
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Ymchwil – Ehangu Persbectifau ac Ymarfer
Gweminar hanner diwrnod yw hwn. Byddwn yn archwilio sut mae egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn cael eu hintegreiddio ar draws ystod o brosiectau partneriaeth ymarfer ymchwil a ariennir gan NIHR.
Bydd arweinwyr prosiectau yn rhannu sut mae ystyriaethau EDI wedi llunio eu dyluniad ymchwil, eu hymgysylltiad a'u canlyniadau. Bydd y sesiwn hefyd yn darparu lle ar gyfer trafodaeth fanwl gan ddefnyddio ystafelloedd trafod. Anogir cyfranogwyr i ymgysylltu â datganiadau sy'n ysbrydoli myfyrio i herio rhagdybiaethau ac ysgogi myfyrio beirniadol. Bydd y rhai sy'n mynychu yn cael cipolwg ar ddulliau ymarferol, gwersi a ddysgwyd, ac effaith ehangach ymgorffori EDI mewn partneriaethau ymarfer ymchwil.
I ddarllen mwy am y sesiynau ar prosiectau ewch i Celebrating social care partnership projects - Gofal Cymdeithasol Cymru - Ymchwil, data ac arloesi
Cynhelir y digwyddiad hwn ar Microsoft Teams. Bydd y ddolen yn cael ei rhannu ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.