Cefnogi pobl niwrowahanol a’u teuluoedd
Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Kat Deerfield
Tachwedd 2024
Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfredol ar sut gall pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol gefnogi pobl niwrowahanol a'u teuluoedd. Mae syniadau ynghylch niwrowahaniaeth wedi symud oddi wrth fodel sy’n seiliedig ar ddiffygion, sydd â’r nod o drwsio neu wella pobl unigol. Mae dulliau newydd yn croesawu niwroamrywiaeth ac yn ceisio gwella llesiant pobl niwrowahanol yn ôl beth mae hynny’n ei olygu iddyn nhw. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych ar sut gall gweithwyr gofal cymdeithasol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, cynnig cymorth gyda diagnosis, a gwneud yn siŵr bod amgylcheddau’n hygyrch i bobl niwrowahanol.
Cyflwyniad
Mae meddyliau pobl yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, am lawer o wahanol resymau. Mae’r term niwroamrywiaeth yn seiliedig ar y syniad bod amrywiaeth yn naturiol ac nad yw’n well nac yn waeth i feddwl unigolyn weithio un ffordd yn hytrach na ffordd arall. Wrth ystyried y farn hon, dylen ni feddwl am sut y gallwn ni greu byd lle gall pawb fod yn iach ac yn hapus. Efallai y bydd pobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi os nad yw’r byd yn addas ar gyfer y gwahanol ffyrdd y mae’r meddwl yn gweithio. Felly, mae’n bwysig bod pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn deall niwrowahaniaeth, a bod camau’n cael eu cymryd i wneud amgylcheddau’n fwy hygyrch i bobl niwrowahanol.
Cysyniadau allweddol
Wrth geisio deall a dysgu mwy am bobl niwrowahanol a’u teuluoedd, mae rhai termau cyffredin y gallech chi ddod ar eu traws.
Niwroamrywiaeth, niwroamrywiol, niwrowahaniaeth, ac anhwylderau niwroddatblygiadol
Mae niwroamrywiaeth yn cyfeirio at amrywiaeth yn y ffordd y mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn profi’r byd. Mae'r term ‘niwroamrywiaeth’ yn disgrifio'r amrywiaeth sy'n bodoli ymhlith pobl, yn hytrach na disgrifio unrhyw brofiad unigol (Walker, 2021). Rydyn ni’n defnyddio’r termau ‘niwroamrywiol’ a ‘niwrowahaniaeth’ i ddisgrifio’r profiad unigol o gael ymennydd sy’n gweithio’n wahanol i brofiad y rhan fwyaf o bobl. Mae mathau o niwrowahaniaeth yn cynnwys awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyspracsia, ac anableddau dysgu. Mae pobl weithiau’n gwahaniaethu rhwng anawsterau dysgu, sy’n effeithio ar swyddogaethau penodol, ac anableddau dysgu, sy’n effeithio ar allu deallusol (Mencap, 2024). Niwronodweddiadol yw’r gwrthwyneb i niwrowahanol. Weithiau, mae rhai mathau o niwrowahaniaeth yn cael eu disgrifio fel anhwylderau niwroddatblygiadol, yn enwedig mewn cyd-destunau meddygol. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n defnyddio’r term niwrowahaniaeth yn hytrach nag anhwylder niwroddatblygiadol i bwysleisio’r angen am iaith heb stigma.
Awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn fath o niwrowahaniaeth sy’n aml yn cael ei ddiffinio fel anhwylder. Mae’n aml yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth sy’n cynnwys anawsterau cyfathrebu, deall sut mae pobl eraill yn teimlo, delio â newid, ac ymdopi â mewnbwn synhwyraidd, fel synau uchel neu oleuadau llachar (GIG, 2024). Wrth i’n dealltwriaeth o awtistiaeth gynyddu, mae diffiniadau wedi dechrau canolbwyntio ar brofiadau pobl awtistig, yn hytrach nag ar ddiffygion y gallai pobl eraill eu nodi. Mae Walker (2021) yn disgrifio awtistiaeth fel gwahaniaeth niwrolegol lle mae gan bobl lefel uwch o gysylltedd ac ymatebolrwydd synaptig. Mae hyn yn golygu bod eu hymennydd yn cofrestru mwy o wybodaeth ac yn profi’r byd yn fwy dwys. Yn aml mae awtistiaeth yn cael ei ddisgrifio fel sbectrwm. Mae hyn yn golygu bod profiadau pobl awtistig yn amrywio’n fawr, ond nid yw’n golygu bod pobl yn gallu bod yn fwy neu’n llai awtistig na’i gilydd.
Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
Mae ADHD yn aml yn cael ei ystyried yn gyflwr sy'n achosi i bobl gael trafferth gyda rhoi trefn ar bethau a thalu sylw. Ond mae Bertilsdotter Rosqvist et al. (2023) yn dadlau efallai nad oes gan bobl ag ADHD ddiffyg sylw neu lai o allu i ganolbwyntio nag eraill. Ond mae dwyster y canolbwyntio yn amrywio llawer mwy. Weithiau maen nhw’n gallu canolbwyntio llawer llai na phobl sydd heb ADHD, ond weithiau maen nhw’n gallu canolbwyntio llawer mwy. Yn astudiaeth Bertilsdotter Rosqvist et al. (2023), dadansoddodd ymchwilwyr eu hanesion a'u profiadau eu hunain o gael ADHD. Dywedodd pob un ohonyn nhw eu bod weithiau’n profi rhyw fath o or-ffocws neu ‘lif dwfn’ – math o ganolbwyntio dwys lle roedden nhw’n teimlo bod eu gwaith yn llifo’n rhwydd – wrth gael trafferth canolbwyntio ar adegau eraill. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn yr astudiaeth yn teimlo bod y llif hwn yn hynod bleserus a chynhyrchiol o leiaf peth o’r amser. Roedden nhw hefyd yn ei chael hi’n anoddach canolbwyntio pan nad oedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn pwnc neu dasg (Bertilsdotter Rosqvist et al., 2023).
Mathau eraill o niwrowahaniaeth
Does dim rhestr derfynol o’r cyflyrau a’r gwahaniaethau sy’n dod o dan ymbarél niwroamrywiaeth. Mae llawer o wahanol resymau pam y gallai ymennydd rhywun weithio’n wahanol i eraill. Mae gwahaniaethau niwrolegol eraill yn cynnwys dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anaf i’r ymennydd (ABI), ac anableddau dysgu.
Niwrowahaniaeth yn neddfwriaeth a chanllawiau Cymru
Mae cymorth i bobl niwrowahanol a’u teuluoedd yn cael ei ategu gan ddeddfwriaeth a chanllawiau Cymru ar sut i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (2021)
Cafodd Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ei ysgrifennu gyda phobl awtistig ac mae’n rheoleiddio sut i redeg gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig yng Nghymru. Mae’n nodi sut y dylai pobl awtistig allu cael diagnosis a sut i strwythuro cymorth.
Canllawiau i weithwyr cymdeithasol ar gyfer teuluoedd lle mae gan y rhiant anabledd dysgu (2023)
Yn 2023, lluniodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ble mae gan y rhiant anabledd dysgu. Mae’r canllawiau’n nodi egwyddorion a chamau ymarferol i gefnogi teuluoedd. Mae’r canllawiau’n cynnig cyngor ar wella cyfathrebu, eiriolaeth, sut mae cynllunio a rhoi cymorth, a sut mae cefnogi rhieni a gofalwyr i gael asesiadau.
Beth yw’r paradeim niwroamrywiaeth?
Mae llawer o feysydd lle mae anghytuno a thrafod o ran niwroamrywiaeth. Mae’r ffordd rydyn ni’n deall pobl y mae eu hymennydd yn gweithio’n wahanol i’r norm wedi newid yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf. Gyda’r newid hwn, mae newid wedi bod yn y ffordd rydyn ni’n deall pa gymorth sy’n gweithio orau i bobl. Un newid pwysig yw’r defnydd mwy amlwg o baradeim neu fodel eang o niwroamrywiaeth. Mae paradeim yn set o syniadau, gwerthoedd a safbwyntiau sy’n ein helpu i ddeall rhywbeth a phenderfynu pa fath o gymorth sy’n briodol mewn sefyllfa. Pan fydd pobl yn dweud bod ‘newid paradeim’ wedi bod, maen nhw’n golygu bod ein dealltwriaeth o rywbeth yn newid mewn ffordd sylfaenol. Mae newid mawr wedi bod o ran deall cyflyrau niwrowahanol fel rhywbeth sydd o’i le ar yr unigolyn i ddeall niwroamrywiaeth fel rhywbeth naturiol a normal.
Mae’r farn bod niwroamrywiaeth yn ddiffyg wedi’i wreiddio yn y model meddygol o anabledd (Llewellyn a Hogan, 2000). O’r ongl hon, mae pobl niwrowahanol yn cael trafferth gyda’u hamgylchedd oherwydd nad yw eu hymennydd yn gweithio cystal â’r ymennydd niwronodweddiadol. Mae’r farn hon am niwroamrywiaeth yn canolbwyntio ar helpu pobl niwrowahanol i ‘wella’ eu niwrowahaniaeth a dysgu sut i weithredu’n fwy fel y byddai person niwronodweddiadol yn ei wneud. Mae’n agwedd sy’n aml yn defnyddio mathau arbennig o therapi ymddygiad i ddysgu pobl i weithredu mewn ffordd sy'n cael ei hystyried yn 'briodol' (Ne’eman, 2021; Pellicano a den Houting, 2021). I’r gwrthwyneb, mae cefnogwyr y paradeim niwroamrywiaeth yn dadlau bod pobl niwrowahanol yn cael trafferth oherwydd nad yw’r byd yn hygyrch iddyn nhw, yn hytrach na bod rhywbeth o’i le arnyn nhw. Mae’n niweidiol disgwyl i bobl niwrowahanol ymddwyn mewn ffordd sy’n annaturiol iddyn nhw neu i ymdopi mewn amgylcheddau sy’n achosi straen oherwydd gorlwytho synhwyrau (Walker 2021, Chapman, 2023).
