn caniatáu ar gyfer dull personol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau o ran asesu, cynllunio gofal a chymorth, ac yn bwysicaf oll, yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u dilysu. Mae hyn yn golygu y gall fod â gwerth therapiwtig.

Ymgysylltu pen, calon a dwylo

Mae adrodd straeon yn bwerus. Mae'n ein helpu i ddysgu oherwydd ei fod yn ymgysylltu â'n deallusrwydd (pen) a'n hemosiynau (calon) ac wedi'i seilio ar fywyd go iawn neu brofiadau ymarferol (dwylo).

Canolbwyntiodd prosiect ymchwil DEEP (Andrews et al, 2020) ar roi ymchwil gan raglen Sefydliad Joseph Rowntree, Bywyd Gwell, ar waith. Roedd y rhaglen yn ymwneud â'r hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn ag anghenion cymorth uchel, a oedd yn cynnwys pwysigrwydd y 'pethau bychain':

"Yn aml, y pethau syml sy'n dod â'r pleser mwyaf (a gall y diffyg ohonyn nhw ddod ag ymdeimlad o dristwch a cholled) ac nid yw’n ymddangos bod gwasanaethau bob amser yn dda iawn am gyflawni’r ‘cyffredin.'" (Blood, 2013).

Rhannodd Carol ei stori fel rhan o brosiect ymchwil DEEP fel enghraifft o sut i ddod â'r neges ymchwil yn fyw. Mae'n dangos sut y gallwch chi ymgysylltu â'r pen, y galon a'r dwylo ar waith:

"Rwy'n byw mewn cartref gofal ac yn teimlo fy mod i'n bodoli'n unig. Roedd pethau'n wahanol pan oeddwn i'n byw yn y gymuned. Pan oeddwn i'n byw yn y gymuned, roeddwn i'n teimlo bod gen i fywyd. Rhan fach o'r bywyd hwnnw oedd cael trît ddydd Gwener. Roeddwn i'n anabl ac yn methu gwneud llawer, ond ar foreau Gwener byddwn i'n cael tacsi i Waitrose ac yn trin fy hun i 'prawn cocktail' Heston Blumenthal. Roedd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Nawr rydw i yn y cartref nyrsio, dydw i ddim yn ei gael."

- Carol, sy'n byw mewn cartref nyrsio.

Pan glywodd staff yn y cartref nyrsio stori Carol fe greodd ymateb emosiynol yn ogystal â deallusol. Roedden nhw'n teimlo dros Carol ac yn deall ei cholled. Daethon nhw o hyd i ateb ymarferol, gan ddarparu oergell fach i Carol yn ei hystafell. Roedd hyn yn golygu y gallai gael ei thrît ar ddydd Gwener, yn ogystal ag ychydig o prosecco a chaws arbenigol dros y penwythnos. 

Roedd adrodd straeon yn helpu i ymgysylltu'r pen, y galon a'r dwylo ar waith.

Meithrin perthnasoedd a chymuned

Mae meithrin perthnasoedd yn hanfodol ym mhob agwedd ar ofal cymdeithasol, p'un a ydych yn weithiwr cymdeithasol sy'n cefnogi teuluoedd, yn gomisiynydd sy'n gweithio gyda darparwyr, neu'n rheolwr sy'n ymgysylltu â thîm.

"Dydw i ddim yn ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau, dwi'n ffurfio perthnasoedd gyda phobl."

- Karyn McCluskey, Prif Weithredwr, Community Justice Scotland

Mae pwysigrwydd perthnasoedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei grynhoi mewn adroddiad gan y prosiect Perthnasau. Trwy gydol hanes, mae perthynas gryf wedi datblygu wrth i bobl rannu a siarad am eu straeon gyda'i gilydd. Mae adrodd straeon yn helpu i hyrwyddo empathi a dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl eraill. Mae hyn yn meithrin ymddiriedaeth a 'gwybodaeth gyffredin' neu gyd-ddealltwriaeth (Edwards, 2012).

Croesawu cymhlethdod

Rydyn ni'n defnyddio straeon i wneud synnwyr o'r byd, fel a ddywedodd Jonathan Gotschall:

"Rydyn ni, fel rhywogaeth, yn gaeth i'r stori. Hyd yn oed pan aiff y corff i gysgu, mae'r meddwl yn aros i fyny drwy'r nos, gan adrodd straeon iddo'i hun. " (Gotschall, 2013).

