Sesiwn ar AI, gofal cymdeithasol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Sesiwn ar AI, gofal cymdeithasol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Wrth i sgyrsiau am AI barhau i ddatblygu ym maes gofal cymdeithasol, ble mae lles yn ffitio i mewn? Sut gallwn ni wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch defnyddio technoleg a allai gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y rhai sy'n gweithio yn y sector? Sut mae hyn yn edrych yn ymarferol?
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn sy'n archwilio a allai atebion AI gefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Yn y sesiwn ryngweithiol hon, cawn glywed gan Chris Owens, Uwch-swyddog yn Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd Chris yn rhannu ei brofiad personol o ddefnyddio offer AI yn y gwaith, gan ddefnyddio Magic Notes fel un enghraifft ymarferol.
Mae hwn yn wahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn AI ym maes gofal cymdeithasol. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am AI ar gyfer y sesiwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech rannu eich gwaith eich hun, cysylltwch â Lilla yn lilla.ver@socialcare.wales