Mae ymchwil sy’n edrych ar sut i wella neu ddileu cyflyrau niwrowahanol, fel rhai mesurau ymddygiad, yn dal i gael ei gynhyrchu heddiw (Leaf et al., 2021). Mae mesurau ymddygiad yn ymyriadau sy’n canolbwyntio ar addysgu a gorfodi ymddygiad dymunol drwy wobrau a chosbau. Mae rhai mesurau ymddygiad yn canolbwyntio ar wneud i bobl ddangos ymddygiadau niwrowahanol llai gweladwy – fel gwahaniaethau mewn cyswllt llygad neu sgiliau cymdeithasol – yn y tymor byr. Ond mae rhai pobl sy’n dilyn y paradeim niwroamrywiaeth yn awgrymu bod y math hwn o ganlyniadau yn niweidiol. Maen nhw’n cynnig y dylai pobl ifanc niwrowahanol allu cael gafael ar gymorth sy’n eu helpu i fyw bywyd da yn unol â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, yn hytrach nag yn unol â safonau ymddygiad niwronodweddiadol (Chapman, 2023; Walker, 2021).
Gall hyn weithiau gynnwys ymyriadau a chymorth sy’n galluogi pobl niwrowahanol i reoli cyflyrau ar lefel unigol. Er enghraifft, mae llawer o bobl sydd ag ADHD neu OCD yn teimlo bod meddyginiaeth yn ddefnyddiol. Yn yr un modd, mae tystiolaeth y gallai rhai mesurau ymddygiad, fel Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, fod yn ddefnyddiol i gefnogi pobl i reoli ymddygiad dinistriol. Mae Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru, 2022) yn cynnig y gall Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol hefyd leihau’r defnydd o ataliaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal. Mae cefnogwyr y dull hwn yn pwysleisio, yn wahanol i rai mesurau ymddygiad eraill, mai eu nod yw peidio â gorfodi newid ymddygiad pobl (Jones, 2022; Bild 2022). Yn hytrach, mae’r dulliau hyn yn canolbwyntio ar wella llesiant a rhoi rheolaeth i bobl niwrowahanol dros eu bywydau eu hunain.
Niwroamrywiaeth a thrawma
Mae’r berthynas rhwng trawma a niwroamrywiaeth yn gymhleth. Mae’n bwysig deall bod rhai cyflyrau niwrowahanol, fel ADHD, awtistiaeth a dyslecsia, yn gysylltiedig ag amrywiad genetig. Roedd damcaniaethau niwrowahaniaeth hen ffasiwn yn cynnig bod y cyflyrau hyn yn deillio o drawma neu ddiffyg gofal a chymorth gan rieni yn gynnar yn eu bywyd (Cleary et al. 2022). Arweiniodd y damcaniaethau hyn at rieni a gofalwyr yn cael eu beio am anawsterau eu plant. Roedden nhw hefyd yn portreadu niwrowahaniaeth fel rhywbeth negyddol, yn seiliedig ar ddiffygion, a ddylai ddiflannu gyda thriniaeth a iachâd. Mae’r syniadau hyn yn anghyson â’r paradeim niwroamrywiaeth, sy’n canolbwyntio ar wella llesiant pobl niwrowahanol yn hytrach na’u gwneud yn llai niwrowahanol.
Nid yw’r paradeim niwroamrywiaeth yn gweld niwroamrywiaeth fel rhywbeth diffygiol y mae angen ei drwsio. Fodd bynnag, mae llawer o bobl niwrowahanol yn profi trallod a thrawma sylweddol. Mae’n bwysig gweithio gyda phobl niwrowahanol o safbwynt sy’n ystyriol o drawma bob amser. Mae rhagor o wybodaeth am y safbwynt hwn ar gael yn ein crynodeb ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma (Cordis Bright a Taylor-Collins, 2024).
Er ei bod yn bwysig peidio â chyfateb niwroamrywiaeth a thrawma, maen nhw’n gysylltiedig mewn sawl ffordd:
1. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod pobl niwrowahanol yn fwy tebygol o gael profiadau bywyd trawmatig. Maen nhw'n fwy tebygol o brofi caledi ariannol, digartrefedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Griffiths et al., 2019; Cazalis et al., 2022, Douglas a Sedgewick, 2024). Mae plant sy’n byw mewn gofal y tu allan i’r cartref hefyd yn llawer mwy tebygol o gael diagnosis niwrowahanol na phlant eraill (Ford et al., 2007).
2. Gall trawma a niwed ddeillio o beidio â rhoi sylw i anawsterau rhywun, peidio â chydnabod eu cryfderau, neu orfod cuddio ymddygiad naturiol (Dawson a Fletcher-Watson, 2022; Hull, 2022).
