Cymerwch ran yn ein gwasanaeth anogaeth am ddim i gefnogi arloesedd yng ngofal cymdeithasol
Rydyn ni wedi lansio gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim i'ch helpu i gael y gorau o'ch syniadau i wella gofal.
Y gwasanaeth hwn yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy’n datblygu ffyrdd newydd o weithio ar draws y sector.
Anfonwch eich syniadau i wella prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau atom, a byddwn ni'n eich helpu i roi’r syniadau hynny ar waith.
Mae ein tîm o anogwyr arloesedd yma i'ch cefnogi chi i brofi'ch syniadau'n ddiogel a'u helpu i gyrraedd eu botensial llawn.
Pam ddylech chi wneud cais?
- Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ar gael am ddim ac i unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Byddwch chi'n cael cymorth ar-lein gan ein tîm o anogwyr arloesedd, sy’n arbenigwyr ar gyflawni newid.
- Byddwn ni'n eich helpu i ddatrys problemau a magu hyder i barhau i ddefnyddio eich ffordd newydd o weithio unwaith y bydd yr anogaeth wedi dod i ben.
- Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth anogaeth yn gymwys i ymuno â’n ‘clwb anogaeth’ – rhwydwaith o eraill sydd wedi bod drwy’r un broses.
Sut i wneud cais
Rydyn ni am glywed gan unrhyw un mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal gwell.
Rhowch drosolwg i ni o'ch prosiect neu syniad trwy lenwi ein ffurflen gais, neu anfonwch gais fideo byr i anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.
O 25 Medi i 6 Hydref, rydyn ni am glywed eich syniadau i wella unrhyw agwedd o ymarfer neu wasanaethau gofal cymdeithasol, ar unrhyw gam datblygu.
Yna byddwn ni'n cynnal tair ffenestr ymgeisio â ffocws ar gyfer mathau penodol o brosiectau.
- Ffocws ar recriwtio – Byddwn ni'n edrych i gefnogi syniadau a phrosiectau sy'n gwella recriwtio yng ngofal cymdeithasol.
- ‘Hyfforddi’r hyfforddwr’ – Byddwn ni'n chwilio am gyfleoedd i gefnogi pobl sy’n helpu eraill i arloesi.
- Cefnogi mentrau partneriaid – Byddwn ni'n edrych i bartneru â mentrau sydd eisoes yn cefnogi arloesedd yn y sector.
Byddwn ni'n dal i ystyried prosiectau eraill yn ystod y ffenestri ffocws hyn, felly cysylltwch â ni os oes gennych syniad gwych yr hoffech ei archwilio.
Dilynir pob ffenestr gan gyfnod dethol o bythefnos, gyda'r anogaeth ei hun yn para chwe wythnos i'r rhai sy'n cael ei ddewis i gymryd rhan.
Bydd ein tîm anogaeth hefyd wrth law i helpu gyda'r broses ymgeisio, felly cysylltwch os oes cwestiynau gennych.