
Dathlu partneriaethau ymchwil mewn gofal cymdeithasol
Rydyn ni’n falch o gynnal cyfres o weminarau i dynnu sylw at chwe phartneriaeth ymchwil-ymarfer gofal cymdeithasol. Mae'r prosiectau wedi'u hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) trwy'r Rhaglen Ymchwil Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSDR).
Gwybodaeth am ein gweminarau
Pryd fydd y gweminarau'n digwydd?
Rydyn ni’n cynnal pedair gweminar rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2025 i archwilio sut mae'r prosiectau'n datblygu gallu i gynnal ymchwil mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Pwy yw'r gynulleidfa?
Mae'r gweminarau'n agored i bawb sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol ar draws y pedair gwlad.
Beth sy'n cael ei drafod?
Bydd cynrychiolwyr o'r prosiectau'n rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ac yn trafod effaith eu gwaith.
Bydd tri o'r gweminarau'n sesiynau byr gyda phob un yn canolbwyntio ar un o'r themâu canlynol:
- gwobrau a chymrodoriaethau
- ymchwilwyr wedi'u hymgorffori
- timau ymchwil mewn ymarfer.
Ym mis Medi, byddwn ni hefyd yn cynnal sesiwn hirach (gweminar hanner diwrnod) i edrych ar ddysgu mewn perthynas ag ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth gynyddu capasiti i gynnal ymchwil.
Bydd gweminar benodol i Gymru yn cael ei chynnal tua diwedd y flwyddyn i archwilio sut y gallwn ni gymhwyso dysgu o'r prosiectau yma yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan.

Prosiectau penodol
Yn yr adran hon gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y chwe phrosiect sy'n ffocws ar gyfer y gweminarau hyn.
Partneriaeth Ymchwil Caint
Beth yw'r prosiect?
Mae gan y prosiect bedair ffrwd gwaith sy'n cyd gysylltu. Ac yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr at ei gilydd i rannu gwybodaeth a datblygu diwylliant ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae hyn yn cynnwys sefydlu cymunedau ymarfer, hwyluso ymchwilwyr preswyl, darparu cymrodoriaethau ymchwil i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a rhannu gwybodaeth ac effaith mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Manylion y prosiect
- amserlen ddisgwyliedig: Mehefin 2021-Medi 2025
- sefydliad arweiniol: Prifysgol Caint a Chyngor Sir Caint
- lleoliad: Caint
- mae'r bartneriaeth yn cynnwys: academyddion, uwch reolwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol, darparwyr gofal cymdeithasol ac aelodau o'r cyhoedd.
Gwefan: https://research.kent.ac.uk/chss/kent-research-partnership/
Cyswllt e-bost: ann-marie.towers@kcl.ac.uk
ConnectED
Beth yw'r prosiect?
Nod y prosiect yw cefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Mae'r ffocws ar gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i nodi, cyrchu a defnyddio ymchwil i lywio polisi ac ymarfer a thrwy hynny gwella canlyniadau i bobl sy'n cael mynediad at ofal a chymorth.
Manylion y prosiect
- amserlen ddisgwyliedig: Gorffennaf 2021-Rhagfyr 2025
- sefydliad arweiniol: GIG Bryste, Bwrdd Gofal Integredig Gogledd Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw
- lleoliad: Gorllewin Lloegr
- mae'r bartneriaeth yn cynnwys: adrannau gofal cymdeithasol i oedolion awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau, prifysgolion a defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Cyswllt e-bost: Christie.Cabral@bristol.ac.uk
Ymchwil Cydweithredol Gofal Cymdeithasol Oedolion y Penrhyn (PARC)
Beth yw'r prosiect?
Sefydlodd y prosiect timau ymchwil o fewn sefydliadau gofal cymdeithasol i ddatblygu'r model ymchwilwyr preswyl wedi'u hymgorffori.
