Skip to Main content

Dweud Eich Dweud 2026: Rhannwch eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol

26 Ionawr 2026

Mae ein harolwg Dweud Eich Dweud o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer 2026 bellach ar agor.

Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.

Bydd gennych chi gyfle i ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a’ch llesiant, cyflog ac amodau, a sut rydych chi’n teimlo am weithio yn y sector.

Mae eich ymatebion yn rhoi cipolwg gwych i ni o sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i lywio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig. Maen nhw hefyd yn amlygu materion pwysig i Lywodraeth Cymru ac yn ein helpu i fonitro tueddiadau dros amser.

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw – ni fydd neb yn gwybod pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i gymryd rhan mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £50.

Bydd yr arolwg yn cau ar 4 Mawrth.

Cwblhewch yr arolwg nawr

Cliciwch yma i agor yr arolwg.

Neu ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarganfod mwy.