Skip to Main content

Gweithdy deallusrwydd artiffisial (AI)

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod yn rhan o fywyd a gwaith bob dydd yn gyflym, ond beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd i weithwyr ym maes gofal cymdeithasol?

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall beth yw AI, ble y gallech fod eisoes yn dod ar ei draws, a sut y gallwch chi ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn gyfrifol ym maes gofal cymdeithasol.

Byddwn yn archwilio beth mae AI yn dda am ei wneud, ble mae ei gyfyngiadau, a sut i adnabod risgiau cyffredin fel rhagfarn, camwybodaeth ac allbynnau anghywir.

Byddwch hefyd yn dysgu technegau syml ar gyfer ysgrifennu ymholiadau effeithiol, adolygu cynnwys wedi'i gynhyrchu gan AI, a diogelu gwybodaeth bersonol a sensitif.

Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol, mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar feithrin hyder yn hytrach nag arbenigedd technegol.

Dim ots os ydych chi'n chwilfrydig am offer AI neu’n dymuno deall y cyfleoedd a’r heriau y mae AI yn eu cyflwyno, bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i chi i ddechrau arni.

Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch yn:

  • deall beth yw AI a sut mae’n cael ei ddefnyddio heddiw
  • adnabod cyfleoedd a chyfyngiadau AI mewn gofal cymdeithasol
  • deall y prif risgiau, gan gynnwys rhagfarn, ‘rhithwelediadau’ ('hallucinations') ac ystyriaethau preifatrwydd
  • gwybod sut i greu ymholiadau effeithiol a chael canlyniadau gwell gan offer AI
  • gallu defnyddio egwyddorion diogelwch syml wrth ddefnyddio AI yn y gwaith
  • teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio AI mewn ffordd gyfrifol a phroffesiynol.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth dechnegol arnoch i fynychu’r gweithdy hwn. Mae’n addas i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd am ddeall AI yn well a’i rôl bosibl wrth gefnogi eu gwaith.

Archebwch eich lle

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein er mwyn archebu lle ar gyfer eich sesiwn dewisol.

Darganfod mwy

Os hoffech chi wybod mwy am AI ym maes gofal cymdeithasol, archwiliwch ein canllaw AI ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.