Sesiwn sbotolau data gofal cymdeithasol: Cysylltu ymarfer a gwybodaeth
Ymunwch â ni am yr ail yn ein cyfres newydd o sesiynau sbotolau data gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiynau rheolaidd hyn yn rhoi cyfleoedd i glywed am gynnydd ar draws ein rhaglenni data strategol, rhannu dysgu, ac archwilio sut mae datblygiadau data mewn gofal cymdeithasol yn cefnogi canlyniadau gwell ledled Cymru.
Bydd y sesiwn sbotolau hon yn canolbwyntio ar sut mae cynghorau lleol a phartneriaid cenedlaethol yn cydweithio i wella arfer a gwybodaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy offer digidol cyffredin a safonau gwybodaeth a rennir.
Byddwn hefyd yn rhannu diweddariadau o bob rhan o'n rhaglenni data strategol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.
Os hoffech chi glywed am y gwaith rydyn ni’n ei gyflawni trwy ein Rhaglenni Data Strategol, bydden ni wrth ein bodd yn eich croesawu i'r sesiwn.
Archebwch eich lle
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i sicrhau eich bod yn derbyn dolen i'r sesiwn