Datblygu diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol – gweithdai RI
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?
Mae'r gweithdai hyn ar gyfer Unigolion Cyfrifol o gymysgedd o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, gan gynnwys:
- gofal preswyl
- gofal cartref
- gwasanaethau byw â chymorth unrhyw leoliadau
- gofal cymdeithasol eraill i oedolion.
Cynnwys y sesiwn
Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:
- rannu gyda ni beth sy’n gweithio, a sut mae’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol
- drafod pa amgylcheddau gall feithrin diwylliant cadarnhaol
- drafod sut i fesur gwelliant
- fod yn rhan o’r gwaith o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r rhaglen i ddatblygu ein cynnig ymchwil, arloesi a gwella.
Archebwch eich lle ar Eventbrite
Dyddiadau
Byddwn ni’n cynnal y gweithdai ar sawl dyddiad, a dim ond unwaith sydd angen i chi fynychu.
Cewch gyfrannu trwy’r Gymraeg neu Saesneg.
- 24 Tachwedd, 9.30am i 11.30am
- 1 Rhagfyr 2pm i 4pm
Ynglŷn â diwylliannau cadarnhaol
Rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Rayne i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.
Gyda’u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau.
Am rhagor o wybodaeth, ewch i ein canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol.