Datblygwch eich sgiliau arloesi gyda'n gweithdai newydd
Rydyn ni'n cynnal cyfres newydd o weithdai ymarferol i'ch helpu i archwilio syniadau newydd, mynd i'r afael â heriau cymhleth a meithrin eich hyder wrth ddefnyddio dulliau arloesi yn y gwaith.
P'un a ydych yn hollol newydd i arloesi neu'n dymuno datblygu eich sgiliau ymhellach, bydd y sesiynau hyn yn cynnig offer ymarferol, enghreifftiau ysbrydoledig a chyfleoedd i ddysgu gan eraill.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn archwilio pedwar pwnc:
- Deall y broblem, dod o hyd i atebion gwell
- Gwell sgyrsiau, gwell dealltwriaeth
- Profi, dysgu, gwella
- Troi syniadau da yn weithredu
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl sy’n ymwneud â gwella, datblygu gwasanaethau, trawsnewid neu ddatrys problemau o ddydd i ddydd.
Bydd ein sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ar 24 Medi rhwng 10am a 12pm ac yn canolbwyntio ar ddeall y broblem a dod o hyd i atebion gwell.
Gweithdy sgiliau 1: Deall y broblem, dod o hyd i atebion gwell
Pryd? Dydd Iau 24 Medi, 10am i 12pm
Weithiau, y rhwystr mwyaf i wneud cynnydd yw ceisio datrys y broblem anghywir.
Bydd y sesiwn ymarferol hon yn cyflwyno offer syml i'ch helpu i ddeall heriau cymhleth, nodi'r achosion sylfaenol ac archwilio cyfleoedd i newid.
Gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o faes gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar sut y gall mynd ati i ystyried problem o safbwyntiau gwahanol eich helpu i nodi cyfleoedd newydd a datblygu atebion gwell.
Byddwch yn gadael y sesiwn gyda thechnegau ymarferol i:
- ddiffinio a chwmpasu materion cymhleth
- archwilio safbwyntiau gwahanol
- nodi anghenion a chyfleoedd sylfaenol
- llunio datganiadau problem cliriach sy'n helpu i lywio gweithredu.
Darganfod mwy
I gael rhagor o wybodaeth am ein gweithdai sgiliau arloesi, cysylltwch ag Angharad Dalton, ein Pennaeth Gallu ac Anogaeth Arloesedd.