Skip to Main content

Adeiladu gofal cysylltiedig: Helpu llunio dyfodol rhannu gwybodaeth mewn gofal cymdeithasol

05 Chwefror 2026

Rydym yn gwahodd pobl sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru i ymuno â ni yn un o'n sesiynau rhyngweithiol sydd ar y gweill. Mae'r digwyddiadau wyneb yn wyneb hyn yn gyfle i rannu eich profiadau, tynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf, a helpu i lunio dull gwell a mwy cysylltiedig o rannu gwybodaeth.

Manylion y digwyddiad

24 Chwefror, 9.30am i 3pm
Gwesty Leonardo, Caerdydd

17 Mawrth, 9.30am i 3pm
Venue Cymru, Llandudno

Bydd cinio a lluniaeth yn cael eu darparu.

Cynnwys y sesiwn

Efallai eich bod wedi profi rhwystredigaethau oherwydd y diffyg gwybodaeth rydych chi wedi'i chael am berson o fewn eich gofal? Efallai bod hysbysiad rhyddhau o leoliad iechyd heb gynnwys gwybodaeth allweddol? Neu efallai y byddai gwybodaeth ychwanegol wedi cefnogi eich penderfyniadau?

Beth bynnag yw eich profiad gyda gwybodaeth a rennir, rydyn ni eisiau ei chlywed. Nid oes angen i chi ddod ag atebion (er ein bod yn eu croesawu os oes gennych chi rai).

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau rhagarweiniol am y gwaith rydym yn ei gwneud i foderneiddio'r ffordd rydym yn defnyddio a rhannu gwybodaeth, ynghyd â gweithdai ymarferol lle gallwch rannu eich profiadau a'n helpu i archwilio atebion posibl.

Ni fydd angen unrhyw wybodaeth dechnegol ar gyfer y sesiynau ac maent yn addas i bawb.

Mae clywed lleisiau gwahanol yn allweddol, yn enwedig gan bobl nad ydynt fel arfer yn teimlo bod ganddynt gyfle i rannu.

Mae eich mewnwelediad a'ch profiad yn hanfodol i lunio system sy'n gweithio'n well i bobl Cymru. Edrychwn ymlaen at y posibilrwydd o'ch croesawu i un o'r sesiynau.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiadau

Rydyn ni'n chwilio am safbwyntiau gan:

  • ymarferwyr gofal cymdeithasol,
  • rheolwyr
  • staff cymorth
  • timau diogelu
  • gweithwyr cymdeithasol

ac unrhyw un sy'n ymwneud â gofal pobl i'n helpu i wella’r canlyniadau i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi ac i gael effaith gadarnhaol ar eich profiad yn y gwaith.