
Adrodd straeon er llesiant
Gall adrodd straeon gael effaith bwerus ar lesiant. Gall straeon ffuglennol ein helpu i wneud synnwyr o'r byd a sylweddoli nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain. Gall rhannu ein straeon personol ein hunain fod hyd yn oed yn fwy pwerus. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut mae adrodd straeon yn fodd i wella llesiant pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal cymdeithasol.

Gallwn ni ddefnyddio adrodd straeon i wella llesiant pobl sy’n defnyddio ac yn darparu gofal cymdeithasol. Gall rhoi cyfle i bobl deimlo eu bod yn cael eu clywed a'u deall gael effaith bwerus ar eu bywydau
Meithrin llythrennedd emosiynol
Prosiect 'pethau doniol yw'r teimladau'
Ysgrifennwyd gan Steve Killick
Mae’r prosiect hwn wedi creu pecyn cymorth adrodd straeon i gefnogi ei waith gyda dysgwyr agored i niwed mewn ysgolion, gofalwyr maeth a phlant sy’n derbyn gofal. Mae'n helpu i gefnogi dealltwriaeth emosiynol, hyder a llesiant.
Mae straeon yn cael eu defnyddio i archwilio emosiynau, edrych ar sut maen nhw'n gweithio a sut y i'w rheoli mewn ffyrdd sy'n ddiogel ac yn chwareus. Mae sgiliau adrodd stori hefyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu hyder mewn cyfathrebu.
Darganfod mwy:
Therapi naratif
Ysgrifennwyd gan Rosslyn Offord
Cafodd therapi naratif ei ddatblygu yn yr 1990au gan Michael White a David Epstein. Heddiw mae'n cael ei ddefnyddio ar draws y byd i helpu unigolion a grwpiau cymunedol.
Mae’r dull yn seiliedig ar:
- y syniad ein bod yn deall ac yn byw ein bywydau trwy straeon
- y ffaith bod straeon yn cael eu creu gan bobl mewn ymateb i'w profiadau
- y syniad bod y straeon amlycaf yn ddi-fudd os nad ydynt yn cyd-fynd â'n wir hunaniaeth.
Mae ymarferwyr therapi naratif yn gwrando'n ofalus am straeon llai cyffredin, neu eithriadau i'r brif naratif. Mae adrodd straeon yn cael ei hwyluso gan y therapydd, sy'n annog y person i ystyried y stori mewn ffyrdd arbennig. Weithiau mae pobl eraill yn cymryd rhan, fel tystion i'r straeon.
Darganfod mwy:
Ysgrifennu creadigol
Ysgrifennwyd gan Kate North
Mae ysgrifennu creadigol, lle mae pobl yn tynnu ar eu dychymyg yn ogystal â’u profiadau, yn gallu cefnogi a gwella llesiant pobl sy’n cyrchu gofal a chymorth, ymarferwyr, a chymunedau.
Mae'n bosib defnyddio dulliau ysgrifennu creadigol ar gyfer ymholi a myfyrio. Maen nhw'n effeithiol mewn ymarfer unigol ac mewn grŵp. Mewn cyd-destunau proffesiynol, mae ysgrifennu'n ddefnyddiol ar gyfer adeiladu tîm a hyfforddiant. Yn ehangach, mae ysgrifennu creadigol yn cael ei ddefnyddio i archwilio a dadansoddi systemau, arferion, strwythurau a deinameg.
Darganfod mwy:
Barddoniaeth ar lafar
Ysgrifennwyd gan Duke Al Durham
Trwy gydol ein hanes, mae barddoniaeth wedi cael ei defnyddio i adrodd straeon. Mae barddoniaeth ar lafar yn adeiladu ar y traddodiad hwn trwy helpu pobl i rannu eu straeon a'u profiadau. Mae'n ddull therapiwtig sy'n creu amgylchedd diogel, grymusol. Er enghraifft, gall helpu pobl ifanc i oresgyn stigma a rhannu profiadau am eu hiechyd meddwl. Mae hefyd wedi gweithio'n dda gyda phobl hŷn sy'n cael trafferth gadael eu cartrefi.
Darganfod mwy:
https://www.instagram.com/dukealdurham/
Adrodd straeon trwy'r celfyddydau
Prosiect 'Re-Live'
Ysgrifennwyd gan Karin Diamond
Mae Re-Live yn sefydliad sy'n helpu pobl i fyfyrio ar eu profiad bywyd. Mae'n ymroddi i wella llesiant pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol trwy archwilio a rhannu straeon bywyd.
