Skip to Main content

Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: egwyddorion DEEP

Mae 30 o leoedd ar gael yn y sesiwn hon. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw DEEP?

Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.Mae casglu a defnyddio tystiolaeth yn haws dweud na gwneud.Mae casglu a defnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu yn cael ei hyrwyddo'n eang ond mae'n anodd ei gyflawni. Mae dulliau gor-syml o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth nad ydynt yn ystyried y cyd-destun yn aml yn methu. Mae galwadau cynyddol am ddulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar bobl yn hytrach nag ar brosesau. Mae dull DEEP yn ddull dynol-ganolog sy’n cefnogi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan oresgyn rhai o heriau dulliau mwy syml.

Beth fydd y sesiwn yn ei gwmpasu.

Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno pobl i’r wyth egwyddor sy’n sail i ddull DEEP. Mae dealltwriaeth o'r egwyddorion hyn yn helpu pobl i osod y llwyfan ar gyfer casglu a defnyddio tystiolaeth. Mae’r egwyddorion hefyd yn paratoi pobl i ddefnyddio ystod o ddulliau DEEP sy’n cael eu rhannu mewn sesiynau eraill ac ar y cwrs DEEP.

Pwy allai elwa o'r sesiwn?

Bydd y sesiwn hon o fudd i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sy'n ymwneud â chasglu a defnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu. Gan fod dealltwriaeth o ddull DEEP wedi'i chynnwys yn Lefelau 4 a 5 y Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'r sesiwn hon hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a hyfforddwyr sy'n ymwneud â'r cymwysterau hyn.

Archebwch eich lle

Rhagor o wybodaeth am y sesiwn.

Os hoffech wybod mwy am y sesiwn, cysylltwch â Nick Andrews ar: n.d.andrews@swansea.ac.uk

Os hoffech gael copi o'r sleidiau cyn y sesiwn i gynorthwyo gyda chymryd nodiadau, cysylltwch â Gill Toms yn: g.toms@bangor.ac.uk