Canllaw AI ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
Rydyn ni wedi creu canllaw newydd i'ch helpu i archwilio ffyrdd o ddefnyddio AI i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Weithiau gall AI ei weld fel bygythiad – bygythiad i berthnasoedd ac i swyddi. Ond beth os gellir defnyddio AI i gefnogi eich gwaith?
Wrth gael ei defnyddio’n gyfrifol, gall AI helpu i gwblhau tasgau fel gweinyddu a dal nodiadau gofal, yn gyflymach ac yn effeithlon.
Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw newydd i'ch helpu i archwilio ffyrdd o ddefnyddio AI i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gall ein canllaw eich helpu i:
- ddysgu am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a pham mae'n bwysig
- ddeall sut mae AI yn gweithio
- ystyried yr egwyddorion allweddol i ddefnyddio AI yn gyfrifol
- gael caniatâd gwybodus i ddefnyddio offer AI
- nodi meysydd lle gall AI gefnogi eich gwaith.
Ni fydd AI byth yn disodli perthnasoedd dynol na'ch gwybodaeth a'ch profiad. Ond, pan gaiff ei ddefnyddio’n gyfrifol, gall helpu i ryddhau amser i'w dreulio gyda'r bobl rydych chi'n eu cefnogi.
Darllenwch ein canllaw AI ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru
Adnoddau AI
Rydym hefyd wedi creu detholiad o adnoddau i gefnogi’r canllaw, gan gynnwys animeiddiad a phosteri. Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi trafodaethau tîm, sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth yn ehangach, a gellir eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â’r canllaw llawn.