Cyflwyniad i reoli data ymchwil yn effeithiol ac yn ymarferol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?
Lefel ragarweiniol - dim angen gwybodaeth flaenorol
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae rheoli data'n effeithiol yn sicrhau bod modd dod o hyd i ddata, eu bod yn hygyrch, bod modd eu rhyngweithredu a'u bod yn gallu cael eu hailddefnyddio (egwyddorion FAIR). Mae'r gwaith o reoli data'n synhwyrol yn seiliedig ar ddeall a defnyddio arferion gorau ar draws cylch bywyd y data, o gynllunio i rannu, gan gadw at safonau moesegol a gofynion cyfreithiol ar yr un pryd.
Mae'r gweithdy 90 munud hwn ar-lein yn archwilio elfennau allweddol rheoli data ymchwil yn effeithiol, gan gynnwys cynllunio rheoli data, trefnu a dogfennu data, sicrhau ansawdd data, storio a gwneud copi wrth gefn o ddata, yn ogystal â strategaethau ar gyfer cadw a rhannu data.
Bydd y gweithdy hefyd yn ymdrin ag offer a thechnegau ymarferol ar gyfer rheoli data, megis safonau metadata ar gyfer dogfennu data, meddalwedd lled-awtomatig ansawdd data, ac arferion gorau ar gyfer rhannu ac archifo data.
Tagiau sgiliau:
- data
- dadansoddi data
- ymchwil
- rheoli data