Skip to Main content

AI fel offeryn ar gyfer gofal cymdeithasol: Arbed amser wrth gadw pobl yn ganolog

22 Medi 2026

Yn y blog hwn, mae ein Rheolwr Arloesedd Digidol Felicity McGeown yn archwilio sut y gall gweithwyr gofal cymdeithasol wneud y gorau o AI wrth gadw pobl yn ganolog i'w gwaith.

Gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) deimlo fel petai ym mhobman y dyddiau hyn. O argymhellion personol ar lwyfannau ffrydio i offer sy’n ein helpu i ysgrifennu negeseuon e-bost a chrynhoi adroddiadau, mae AI yn dod yn rhan o fywyd pob dydd i lawer o bobl yn gyflym.

Ond gyda’r holl benawdau newyddion, y cyffro a’r pryderon ynghylch AI, gall fod yn anodd gwybod beth ydyw mewn gwirionedd, beth y gall ei wneud, ac a ddylem fod yn ei ddefnyddio ym maes gofal cymdeithasol.

Yn syml, mae AI yn dechnoleg sy’n gallu cyflawni tasgau a fyddai fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol. Gall ein helpu i ddeall a chynhyrchu iaith, adnabod patrymau, crynhoi gwybodaeth, ateb cwestiynau a hyd yn oed greu cynnwys fel testun a delweddau.

Fodd bynnag, mae AI yn offeryn a all gefnogi pobl yn eu gwaith. Nid yw wedi’i fwriadu i gymryd lle eu barn broffesiynol.

Er y gall rhai offer AI ymddangos yn debyg i bobl, dydyn nhw ddim yn meddwl, yn teimlo nac yn deall cyd-destun yn yr un ffordd ag y mae pobl yn ei wneud. Yn hytrach, maen nhw'n adnabod patrymau mewn gwybodaeth ac yn defnyddio’r patrymau hynny i gynhyrchu ymatebion.

Mae hyn yn golygu y gall AI fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhai tasgau, ond ni all ddeall pob agwedd ar amgylchiadau unigryw person, meithrin perthnasoedd dibynadwy, na gwneud penderfyniadau moesegol. Gall hefyd gynhyrchu gwybodaeth anghywir, felly dylid bob amser adolygu a gwirio’r hyn y mae’n ei gynhyrchu.

Mewn gofal cymdeithasol, mae llawer o benderfyniadau yn cael eu llywio gan brofiad, empathi a chysylltiad dynol. Mae’r rhain yn nodweddion na all AI eu hefelychu, ac mae cyfrifoldeb am y penderfyniadau hyn yn parhau gyda’r bobl sy’n eu gwneud.

I lawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, manteision mwyaf gwerthfawr AI yn aml yw ei gymwysiadau ymarferol, bob dydd. Pan gaiff ei ddefnyddio’n briodol, gall helpu i leihau’r baich gweinyddol a rhyddhau mwy o amser i ganolbwyntio ar y bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw offeryn AI rydych yn ei ddefnyddio wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn eich gweithle. Os ydych yn ansicr, gwiriwch gyda’ch tîm TG.

Mae AI yn debygol o fod yn rhan o’ch diwrnod yn barod

Un o’r rhesymau y gall AI ymddangos mor anghyfarwydd yw ei fod yn aml yn cael ei ddisgrifio fel technoleg newydd ac sy’n datblygu. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl eisoes yn defnyddio systemau sy’n cynnwys AI mewn rhyw ffurf, yn aml heb sylweddoli hynny.

Er enghraifft, mae chwilotwr yn defnyddio AI i ddeall beth rydych yn chwilio amdano, mae systemau e-bost yn ei ddefnyddio i hidlo negeseuon sbam ac awgrymu ymatebion, ac mae gwasanaethau ffrydio fideos yn ei ddefnyddio i argymell rhaglenni a ffilmiau i chi eu gwylio yn seiliedig ar eich hanes.

Yr hyn sydd wedi newid yw bod AI wedi dod yn fwy gweladwy. Mae pobl bellach yn rhyngweithio’n fwy uniongyrchol ag AI drwy 'chatbots', neu’n gweld crynodebau AI wrth ddefnyddio chwilotwr.

