Skip to Main content

Myfyrio ar Dystiolaeth: Cefnogi pobl hŷn LHDTC+ mewn gofal cymdeithasol

Myfyrio ar Dystiolaeth: Cefnogi pobl hŷn LHDTC+ mewn gofal cymdeithasol 

Dydd Iau 25 Medi 2025, 1.30pm – 3pm (ar-lein drwy Teams) 

Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod y crynodeb tystiolaeth hwn: Cefnogi pobl hŷn LHDTC+ mewn gofal cymdeithasol Mae'r crynodeb hwn yn tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfredol am brofiadau ac anghenion pobl LHDTC+ hŷn a sut olwg sydd ar ofal da i'r grŵp hwn.   

Byddwn yn eich gwahodd i siarad gyda'ch gilydd a myfyrio ar yr hyn rydych chi'n ei feddwl am yr erthygl. Byddwn yn gofyn i chi ystyried a oes pethau yn yr erthygl a allai lywio eich ymarfer.  

Cofrestrwch i archebu eich lle