3. Er mai’r ffordd orau o ddeall llawer o gyflyrau niwrowahanol yw fel gwahaniaethau niwrolegol nad ydynt yn dda nac yn ddrwg, mae rhai pobl yn niwrowahanol oherwydd eu bod wedi dioddef trawma neu anaf. Gall gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, fel anhwylder straen wedi trawma neu anafiadau i’r ymennydd, arwain at anghenion niwrowahanol.
4. Mynegodd gweithwyr cymdeithasol yn astudiaeth Cymreig Heady et al. (2022) bryderon y gallai rhai plant a phobl ifanc gael diagnosis anghywir o ADHD pan fydd eu problemau ymddygiad yn deillio o ddigwyddiadau trallodus mewn bywyd. Mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall y pryderon hyn ac i archwilio pa mor gyffredin yw camddiagnosis a’i effeithiau posibl.
Beth mae ymchwil yn ei ddweud am gefnogi teuluoedd niwrowahanol
Mae’r symudiad tuag at y paradeim niwroamrywiaeth wedi cael ei gyplysu â chynnydd mewn ymchwil ar sut i gefnogi pobl niwrowahanol i ymdopi â’r heriau gwahanol y gallen nhw eu hwynebu. Yn yr adran hon, rydyn ni’n edrych ar yr hyn y mae ymchwil yn ei ddweud am bwysigrwydd arferion sy’n seiliedig ar gryfderau, mynediad at wasanaethau diagnostig, a chreu amgylcheddau hygyrch.
Dulliau niwroamrywiaeth sy’n seiliedig ar gryfderau
Gall pobl niwrowahanol gael trafferth gyda phethau maen nhw’n credu sy’n hawdd i bobl eraill, a gall hyn effeithio ar eu llesiant. Gall dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau helpu pobl niwrowahanol i fagu hyder a gwella llesiant drwy ganolbwyntio ar adeiladu eu cryfderau a’u hadnoddau yn hytrach na chanolbwyntio ar eu diffygion. Mae ymchwil yn dangos bod dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau yn arwain at bobl yn cael mwy o obaith a chred yn eu galluoedd (Devaney et al., 2023; Park a Peterson, 2006). Rydyn ni’n edrych yn fanylach ar arferion sy’n seiliedig ar gryfderau yn ein crynodeb tystiolaeth ar feithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion (Krause et al., 2024).
Efallai y bydd gan bobl niwrowahanol brofiadau negyddol o gymorth yn y gorffennol nad oedden nhw’n seiliedig ar gryfderau neu efallai eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu mesur yn erbyn safonau nad oedd yn ddefnyddiol. Er enghraifft, roedd astudiaeth Rappolt-Schlichtmann et al. (2018) yn cynnwys cynnig mwy o hyblygrwydd i fyfyrwyr dyslecsig ynghylch fformat deunyddiau dysgu a sut roedden nhw’n eu defnyddio. Pan oedden nhw’n cynnig y dewisiadau hyn, roedden nhw’n gweld bod myfyrwyr yn gallu defnyddio deunydd mwy cymhleth a roedd eu hymgysylltiad yn cynyddu'n sylweddol. Mae Rappolt-Schlichtmann et al. (2018) yn dadlau bod profiadau negyddol y myfyrwyr yn y gorffennol wedi achosi iddynt gael emosiynau negyddol ynghylch gweithgareddau a oedd yn cynnwys darllen. Roedd ganddyn nhw gymhelliant isel i wneud tasgau a oedd yn cynnwys darllen, hyd yn oed pan oedd y pwnc o ddiddordeb iddyn nhw. Roedd yr angen i ddarllen felly yn rhwystr i ddysgu. Pan oedd myfyrwyr yn cael cynnig mwy o ddewis ac ymreolaeth, roedden nhw’n gallu cael gafael ar wybodaeth a’i phrosesu heb deimlo’n ddigalon. Cafodd myfyrwyr yn yr astudiaeth y dewis o dderbyn gwybodaeth drwy fideo, sain neu gynnwys graffig/llun. Nid oedd y mathau hyn o gynnwys yn dileu'r angen i fyfyrwyr ddarllen, ond roedden nhw’n ei wneud yn llawer haws. Gwelodd yr ymchwilwyr, gyda'r addasiadau hyn, bod myfyrwyr dyslecsig yn gallu dysgu'r cynnwys yn well, a bod eu sgiliau darllen ac ysgrifennu hefyd yn datblygu (Rappolt-Schlichtmann et al., 2018).
Mewn astudiaeth wahanol (Lee et al., 2020) cynhaliodd ymchwilwyr arolwg gyda 52 o rieni pobl ifanc awtistig a oedd yn cymryd rhan mewn rhaglen wyddoniaeth a oedd yn seiliedig ar gryfderau. Mae gan bobl awtistig, fel llawer o bobl niwrowahanol eraill, ddiddordebau cryf mewn pynciau penodol sy’n cael eu galw’n “ddiddordebau arbennig”. Roedd y rhaglen yn caniatáu i’r bobl ifanc ddatblygu eu diddordeb arbennig mewn ffordd hygyrch. Dywedodd rhieni a gymerodd ran yn yr astudiaeth fod eu plant nid yn unig wedi datblygu sgiliau yn y maes yr oedden nhw’n dysgu amdani, roedden nhw hefyd yn canmol y rhaglen am wella hunan-barch, llesiant ac ymdeimlad o berthyn eu plant.