Ym maes gofal cymdeithasol, mae llawer o agweddau ar ymarfer yn dibynnu ar ryngweithio dynol, empathi a barn broffesiynol. Dyma sylfaen gofal cymdeithasol da. Ar yr un pryd, gall AI helpu gyda rhai o’r tasgau sy’n amgylchynu ymarfer o ddydd i ddydd drwy leihau’r baich gweinyddol. Yn syml, gall helpu gweithwyr i dreulio llai o amser ar waith papur a mwy o amser yn cefnogi pobl.

Er enghraifft, gall AI helpu i:

  • leihau’r baich gweinyddol a gwaith papur
  • crynhoi dogfennau ac adroddiadau hir
  • drafftio negeseuon e-bost, nodiadau cyfarfodydd a chyfathrebiadau eraill
  • canfod a threfnu gwybodaeth yn gyflym
  • cefnogi hygyrchedd a chyfathrebu
  • adnabod patrymau mewn symiau mawr o ddata.

Mae AI yn offeryn, nid rhywbeth i gymryd lle person

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am AI yn yr un ffordd ag yr ydych yn meddwl am offer eraill yn y gweithle. Gall cyfrifiannell helpu rhywun i wneud cyfrifiadau yn gyflymach, ond nid yw’n cymryd lle ei ddealltwriaeth o fathemateg. Mae angen i bobl ddefnyddio eu gwybodaeth a’u barn o hyd i sicrhau eu bod yn ei defnyddio’n gywir ac yn dehongli’r canlyniadau’n briodol.

Yn yr un modd, gall ap sy’n defnyddio GPS awgrymu cyfarwyddiadau pan fyddwch yn cerdded mewn lle anghyfarwydd. Ond chi sy’n gyfrifol o hyd am benderfynu a yw’r cyfarwyddiadau’n ymarferol i’w dilyn. Pe bai’n awgrymu eich bod yn cerdded i lawr llwybr sydd wedi’i gau neu’n anniogel, byddai angen i chi ddefnyddio eich barn yn hytrach na dim ond ymddiried yn y cyfarwyddiadau.

Mae AI yn gweithio mewn ffordd debyg. Gall helpu gyda thasgau fel drafftio, crynhoi neu drefnu gwybodaeth, ond ni all gymryd cyfrifoldeb am benderfyniadau na deall amgylchiadau dynol cymhleth.

Felly, er y gall AI gefnogi rhai agweddau ar waith, mae’r cyfrifoldeb am adolygu, dehongli a defnyddio unrhyw allbwn yn parhau’n gadarn gyda’r person sy’n defnyddio’r offeryn AI. Mae cofio’r cydbwysedd hwnnw yn rhan bwysig o ddefnyddio AI yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gyfrifol ym maes gofal cymdeithasol.

Darganfod mwy

Defnyddiwch ein Canllaw AI ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru i archwilio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio AI i gefnogi eich gwaith.

Blog gan:

Felicity McGeown

Felicity McGeown

Rheolwr Arloesedd Digidol

Rwy’n gweithio i gefnogi arloesedd, trawsnewid digidol a’r defnydd cyfrifol o dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ar draws y sector gofal cymdeithasol.

Mae fy niddordeb mewn gofal cymdeithasol wedi’i lywio gan ymchwil academaidd a phrofiad ymarferol rheng flaen. Yn ystod fy astudiaethau, gweithiais fel gweithiwr gofal iechyd cynorthwyol mewn cartrefi gofal, a roddodd ddealltwriaeth uniongyrchol i mi o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector. Llywiodd y profiad ymarferol hwn fy astudiaethau ym maes anthropoleg, iechyd cyhoeddus a hanes anabledd, ac mae’n parhau i ddylanwadu ar fy ymagwedd at arloesedd digidol a chynhwysiant.

Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, gweithiais gyda Pride Cymru ar y prosiect cenedlaethol Stronger Together, gan helpu i ddod â grwpiau cymunedol ynghyd a chryfhau eu cynaliadwyedd hirdymor. Fel rhan o’r gwaith hwn, fe wnes i hwyluso a hcadeirio Fforwm Cymru Gyfan LGBTQIA+, gan ddod â mwy nag 80 o randdeiliaid ynghyd o bob rhan o Gymru.

Ochr yn ochr â’m rôl, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn AI, ymchwil, dadansoddeg data, a thechnoleg gynorthwyol, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut y gall arloesedd helpu i greu gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n fwy hygyrch, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth.