
Ein hymagwedd at ddata gofal cymdeithasol
Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i wella'r ffordd y mae gofal cymdeithasol yn casglu, rheoli a defnyddio ei ddata.
Yn 2021, fe wnaethon ni gyhoeddi ein Datganiad o Fwriad Strategol, a oedd yn nodi ein huchelgeisiau tymor canolig a hirdymor ar gyfer data mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cafodd yr uchelgeisiau hyn eu hailadrodd yn Strategaeth Ddigidol a Data Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, sy'n dweud:

"Mae data pobl yn sylfaen hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf. Heb ddata cynhwysfawr a phenodol, ni ellir cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy.
"Mae gwybodaeth dda yn ysgogi penderfyniadau clinigol gwell, cynlluniau gwell ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a rheolaeth weithredol well."
Ers cyhoeddi ein datganiad o fwriad, rydyn ni wedi parhau i arwain datblygiad prosiectau data, galluoedd data a'n dealltwriaeth o sut mae data yn cael ei ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol i:
- gwella'r proses o wneud penderfyniadau
- hyrwyddo ein dealltwriaeth o sut mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu
- gwella gofal a chymorth.
Ein prosiectau data
Cliciwch ar y dolenni isod i weld rhai o'r prosiectau data rydyn ni'n ymwneud â nhw ar hyn o bryd.
Darganfod mwy
E-bostiwch ni ar data@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith data.