Mae’r paradeim niwrowamrywiaeth yn cynnig cipolwg pwysig i ni ar y ffordd orau o gefnogi pobl sydd wedi cael eu hystyried yn draddodiadol fel pobl sydd ag anhwylderau neu ddiffygion. Drwy gydnabod a chefnogi cryfderau pobl, gall cymorth effeithiol helpu pobl i ddatblygu eu potensial heb leihau unrhyw un o’r anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu.
Pwysigrwydd diagnosis
Yn astudiaeth Heady et al. (2022) o weithwyr cymdeithasol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal, daeth diagnosis i’r amlwg fel rhan bwysig o helpu pobl ifanc i gael gafael ar gymorth. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i blant a phobl ifanc gael gafael ar wasanaethau cymorth arbenigol. Mae Rappolt-Schlichtmann et al. (2018) yn nodi bod plant a phobl ifanc niwrowahanol hefyd yn debygol iawn o gael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, sy’n gallu gwneud rhoi’r cymorth cywir ar waith yn heriol.
Roedd adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru (2023) ar niwroamrywiaeth yn dangos bod amseroedd aros ar gyfer diagnosis o gyflyrau niwrowahanol fel awtistiaeth ac ADHD yn rhwystr sylweddol i gael gafael ar gymorth i lawer o bobl ifanc niwrowahanol yng Nghymru. Fe welson nhw hefyd fod pobl niwrowahanol a oedd yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn cael trafferth dod o hyd i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ystod adeg casglu’r wybodaeth hon yn 2022, roedd 9014 o blant ar y rhestr aros am asesiad awtistiaeth yng Nghymru. O’r rhain, roedd 3331 wedi bod yn aros am dros flwyddyn (Comisiynydd Plant Cymru, 2023). Mae Senedd Ieuenctid Cymru hefyd wedi tynnu sylw at anawsterau pobl ifanc o ran cael cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl (Senedd Ieuenctid Cymru, Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant 2022). Ac mae aelodau unigol wedi rhoi gwybod am yr anawsterau penodol sydd gan bobl ifanc niwrowahanol ac anabl o ran cael cymorth priodol (Skyrme, 2023). Mae’r adroddiadau hyn yn cynnig cipolwg pwysig ar brofiad bywyd pobl ifanc yng Nghymru, ond mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall sut i gefnogi pobl ag anghenion mwy cymhleth.
Mae pobl sy’n ceisio cael diagnosis yn wynebu rhestrau aros hir ac anawsterau eraill. Roedd adroddiad Comisiynydd Plant Cymru (2023) ar niwroamrywiaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw rhestrau aros ar gyfer diagnosis ffurfiol yn rhwystro plant rhag cael cymorth. Roedd yn annog dull “dim drws anghywir.” Mae hyn yn golygu bod pob gwasanaeth yn rhoi cymorth mewn ffordd sy’n darparu ar gyfer niwroamrywiaeth, heb wahaniaethu rhwng y rhai sydd wedi derbyn diagnosis ffurfiol a’r rheiny sydd heb ddiagnosis ffurfiol.
Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i blant a theuluoedd yn ystod y broses ddiagnostig. Mae Brown et al. (2021) yn dadlau bod y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn siarad â gofalwyr plant awtistig yn ystod ac ar ôl y broses ddiagnostig yn gallu dylanwadu’n gryf ar y ffordd y maen nhw’n deall diagnosis eu plentyn. Maen nhw’n nodi bod rhai rhieni’n teimlo emosiynau negyddol dwys, gan gynnwys galar, pan fyddan nhw’n dysgu bod eu plentyn yn awtistig. Maen nhw'n dadlau bod y ffordd y caiff awtistiaeth ei bortreadu yn y cyfryngau a chan weithwyr proffesiynol yn aml yn canolbwyntio ar ddiffygion a’r caledi sy’n cael ei brofi gan bobl niwrowahanol. Mae mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar gryfderau yn helpu rhieni a gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth a chymorth sy’n eu galluogi i brosesu’r diagnosis mewn ffordd fwy adeiladol.
Gwneud amgylcheddau’n hygyrch
Hyd yn oed pan fydd pobl niwrowahanol wedi gallu siapio eu bywydau bob dydd i ddiwallu eu hanghenion, gallan nhw gael trafferth pan fydd pethau’n newid neu pan fydd yn rhaid iddyn nhw ddod i arfer ag amgylcheddau newydd. Gall rhai sefyllfaoedd arbennig o anodd godi pan fydd pobl niwrowahanol yn cael eu rhoi mewn amgylcheddau sy’n achosi trallod oherwydd gorlwytho synhwyraidd (Comisiwn Ansawdd Gofal, 2020).