Mae bywydau pobl yn gymhleth ac yn newid yn barhaus. Mae'r term 'systemau addasol cymhleth' yn golygu systemau sy'n cynnwys rhannau rhyng-gysylltiedig, rhyngweithiol sy'n addasu i amgylcheddau sy'n newid. 

Mae'r term wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio realiti'r byd sydd ohoni a'r rhwydweithiau cymhleth rydyn ni'n eu creu, megis ein sefydliadau (Health Foundation, 2010). O fewn systemau addasol cymhleth mae'n anodd deall a chynllunio mewn dull llinell syth, rhesymegol.

Mae archwilio profiadau cymhleth pobl drwy eu straeon yn aml yn well oherwydd: 

  • gall straeon ein helpu i weld pethau'n gliriach
  • maen nhw'n gallu helpu ni i ddeall pethau nad ydynt yn gwneud synnwyr ar eu pen eu hunain
  • mae bodau dynol yn storïwyr naturiol. 

Creu'r amgylchedd cywir i ddysgu o straeon

Mae darparu man diogel lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u clywed yn eu hannog i fyfyrio ar straeon yn fwy agored, gan arwain at gyfnewidiadau cyfoethocach a mwy ystyrlon. Mae creu man diogel i archwilio straeon yn gallu digwydd mewn amryw ffordd. Mae dulliau megis Sgwrs Archwiliadol a Chyfathrebu Cydweithredol yn arfau defnyddiol ar gyfer creu'r amodau lle mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud. 

Mae Sgwrs Archwiliadol yn ffordd fyfyriol o gyfathrebu sy'n cynnwys holi penagored a gwrando gweithredol (Mannion a McAllister, 2020). Mae pobl yn cael eu hannog i ddweud pam eu bod yn meddwl, yn credu neu'n teimlo fel maen nhw, am y straeon sy'n cael eu trafod. Ac mae eraill yn cael eu hannog i ofyn cwestiynau a chynnig safbwyntiau amgen.
 

Mae dulliau megis Sgwrs Archwiliadol a Chyfathrebu Cydweithredol yn arfau defnyddiol ar gyfer creu'r amodau lle mae pobl yn cael eu hannog i ddweud eu dweud. 

Gall unigolion gymryd rhan mewn trafodaeth feddylgar sy'n ymchwilio, yn cwestiynu ac yn ehangu eu dealltwriaeth o bwnc. Mae hyn yn helpu pobl i ymgysylltu'n ystyrlon â'r straeon sy'n cael eu rhannu a dysgu oddi wrthyn nhw.

Mae Cyfathrebu Cydweithredol yn fodd o helpu pobl i gydweithio’n well trwy feithrin ymddiriedaeth ac annog pobl i wrando’n weithredol, croesawu adborth a mynd i’r afael â heriau gyda’i gilydd.

Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddatblygu diwylliant adrodd straeon sy'n seiliedig ar arfer da ar ein tudalen Sylfaen foesegol adrodd straeon.

Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Andrews, N., Gabbay, J., le May, A., Miller, E., Petch, A. ac O’Neill, M. (2020) ‘Story, dialogue and caring about what matters to people: progress towards evidence-enriched policy and practice’, Evidence and Policy, 16 (4), tt. 597–618. 

Blood, I. (2013) A Better Life: Valuing Our Later Years, Efrog: Sefydliad Joseph Rowntree. 

Edwards, A. (2012) The role of common knowledge in achieving collaboration across practices, Learning Culture and Social Interaction, 1 (1): tt. 22–32.

Gotschall, J. (2013) The Storytelling Animal: How Stories Make Us Human, Efrog Newydd, Houghton Mifflin Harcourt.

Health Foundation (2010) Evidence Scans: Complex Adaptive Systems, Llundain.

Kitwood, T. (2007) Dementia Reconsidered: The Person Comes First, Buckingham, Gwasg y Brifysgol Agored.

Mannion, J. a McAllister, K. (2020) Fear is the mind killer: why learning to learn deserves lesson time - and how to make it work for your pupils, John Catt.