
Deallusrwydd Artiffisial ym maes gofal cymdeithasol
Yn y blog hwn, mae Stephanie Griffith, ein Rheolwr Arloesi, yn rhannu ei mewnwelediadau o’i phrofiadau yn Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial ym maes Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen
Cefais y pleser yn ddiweddar o gael fy ngwahodd i’r Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial ym maes Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd yn dathlu llwyddiannau Prosiect Rhydychen, cydweithrediad blwyddyn o hyd rhwng darparwyr gofal, datblygwyr technoleg, ymchwilwyr, gweithwyr gofal, a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth. Roedd y diwrnod yn llawn sgyrsiau beiddgar am ddeallusrwydd artiffisial, moeseg, a dyfodol gofal cymdeithasol.
Yr hyn a’m trawodd yn gyntaf am y gwaith oedd pa mor gadarn y cafodd ei wreiddio yn y gwerthoedd rydym i gyd yn ceisio eu cynnal ym maes gofal cymdeithasol. Cynhelir y gwaith yn y Sefydliad Moeseg ym maes Deallusrwydd Artiffisial ac mae’n ystyried hawliau dynol fel yr egwyddor arweiniol. Roedd y cydgynhyrchu’n gryf. Roedd hynny’n golygu bod trafodaethau agored, uniongyrchol ac ysgogol yn cael eu cynnal gyda hyder mewn sgwrs wirioneddol gynhwysol.
Y cwestiwn canolog oedd yn cael ei drafod oedd sut y gallem harneisio potensial deallusrwydd artiffisial ar yr un pryd â diogelu gwerthoedd sylfaenol gofal cymdeithasol da.
Daeth rhai heriau clir iawn i’r amlwg:
Rhagfarn
Mae deallusrwydd artiffisial yn rhagfarnllyd oherwydd ei fod yn dibynnu ar y data sydd ar gael. Rhoddodd un unigolyn yr enghraifft o dywysoges: os gofynnwch iddo gynhyrchu llun o dywysoges, mae’n bosibl na fydd yr hyn a gewch yn adlewyrchu’r byd yr ydym yn byw ynddo (y tu allan i’r rhyngrwyd).
Sut, felly, y gellid defnyddio hyn i helpu i ddatblygu ymatebion personol i bobl?
Un ateb yw gwella’r data sy’n cael ei fwydo i mewn i ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn defnyddio’r data sydd ganddo i ragweld beth sy’n dod nesaf. Mae’n cymharu â phrosesydd geiriau swyddogaeth uchel. Drwy fwydo mwy o ddata i mewn i ddeallusrwydd artiffisial, gall gynhyrchu gwybodaeth mwy cynrychioliadol a lliniaru yn erbyn rhagfarn. Dyma lle mae’r syniad o ‘hyfforddi’ deallusrwydd artiffisial yn berthnasol.
Diogelu data
Po fwyaf y gallwn ddefnyddio data sy’n adlewyrchu amrywiaeth bywydau pobl i hyfforddi ein systemau deallusrwydd artiffisial, y mwyaf y byddwn yn ceisio lleihau rhagfarn. Ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn rhoi eu caniatâd llawn a pharhaus i rannu eu data: ar ôl i ni roi data mewn system deallusrwydd artiffisial bydd yn cael effaith barhaol. Nid yw mor hawdd â dileu ffeil neu dudalen we. Mae hyn yr un mor wir ar gyfer deallusrwydd artiffisial y gallem ei ddefnyddio i gyflawni technoleg neu dasgau gweinyddol sy’n helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig er mwyn cael y data'n iawn. Dim ond drwy gydgynhyrchu gwirioneddol a meithrin cydberthnasau sy’n canolbwyntio ar bobl y gellir adeiladu’r data.
Mae pobl yn hanfodol
Clywsom gan weithwyr gofal cymdeithasol a oedd yn poeni bod eu gwaith a’u sgiliau’n cael eu tanseilio ym maes gwasanaethau gofal cymdeithasol. Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol, pobl sy’n cael gofal a chymorth ac arbenigwyr fel ei gilydd yn cydnabod bod angen mwy o bobl ym maes gofal cymdeithasol, ac y bydd gwneud penderfyniadau a rhyngweithio â phobl bob amser yn hanfodol.
Dylai hyn fod yn flaenoriaeth i ni. Fel y nododd un gweithiwr gofal cymdeithasol: “Dylai deallusrwydd artiffisial ein cefnogi i fod yn bobl well yn ein swyddi, gan wneud y bobl rydyn ni’n darparu gofal iddyn nhw’n hapusach, yn well ac yn iachach.”
Rheoleiddio
Codwyd y pwynt fwy nag unwaith: ym maes gofal cymdeithasol sy’n cael ei reoleiddio’n helaeth, mae’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn dal heb ei reoleiddio. Er bod rheoleiddio weithiau’n gallu cael ei ystyried yn rhwystr i arloesi, mae ei angen i ddiffinio mannau diogel er mwyn i bobl allu gwneud y defnydd gorau o ddeallusrwydd artiffisial yn hyderus.
Beth nesaf?
Roedd y digwyddiad yn nodi lansio canllawiau wedi’u cydgynhyrchu a galwad i weithredu a ddatblygwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw’n canolbwyntio ar rôl deallusrwydd artiffisial fel cefnogi "gwerthoedd sylfaenol gofal, gan gynnwys hawliau dynol, annibyniaeth, dewis a rheolaeth, urddas, cydraddoldeb a llesiant."
Roedd y neges yn glir: Dylai deallusrwydd artiffisial wasanaethu a chefnogi ein gweledigaeth o ofal cymdeithasol da, nid fel arall.
Myfyrio ar y diwrnod
Mae rhai o’r pryderon a godwyd gan bobl yn debyg i’r rheini rydyn ni wedi bod yn eu clywed yn ystod ein gwaith i asesu potensial digidol gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gallant fod yn bryderon mwy cyffredinol ynghylch defnyddio technoleg ym maes gofal cymdeithasol, a waethygir gan y cynnydd diweddar yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol.
Roedd yr uwchgynhadledd yn ddiwrnod o ysbrydoliaeth a gwybodaeth, yn llawn trafodaethau angerddol ar sut gall deallusrwydd artiffisial wella gofal cymdeithasol. Roedd yr ymrwymiad i gysylltiad dynol, cydgynhyrchu, a chydweithio yn amlwg drwyddi draw. Wrth i ni symud ymlaen, mae’n hanfodol gwneud yn siŵr ein bod yn bwrw ymlaen â meddylgarwch; gan ganolbwyntio ar ddatblygu moesegol a chyfrifol wrth i ni edrych ar weithredu deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn adleisio’r negeseuon a glywsom yn y gynhadledd ‘Edrych yn Fanylach ar Ddeallusrwydd Artiffisial i Wella Bywydau’ a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru fis Chwefror.
AI a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Rydyn ni wedi cyhoeddi Canllaw AI ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r canllaw newydd wedi ei ariannu drwy’r Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn archwilio'r effaith gynaliadwy yn y maes drwy ei rhaglen Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE). Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ar gael yma: Canolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE).
Ym maes cyflym deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â’n partneriaid er mwyn i ni allu cysylltu’r wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Drwy’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i ddod â dysgu a thystiolaeth i Gymru.
DS. Defnyddiais CoPilot i greu drafft cyntaf y blog hwn!