Skip to Main content

Siarada. Gwranda. Dilyna.

Ynglŷn â'r digwyddiad

Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut y gall arweinwyr greu gweithleoedd seicolegol diogel lle mae pobl yn teimlo'n hyderus wrth fynegi pryderon, rhannu syniadau a siarad pan nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn.

Byddwch chi’n dysgu pam mae pobl yn aml yn aros yn dawel, sut mae diwylliant yn y gweithle yn dylanwadu ar ymddygiadau siarad â'r rôl hanfodol y mae arweinwyr yn ei chwarae wrth greu amgylcheddau wedi'u hadeiladu ar ymddiriedaeth, tryloywder a dysg.

Gan edrych ar werth arweinyddiaeth gydweithredol, chwilfrydedd a sgyrsiau dewr, mae'r sesiwn yn archwilio sut y gall arweinwyr ymateb i bryderon mewn ffyrdd sy'n annog, yn hytrach nag atal pobl i siarad.

Byddwn ni’n ymdrin â:

  • pam mae pobl yn aml yn aros yn dawel
  • sut mae diwylliant y gweithle yn dylanwadu ar ymddygiadau siarad 
  • y rôl hanfodol y mae arweinwyr yn ei chwarae wrth greu amgylcheddau wedi'u hadeiladu ar ymddiriedaeth, agored a dysgu.

Mae'r sesiwn yn cyflwyno dulliau ymarferol i:

  • creu diogelwch seicolegol
  • ymateb yn adeiladol i'r her 
  • adeiladu diwylliannau lle mae pryderon yn cael eu hystyried fel cyfleoedd i ddysgu a gwella yn hytrach na gweld bai. 

Rydyn ni hefyd yn archwilio sut y gall arweinwyr:

  • fodelu chwilfrydedd 
  • gwrando gydag empathi
  • annog sgyrsiau gonest
  • caniatáu i bobl deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i fynegi materion yn gynnar. 

Erbyn y diwedd, byddwch chi’n:

  • deall y berthynas rhwng diogelwch seicolegol, ymddiriedaeth a siarad 
  • cydnabod ymddygiadau arweinyddiaeth sy'n annog neu'n atal pobl rhag mynegi pryderon 
  • teimlo'n hyderus yn ymateb i bryderon gyda chwilfrydedd, tosturi ac eglurder 
  • cael offer ymarferol i greu diwylliannau lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i siarad, gwrando a dysgu gyda'i gilydd. 

Archebwch eich lle