Fe ddatblygodd Williams et al. (2021) restr o argymhellion ar gyfer diwallu anghenion synhwyraidd plant a phobl ifanc awtistig sy’n aros ar wardiau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn Lloegr. Cafodd yr argymhellion o’r adroddiad hwn eu datblygu gan bobl awtistig rhwng 16 a 25 oed a oedd wedi aros ar ward CAMHS, yn ogystal ag academyddion, eiriolwyr a phobl eraill a oedd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc awtistig. Yma, rydyn ni wedi addasu argymhellion Williams et al. (2021) ar gyfer creu amgylchedd sy’n ystyriol o’r synhwyrau er mwyn i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl niwrowahanol allu ei ddefnyddio:
- creu amgylchedd rhagweladwy, er enghraifft, rhannu beth fydd yn digwydd a phryd, cadw at amserlenni, a rhoi gwybod i bobl pan fydd cynlluniau’n newid
- cynnwys pobl awtistig mewn ffordd ystyrlon wrth adolygu’r amgylchedd synhwyraidd
- sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sy’n cael ei ddatblygu a’i ddarparu gan bobl awtistig a chynghreiriaid sy’n deall awtistiaeth ac anghenion synhwyraidd
- asesu anghenion synhwyraidd pawb i ystyried sut i’w cynnwys a’u cefnogi mewn cynlluniau gofal, er enghraifft, creu amgylcheddau tawel gyda goleuadau priodol neu gynnig gweithgareddau tawelu
- personoli rheoli risg a gwneud penderfyniadau a chefnogi pobl i gael dewis a rheolaeth
- ystyried gwahanol anghenion cyfathrebu pobl, neu'r amser sydd ei angen i brosesu gwybodaeth
- cyfnewid larymau clywadwy am larymau 'distaw', lleihau sŵn ac adlais, a rhoi mynediad diderfyn i bobl i fannau tawel a lleoliadau awyr agored
- newid yr holl oleuadau fflwroleuol ar gyfer rhai gwahanol
- ystyried effaith arogleuon, cyffyrddiad a gwead.
Dydy’r rhestr hon ddim yn gynhwysfawr ac mae bob amser yn syniad da siarad â phobl niwrowahanol am yr hyn a fyddai’n gwneud pethau’n haws iddyn nhw. Mae’n bwysig cofio bod pobl yn gweld y byd o’u cwmpas mewn ffyrdd gwahanol iawn ac efallai y bydd pobl niwrowahanol yn cael trafferth gyda phethau nad ydy pobl eraill prin yn sylwi arnyn nhw, fel sŵn cefndir isel, tymheredd neu gynllun ystafell.
Beth mae ymchwil yn ei ddweud am gefnogi rhieni a gofalwyr plant niwrowahanol
Mae rhieni plant niwrowahanol yn aml yn wynebu anawsterau sylweddol o ran sicrhau bod eu plant yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae cefnogi teuluoedd lle mae un aelod neu fwy yn niwrowahanol yn golygu cydnabod yr anawsterau hyn a gofalu hefyd i beidio â stigmateiddio niwrowahaniaethau. Fe gynhaliodd D’Arcy et al. (2024) arolwg gyda 66 o rieni a gofalwyr plant niwrowahanol yn Awstralia. Dywedodd gofalwyr eu bod yn teimlo’n ynysig oherwydd diffyg dealltwriaeth pobl eraill o anghenion eu plant a dwysedd y gofal sy’n cael ei roi. Dywedodd llawer o ofalwyr hefyd fod heriau dod i ben â gwahanol fathau o gymorth i'w plant yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl eu hunain.
Roedd gofalwyr plant niwrowahanol yn astudiaeth D’Arcy et al. (2024) yn aml yn methu gweithio. Roedd hyn yn eu rhoi mewn caledi ariannol ac yn arwain at golli eu hunaniaeth. Roedd llawer o ofalwyr yn dioddef o weld bod eu bywyd wedi newid felly. Er bod yr astudiaeth hon wedi’i chynnal yn Awstralia, gallai rhai o’r canfyddiadau fod yn berthnasol i gyd-destun Cymru. Roedd arolwg ar-lein yn y DU yn nodi bod 63 y cant o ofalwyr di-dâl, yn 2022, yn poeni’n ofnadwy am eu costau bob mis (Carers UK, 2023a). Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod 57 y cant o ofalwyr yn poeni am gydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofalu, a dywedodd 27 y cant fod eu hiechyd meddwl yn ddrwg neu’n ddrwg iawn (Carers UK, 2023b). Mae’n bwysig bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cydnabod pa mor anodd y gall fod i rieni a gofalwyr plant niwrowahanol ddarparu ar gyfer eu plant ar yr un pryd â chynnal eu llesiant eu hunain.
Gan ddefnyddio ymchwil ehangach, mae Brown et al. (2021) yn awgrymu saith ffordd y gall gweithwyr proffesiynol gefnogi rhieni a gofalwyr plant niwrowahanol sydd wrthi’n cael diagnosis. Rydyn ni wedi addasu awgrymiadau Brown et al. (2021) yn y pwyntiau sy’n cael eu rhestru yma.