I ymarferwyr, gall rhannu straeon bywyd â'i gilydd gryfhau deinameg tîm, lleihau gor-lethu, a meithrin gwerthfawrogiad dyfnach o amrywiaeth ddiwylliannol. Gall hyn arwain at amgylchedd gwaith mwy cefnogol a chynhwysol.
I bobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth, mae’n cadarnhau hunaniaeth, yn meithrin ymddiriedaeth gyda gofalwyr ac ymarferwyr, ac yn lleihau straen. Mae gofalwyr di-dâl yn elwa ar berthnasoedd gofalu agosach ac yn cael mewnwelediad gwerthfawr a strategaethau ymdopi. Mae egwyddorion adrodd straeon bywyd Re-Live yn blaenoriaethu llesiant emosiynol ac yn pwysleisio dewis, cydsyniad a chynhwysiant.
Darganfod mwy:
Cefnogi llesiant yn y gweithle
CAKE
Ysgrifennwyd gan Kath McDonald
Gofalu am ein gilydd, gofalu am yr hyn sy'n bwysig, cadw mewn cysylltiad ac ymgysylltu a grymuso (CAKE).
Mae CAKE yn adnodd digidol, rhyngweithiol, rhad ac am ddim sydd wedi'i gynllunio i gefnogi llesiant yn y gweithle. Cafodd ei ddatblygu gan Dr Caroline Dickson a Dr Kath MacDonald.
Mae wedi cael ei brofi, ei werthuso a’i gyflwyno mewn sefydliadau ledled y DU ac mae’n defnyddio dulliau creadigol i helpu i adrodd straeon i gefnogi hunanofal a llesiant unigolion a thimau.
Mae'r 'dafell' adrodd straeon o fewn y CAKE yn helpu pobl i rannu straeon o'r gweithle gan ddefnyddio dulliau sy'n eu helpu i deimlo'n gynwysedig, yn ddiogel a bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Darganfod mwy:
Cefnogi pobl ag anghenion cyfathrebu cymhleth
Rhannu straeon
Ysgrifennwyd gan Nicola Grove
Mae rhannu straeon yn helpu plant ac oedolion ag anawsterau dysgu a chyfathrebu i gofio a rhannu eu straeon eu hunain. Mae'r wefan yn darparu tystiolaeth ar lwyddiant y dull ac yn cynnwys astudiaethau achos stori.
Mae'r gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion, cartrefi, gwasanaethau dydd a gwasanaethau eiriolaeth cymheiriaid.*
Darganfod mwy:
Gwaith stori digidol
Ysgrifennwyd gan Prue Thimbleby
Yn GIG Cymru, mae adrodd straeon digidol yn ddull allweddol o gasglu straeon adborth. Mae straeon digidol cleifion yn ddelfrydol ar gyfer helpu pobl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn ffordd sy'n arwain at ddysgu a gwella gwasanaethau. Mae'r dull hefyd wedi cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol.
Mae'r straeon digidol yn recordiadau llais wedi'u rhoi at ei gilydd gydag un neu fwy o ddelweddau i greu fideo byr.
Mae gan y model dair egwyddor sylfaenol:
- mae'n stori person cyntaf
- mae bob amser yn stori fer – llai na thri munud fel arfer
- mae'r storïwr yn parhau i fod yn gyfarwyddwr y stori - mae'n cael ei chyd-gynhyrchu.
Darganfod mwy:
Hanesion ar lafar
Ysgrifennwyd gan Anna Suschitzky
Mae Mencap Cymru wedi bod yn gweithio gydag hanesion ar lafar gan bobl ag anabledd dysgu ers dros 10 mlynedd. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys tri phrosiect sydd wedi cael eu hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri:
Mae hanesion ar lafar yn recordiadau sain sy'n rhannu straeon personol ac maen nhw'n ffordd o gasglu darnau o hanes.
Mae'r straeon yn cael eu rhannu mewn arddangosfeydd ledled Cymru i geisio codi ymwybyddiaeth, herio rhagdybiaethau, a dathlu hanes y bobl a rannodd eu straeon. Cafodd y straeon eu rhannu hefyd ymhlith llunwyr penderfyniadau a llunwyr polisi yng Nghymru i amlygu meysydd o arfer da a nodi lle mae angen mwy o gymorth ar bobl.
Darganfod mwy:
Mae Mencap Cymru wedi datblygu Fframwaith ar gyfer Adrodd Straeon ar draws y sefydliad a phrosiect ymchwil ynghylch buddion adrodd straeon ar gyfer adeiladu hunaniaeth ac asiantaeth: https://youtu.be/s0Xx1p0cHwc
