Sesiwn sbotolau data gofal cymdeithasol: Cofnodi achosion mewn gofal cymdeithasol
Ymunwch â ni am yr ail yn ein cyfres newydd o sesiynau sbotolau data gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiynau rheolaidd hyn yn rhoi cyfleoedd i glywed am gynnydd ar draws ein rhaglenni data strategol, rhannu dysgu, ac archwilio sut mae datblygiadau data mewn gofal cymdeithasol yn cefnogi canlyniadau gwell ledled Cymru.
Bydd y sesiwn sbotolau hon yn canolbwyntio ar gofnodi achosion mewn gofal cymdeithasol, gan archwilio rhai o'r heriau cyffredin y mae gofal cymdeithasol yn eu hwynebu wrth greu, adolygu a defnyddio cofnodion gofal.
Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau o bob rhan o'n rhaglenni data strategol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwella cofnodi achosion gofal cymdeithasol neu os hoffech glywed mwy am y cynnydd rydym yn ei wneud trwy ein rhaglenni data strategol, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn ymuno â ni.
Archebwch eich lle
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen i'r sesiwn..