Skip to Main content
Untitled design 7

BSc Gwyddor Data (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn?

Israddedig

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

A oes gennych ddiddordeb yn y ffordd rydym yn gwneud synnwyr o'r terabeitiau o wybodaeth mae ein cyfrifiaduron yn eu casglu bob dydd? Ydych chi am ennill y sgiliau i ragfynegi beth fydd pobl yn ei brynu? Neu ble mae angen i ni roi rhagor o adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd a threfniadaeth?

Mae galw cynyddol am bobl sy'n gallu dadansoddi a gwneud synnwyr o'r data sydd bellach ar gael. Yn enwedig, Data "Mawr". Bydd gradd mewn Gwyddor Data yn fan cychwyn delfrydol i weithio yn y maes hwn. Byddwch yn mwynhau addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil mewn amgylchedd meithringar sy'n hybu dyfeisgarwch a meddwl ""y tu allan i'r bocs"" i fynd i'r afael â'r galw cynyddol o ran data.

Mae'r cwrs gradd hwn hefyd yn cynnwys Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant, er mwyn rhoi'r dechrau i chi yn y farchnad swyddi gystadleuol, gyda'r profiad gwerthfawr y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Tagiau sgiliau:

  • data
  • cronfeydd data
  • rhaglennu
  • ystadegau