Roedd hyn yn helpu ymchwilwyr i adeiladu perthynas ag ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a dysgu oddi wrthyn nhw. Roedd hefyd yn cefnogi ymarferwyr i ddysgu am gynnal ymchwil sy'n helpu i wella gwasanaethau.
Manylion y prosiect
- amserlen: Tachwedd 2021-Ionawr 2025
- sefydliad arweiniol: Prifysgol Plymouth
- lleoliad: Torbay, Cernyw a Gwlad yr Haf
- roedd y bartneriaeth yn cynnwys: tri awdurdod lleol, tair prifysgol ac Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Torbay a De Dyfnaint.
Gwefan: https://www.plymouth.ac.uk/primary-care/peninsula-adult-social-care-research-collabora
Cyswllt e-bost: P.Welbourne@plymouth.ac.uk
Y Bartneriaeth Chwilfrydedd
Beth yw'r prosiect?
Nod y Bartneriaeth Chwilfrydedd yw adeiladu rhwydwaith i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a defnyddio ymchwil sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol ac yn gwella gofal cymdeithasol. Mae'r bartneriaeth ymchwil yn caniatáu i gynghorau ac academyddion weithio gyda'i gilydd a chynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u cymunedau lleol.
Manylion y prosiect
- amserlen ddisgwyliedig: Mehefin 2021-Rhagfyr 2025
- sefydliad arweiniol: Prifysgol Efrog
- lleoliad: Swydd Efrog a'r Humber
- mae'r bartneriaeth yn cynnwys: pedwar awdurdod lleol a phedair prifysgol.
Gwefan: https://www.curiositypartnership.org.uk/
Cyswllt e-bost: mark.wilberforce@york.ac.uk
Astudiaeth SCRiPT
Beth yw'r prosiect?
Nod y prosiect oedd adeiladu capasiti ymchwil mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ledled Swydd Hertford a Norfolk trwy ymgorffori ymchwilwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol mewn timau ymchwil mewn ymarfer.
Roedd y bartneriaeth yn hyrwyddo cynnal ymchwil a oedd yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth leol ac yn cefnogi datblygu sgiliau ymchwil ymhlith staff gofal cymdeithasol.
Manylion y prosiect
- amserlen: Mehefin 2021-Rhagfyr 2024
- sefydliad arweiniol: Prifysgol Swydd Hertford
- lleoliad: Swydd Hertford a Norfolk
- roedd y bartneriaeth yn cynnwys: ymchwilwyr a phartneriaid gofal cymdeithasol i oedolion mewn awdurdodau lleol.
Gwefan: https://scriptstudy.org/
Cyswllt e-bost: k.almack@herts.ac.uk
Creu Partneriaethau Gofal
Nod y prosiect yw datblygu, gweithredu a gwerthuso dull o'r enw Partneriaethau Ymarfer Ymchwil (RPPs) i'w ddefnyddio mewn gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr.
Mae'r term yn cyfeirio at gydweithio hirdymor rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr wrth gynnal ymchwil a'i ddefnyddio'n ymarferol. Mae'r gwaith wedi'i leoli mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn Newcastle, Caer a Chaerhirfryn.
Manylion y prosiect
- amserlen ddisgwyliedig: Mehefin 2021-Rhagfyr 2025
- sefydliad arweiniol: Coleg y Brenin Llundain
- lleoliad: Newcastle, Caer, a Swydd Gaerhirfryn
- mae'r bartneriaeth yn cynnwys: pobl â phrofiad byw, prifysgolion, darparwyr gofal cymdeithasol, ymchwilwyr gofal cymdeithasol i oedolion, dylunwyr, arbenigwyr mewn gweithredu, gwella a gwerthuso, a Shaping Our Lives, sefydliad sy'n cael ei arwain gan bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.
Gwefan: https://transforming-evidence.org/projects/creating-care-partnerships
Cyswllt e-bost: annette.boaz@kcl.ac.uk
Archebu eich lle!
Os hoffech chi fynychu un o'r gweminarau ewch at: Gweminarau prosiectau NIHR Projects webinars | Eventbrite.
