Skip to Main content

Sylfaen foesegol adrodd straeon

Mae sylfeini adrodd straeon wedi'u hadeiladu o arfer moesegol. Mae gennym ni gyfrifoldeb i gasglu a rhannu straeon yn foesegol. Mae'n ymwneud ag adrodd a rhannu straeon mewn ffordd sy'n deg, yn barchus ac yn onest.

Sut ydyn ni'n rhannu straeon yn foesegol?

Mae straeon yn hynod bersonol, ac mae eu grym yn golygu bod cyfrifoldeb i gasglu a rhannu straeon yn foesegol. Mae moeseg adrodd straeon, p'un ai rhannu ein straeon ein hunain neu rhai pobl eraill, yn seiliedig ar ymddwyn mewn ffordd sy'n deg, yn barchus ac yn onest.

Mae anrhydeddu urddas a gallu storïwyr yn golygu cael caniatâd gan bobl cyn rhannu eu straeon. Mae hefyd yn ymwneud â bod yn sensitif i deimladau a chefndir pobl, a gwneud yn siŵr bod pawb sy'n gysylltiedig yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Cyn casglu a rhannu stori:

  • meddyliwch am yr hyn y gallai ei olygu i'r storïwr, chi a'ch cynulleidfa
  • byddwch yn sensitif i eraill sy'n ymwneud â'r stori
  • gwnewch yn siŵr bod gennych chi broses caniatâd sy'n barhaus ac yn galluogi arolygu ar gyfnodau penodedig sy'n gweithio i bawb
  • os ydych chi'n rhannu stori ag eraill neu'n seilio penderfyniadau arni, ceisiwch sicrhau bod prif ffeithiau'r stori'n gywir a bod y ffeithiau'n cael eu gwirio.

Byddwch yn sensitif i deimladau a chefndir pobl, a gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n gysylltiedig yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi

Sut gallwn ni amddiffyn straeon?

Nodwch le diogel

Mae'n bwysig cadw straeon sy'n cael eu rhannu (copïau digidol, sain neu brint) mewn man diogel. Gall y ffordd y maen nhw'n cael eu storio'n ddiogel dibynnu ar eu defnydd. Er enghraifft, efallai y bydd straeon sy’n cael eu cadw er mwyn llesiant unigol cael eu storio'n wahanol o gymharu â straeon ar gyfer dysgu a datblygu lle mae sefydliad yn eu cadw ar gyfer hyfforddiant.

gliniadur a rhywun yn ysgrifennu nodiadau

Mae hefyd yn bwysig cydnabod gyda chyfranwyr, unwaith y bydd rhywbeth wedi'i rannu ar-lein, na ellir ei ddileu'n llwyr a bydd bob amser yn gadael ôl troed digidol.

Prosesau moesegol

Pan fyddwn ni'n rhannu straeon, rydyn ni'n dilyn yr egwyddorion sy'n cael eu hamlinellu yn ein Codau ymarfer Proffesiynol.

Os ydych chi'n casglu ac yn rhannu straeon ar gyfer gwerthusiad neu ymchwil, mae angen i chi sicrhau:

  • bod eich prosesau'n cyd-fynd â'r safonau moesegol sy'n cael eu nodi ar gyfer pob diben
  • gall person roi caniatâd gwybodus ac, os na all roi caniatâd gwybodus, rydych chi'n dilyn canllawiau priodol
  • rydych chi'n cofnodi’r caniatâd y mae storïwyr yn ei roi i chi ddefnyddio eu straeon.

Mae gennym adnoddau sy'n rhoi arweiniad ar asesu gallu i gydsynio. Os ydych chi eisiau gwybod mwy am foeseg mewn perthynas ag ymchwil a gwerthuso, rydyn ni'n cynnal sesiwn ar foeseg yn ein cyfres Dad-dirgelu gwerthuso.

Sut gallwn ni wneud adrodd straeon mor gynhwysol â phosibl?

Mae adrodd straeon yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ystod o leisiau. Mae adrodd straeon ar ei mwyaf gwerthfawr pan fydd pawb yn cael eu cefnogi i gymryd rhan os mai dyna eu dyhead. Dyma ein diffiniad o fod yn gynhwysol yn y cyd-destun hwn. 

Mae'n bwysig meithrin perthnasoedd diffuant gyda chymunedau amrywiol. Mae hyn yn ein helpu i glywed a rhannu straeon cyfoethog, sy'n wir gynrychioli ac adlewyrchu profiadau unigryw gwahanol grwpiau.

Mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud wrth gasglu straeon i sicrhau eich bod yn ymwybodol, ac yn barchus, o wahaniaethau o ran diwylliant neu gyfathrebu:

  • adeiladwch eich dealltwriaeth eich hun: cymerwch amser i ddysgu am gefndiroedd diwylliannol y bobl sy'n adrodd eu straeon. Gall deall eu hanes, eu traddodiadau a'u gwerthoedd eich helpu i ymdrin â'u straeon gyda pharch a mewnwelediad. Mae’n bwysig ystyried y dulliau cyfathrebu sy’n well gan bobl eu defnyddio.
  • adeiladwch ymddiriedaeth: sefydlwch berthnasoedd gyda'r unigolion a'r cymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw. Dangoswch ddiddordeb yn eu profiadau a buddsoddi amser i ddod i'w hadnabod a deall eu ffurf o gyfathrebu.
  • ceisiwch ganiatâd: rhaid cael y cytundebau angenrheidiol cyn casglu a rhannu straeon. Sicrhewch fod pawb sy'n ymwneud â'r penderfyniadau hyn yn deall sut y bydd y straeon yn cael eu defnyddio a'u bod yn teimlo'n gyfforddus â'r broses.
  • gwrandewch yn astud: rhowch sylw manwl i'r hyn y mae pobl yn ei ddweud a gwrandewch heb farnu nac ymyrryd
  • mynd i'r afael â rhwystrau: meddyliwch am ba bethau allai effeithio ar allu pobl i rannu eu stori (er enghraifft trawma, dewis iaith, stigma). Gallwch chi ddod o hyd i rai canllawiau defnyddiol ar ymarfer cynhwysol yma: https://carelearning.org.uk/blog/equality-and-diversity-blog/what-is-inclusive-practice-in-health-and-social-care/.