Dr Eleanor Johnson
Pennaeth Ymchwil
Rwy'n rheoli ein tîm ymchwil.
Rydyn ni'n annog ac yn hyrwyddo ymchwil o ansawdd da ar ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn berthnasol i Gymru drwy osod blaenoriaethau ymchwil a chefnogi ymchwilwyr.
Rydyn ni'n casglu ynghyd canfyddiadau ymchwil i ddarparu mewnwelediadau i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol drwy grynodebau tystiolaeth a'r gyfres cipolwg ar y gweithlu.
Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru roeddwn yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bryste. Mae fy ngwaith ymchwil yn ffocysu ar waith gofal â thal, tai a gofal a gwirfoddolwyr gofal cymdeithasol. Roeddwn i hefyd yn dysgu dulliau ymchwil a chymdeithaseg. Yn ddiweddarach, fe wnes i ymchwil wedi ei ariannu gan yr NIHR, Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ar sut wnaeth y pandemig effeithio ar y berthynas rhwng gweithwyr gofal a phobl sy'n defnyddio gofal. Mae fy ngwaith ymchwil PhD, Prifysgol Caerdydd (2018), yn cymharu profiadau gweithwyr gofal a darpariaeth gofal mewn cartrefi preswyl cost uchel a chost isel i bobl hŷn. Bues i'n gweithio fel gweithiwr gofal mewn cartrefi preswyl i bobl hŷn cyn, ac yn ystod, fy noethuriaeth.