
Gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol: adroddiad newydd
Rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n ein helpu i ddeall yn well sut mae gwirfoddoli’n cyfrannu at ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cafodd yr astudiaeth ymchwil ei gomisiynu'r llynedd i gasglu mewnwelediad gan wirfoddolwyr, staff gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill ynghylch eu profiadau o wirfoddoli.
Gwybodaeth am yr astudiaeth ymchwil
Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru, sydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Prifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennol yn Ysgol Fusnes Bayes oedd yn cynnal yr ymchwil.
"Mae CGGC yn falch o gefnogi’r ymchwil bwysig hon. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl hanfodol, ond yn aml heb ei gydnabod wrth gefnogi unigolion a gwasanaethau yn y sector. Mae'r astudiaeth hon yn ein helpu i ddeall y manteision a'r heriau sy'n gysylltiedig â chyfraniad gwirfoddolwyr. Ac edrychwn ymlaen at roi’r canfyddiadau ar waith i wella ymgysylltiad gwirfoddolwyr a gwella canlyniadau ar draws y system ofal."
- Lynne Connolly, Rheolwr Helplu Cymru, CGGC.
Ffocws yr ymchwil oedd gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl sy'n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru. Defnyddiodd y tîm wahanol ddulliau i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys adolygiad tystiolaeth gyflym, astudiaethau achos ansoddol ac arolwg ar-lein.
Canfyddiadau
Mae’r canfyddiadau’n dangos fod cartrefi gofal yn gwerthfawrogi cyfraniad gwirfoddolwyr yn eu lleoliadau. Mae rôl gwirfoddolwyr yn aml yn canolbwyntio ar dreulio amser gyda phreswylwyr, mewn ffordd nad yw bob amser yn bosibl i staff cyflogedig. Mae gwirfoddolwyr yn gwella gofal cymdeithasol trwy gynyddu ystod a dyfnder y perthnasoedd sydd ar gael i breswylwyr, yn ogystal ag ehangu'r ystod o weithgareddau sydd ar gael iddyn nhw.
Canfyddiad arall yw bod rheoli a chefnogaeth barhaus gwirfoddolwyr yn cymryd cryn amser, egni a sgiliau. Roedd sawl cartref gofal a gymerodd rhan yn yr ymchwil yn nodi bod diffyg gallu ac adnoddau i wneud hyn mor effeithiol ag y byddent yn dymuno.

Mae gwirfoddolwyr yn gwella gofal cymdeithasol trwy gynyddu ystod a dyfnder y perthnasoedd sydd ar gael i breswylwyr, yn ogystal ag ehangu'r ystod o weithgareddau sydd ar gael iddyn nhw.
Mae'r ymchwil yn dangos bod gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yn gweithio orau pan fydd gwirfoddolwyr a sefydliadau yn cyd-fynd yn dda o ran gwerthoedd ac ethos. A phan fydd systemau ar waith, o ran polisi a chyllid, sy'n cefnogi gwirfoddoli.

Beth allwn ni ei ddysgu o'r adroddiad?
Mae'r canfyddiadau’n ein helpu i ddeall mwy am bethau fel:
- graddfa gwirfoddoli mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru
- pwy sy'n gwirfoddoli a pham
- gwahanol rolau y mae gwirfoddolwyr yn eu chwarae
- Sut i recriwtio, hyfforddi, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr
- manteision a heriau gwirfoddoli
- yr hyn sydd angen newid mewn polisi ac arfer i ddatblygu gwerth gwirfoddoli.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi weld yr adroddiad llawn yma: Deall rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.
