Skip to Main content

Beth sy'n gwneud gofal cartref perthynol ac ymatebol yn bosibl a beth yw’r rhwystrau?

Beth sy'n gwneud gofal cartref perthynol ac ymatebol yn bosibl a beth yw’r rhwystrau? 

Cefndir

Mae gofal cartref weithiau yn cael ei ystyried fel gwasanaeth syml sy'n seiliedig ar dasgau ac felly, gellir ei gamddeall a'i danbrisio. Gwahanol iawn yw’r realiti. Mae comisiynu, rheoli a darparu gofal cartref yn waith cymhleth a gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar bobl ag anghenion cymorth uchel sy'n aml yn byw gydag amgylchiadau bywyd heriol. Mae hyn yn gofyn am yr hyn y mae'r seicolegydd, Barry Schwartz yn ei alw'  n 'ddoethineb ymarferol', sy'n galluogi gweithwyr gofal cartref i ymarfer mewn ffyrdd perthynol ac ymatebol medrus iawn i gefnogi canlyniadau da i'r bobl unigryw y maent yn gweithio gyda nhw. 

Er bod y cyfryngau yn tueddu i ganolbwyntio pan fydd pethau'n mynd o'i le mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae'r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar pan mae pethau'n mynd yn iawn. Mae gofal cartref da yn aml yn talu sylw i'r pethau bach bob dydd sy'n bwysig i bobl. Talu sylw i'r pethau bach hyn yn aml yw'r agoriad i ganlyniadau da. 

Nod y digwyddiad

Bydd y digwyddiad yn dod â darparwyr gofal cartref, comisiynwyr, llunwyr polisi Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr at ei gilydd i rannu ac archwilio arfer da a'r seilwaith sydd ei angen i annog a chefnogi hyn. Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i gasglu straeon o amgylch arferion perthynol ac ymatebol i gefnogi'r gwaith recriwtio a chyhoeddusrwydd parhaus dan arweiniad We Care Cymru – dewch â'ch straeon i'w rhannu. 

Sut i gofrestru

Cliciwch ar y ddolen i archebu eich lle am ddim: eventbrite.co.uk