1. Bod yn ofalus o ran iaith
Mae’n bwysig defnyddio iaith sy’n ystyriol o niwrowahaniaeth. Gall hyn olygu canolbwyntio ar ‘anghenion cymorth’ yn hytrach na ‘diffygion’ neu siarad am ‘debygolrwydd uchel’ o niwrowahaniaeth, yn hytrach na ‘risg’.
2. Dangos gofal tuag at rieni a gofalwyr
Mae'n bwysig i ymarferwyr fod yn sensitif i'r amrywiaeth o deimladau sydd gan rieni a gofalwyr ynglŷn â diagnosis eu plentyn. Gall gofyn sut maen nhw’n teimlo mewn sgyrsiau am anghenion cymorth eu plant eu helpu i brosesu gwybodaeth.
3. Gosod naws gynnes a chadarnhaol
Dylai ymarferwyr fod yn ofalus i ddefnyddio arferion sy’n seiliedig ar gryfderau gyda rhieni a gofalwyr yn ogystal â phlant. Gall canolbwyntio ar empathi a phethau cadarnhaol ynglŷn â rôl y rhiant neu’r gofalwr helpu i wneud sefyllfaoedd anodd yn fwy grymusol.
4. Bod yn onest ynglŷn â heriau
Nid yw defnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau yn golygu y dylai ymarferwyr osgoi siarad am yr heriau sylweddol y gallai teuluoedd eu hwynebu. Mae pobl niwrowahanol a’u teuluoedd yn aml yn gorfod brwydro’n galed iawn i gael y cymorth iawn. Er ei bod yn bwysig galluogi teuluoedd i weld niwrowahaniaeth fel ymennydd rhywun sy’n gweithio mewn ffordd wahanol a chefnogi hynny, rhaid hefyd cydnabod yr heriau hyn.
5. Bod yn ofalus ynghylch sut rydyn ni’n siarad am driniaeth
Mae llawer o ffyrdd o gefnogi plant niwrowahanol. Mae angen i weithwyr gofal cymdeithasol fod yn glir ynghylch beth yw’r dulliau hyn a rheoli disgwyliadau rhieni. Er enghraifft, mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn deall nad oes modd gwella niwrowahaniaeth a bod triniaeth sy’n canolbwyntio ar wneud i blant ymddangos yn llai niwrowahanol (fel therapïau ymddygiad penodol) yn gallu achosi niwed tymor hir (Hull et al., 2020; Milton a Sims, 2016). Yn hytrach, rhaid annog rhieni a gofalwyr i geisio cefnogaeth i’w plant sy’n hyrwyddo llesiant ac yn adeiladu ar eu cryfderau.
6. Cyfathrebu â phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol
Dylai ymarferwyr fod yn sensitif i wahaniaethau diwylliannol. Mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig weithiau’n ddrwgdybus o wasanaethau meddygol a chymdeithasol oherwydd y ffordd y mae gweithwyr meddygol proffesiynol wedi ymgysylltu â’r cymunedau hyn yn hanesyddol. Dylai ymarferwyr hefyd fod yn sensitif i sut mae gwahanol gymunedau’n deall niwroamrywiaeth.
7. Mynd i’r afael ag anghenion cymorth gofalwyr
Efallai y bydd rhieni a gofalwyr plant niwrowahanol yn profi lefelau uchel o straen ac yn cael trafferth gyda stigma neu ynysu cymdeithasol. Efallai y bydd ganddyn nhw eu hanghenion cymorth eu hunain hefyd. Bydd rhoi cymorth ar waith i rieni a gofalwyr yn eu helpu i gefnogi eu plant. Nododd rhieni a gofalwyr a oedd yn gysylltiedig ag astudiaeth D’Arcy et al. (2024) nifer o bethau a allai wella eu bywydau. Roedd hyn yn cynnwys addysg a hyfforddiant, grwpiau cefnogi, gofal seibiant, a chymorth ariannol.
Casgliad
Mae’r crynodeb tystiolaeth hwn yn cyflwyno ymchwil ar sut gall gweithwyr gofal cymdeithasol wella llesiant pobl niwrowahanol a’u teuluoedd. Gall y paradeim niwroamrywiaeth helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i adeiladu ar gryfderau pobl niwrowahanol ar yr un pryd â sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir. Mae hyn yn golygu deall y gallai pobl niwrowahanol gael trafferth oherwydd nad yw’r byd o’u cwmpas yn hygyrch, yn hytrach na oherwydd bod rhywbeth o’i le arnyn nhw. Gall cefnogi llesiant unigol pobl niwrowahanol a’u teuluoedd gynnwys defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, eu cefnogi gyda diagnosis, ac ystyried hygyrchedd yn eu hamgylchedd.
Darllen ychwanegol
Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gefnogi pobl niwrowahanol a’u teuluoedd sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.
1. Brown, H. M., Stahmer, A. C., Dwyer, P. a Rivera, S. (2021) ‘Changing the story: how diagnosticians can support a neurodiversity perspective from the start’, Autism, 25 (5), tt. 1171-1174, doi:10.1177/13623613211001012, ar gael yn https://nhswaleslibrarysearch.cardiff.ac.uk/permalink/44WHELF_CAR/hptobj/cdi_proquest_miscellaneous_2549222802.
2. D'Arcy, E., Burnett, T., Capstick, E., Elder, C., Slee, O., Girdler, S., Scott, M. a Milbourn, B. (2024) ‘The well-being and support needs of Australian caregivers of neurodiverse children’, Journal of Autism and Developmental Disorders, 54 (5): tt. 1857-1869, doi:10.1007/s10803-023-05910-1, ar gael yn https://nhswaleslibrarysearch.cardiff.ac.uk/permalink/44WHELF_CAR/hptobj/cdi_pubmedcentral_primary_oai_pubmedcentral_nih_gov_9909132.
3. Heady, N., Watkins, A., John, A. a Hutchings, H. (2022) ‘The challenges that social care services face in relation to looked after children with neurodevelopmental disorders: a unique insight from a social worker perspective’, Adoption & Fostering, 46 (2), tt. 184-204, doi:10.1177/03085759221100585, ar gael yn https://nhswaleslibrarysearch.cardiff.ac.uk/permalink/44WHELF_CAR/e7er24/cdi_sage_journals_10_1177_03085759221100585.
4. Milton, D. a Sims, T. (2016) ‘How is a sense of well-being and belonging constructed in the accounts of autistic adults?’, Disability & Society, 31 (4), tt. 520-534, doi:10.108 0/09687599.2016.1186529, ar gael yn https://doi.org/10.1080/09687599.2016.1186529.
5. Williams, G., Memmott, A., Corbyn, J. a Newton, K. (2021) “It's Not Rocket Science”: considering and meeting the sensory needs of autistic children and young people in CAMHS inpatient services, National Development Team for Inclusion, ar gael yn https://www.ndti.org.uk/assets/files/Its-not-rocket-science-V6.pdf.
Cyfeiriadau -
Bertilsdotter Rosqvist, H., Hultman, L., Österborg Wiklund, S., Nygren, A., Storm, P. a Sandberg, G. (2023) ‘Intensity and variable attention: counter narrating ADHD, from ADHD deficits to ADHD difference’, The British Journal of Social Work, 53 (8), tt. 3647-3664, doi:10.1093/bjsw/bcad138.
Bild (2022) What does good PBS look like now? How to spot it, ar gael yn https://www.bild.org.uk/wp-content/uploads/2022/06/Good_PBS_POB_SCREEN.pdf (cyrchwyd: 19 Awst 2024).
Brown, H. M., Stahmer, A. C., Dwyer, P. a Rivera, S. (2021) ‘Changing the story: how diagnosticians can support a neurodiversity perspective from the start’, Autism, 25 (5), tt. 1171-1174, doi:10.1177/13623613211001012.
Carers UK (2023a) State of caring 2023, the impact of caring on: finances, ar gael yn https://www.carersuk.org/media/xd3mmknr/cuk-state-of-caring-2023-report-d4.pdf (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Carers UK (2023b) State of caring 2023, the impact of caring on: health, ar gael yn https://www.carersuk.org/media... (cyrchwyd: 29 Awst 2024).
Cazalis, F., Reyes, E., Leduc, S. a Gourion, D. (2022) ‘Evidence that nine autistic women out of ten have been victims of sexual violence’, Frontiers in Behavioral Neuroscience, 16, 852203, doi:10.3389/fnbeh.2022.852203.
Chapman, R. (2023) Empire of normality: neurodiversity and capitalism, Llundain, Pluto Press.
Cleary, M., West, S. a Mclean, L. (2022) ‘From “refrigerator mothers” to empowered advocates: the evolution of the autism parent’, Issues in Mental Health Nursing, 44 (1), tt. 64-70, doi:10.1080/01612840.2022.2115594.
Comisiwn Ansawdd Gofal (2020) Out of sight – who cares?: a review of restraint, seclusion and segregation for autistic people, and people with a learning disability and/or mental health condition, ar gael yn https://www.cqc.org.uk/publications/themed-work/rssreview (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Comisiynydd Plant Cymru (2023) Dull dim drws anghywir i niwroamrywiaeth: llyfr o brofiadau, ar gael yn https://www.complantcymru.org.uk/dull-dim-drws-anghywir-i-niwroamrywiaeth-2/ (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Cordis Bright a Taylor-Collins, E. (2024) Dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/dulliau-gweithredu-syn-ystyriol-o-drawma (cyrchwyd: 5 Awst 2024).
D'Arcy, E., Burnett, T., Capstick, E., Elder, C., Slee, O., Girdler, S., Scott, M. a Milbourn, B. (2024) ‘The well-being and support needs of Australian caregivers of neurodiverse children’, Journal of Autism and Developmental Disorders, 54 (5): tt. 1857-1869, doi:10.1007/s10803-023-05910-1.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https:///www.legislation.gov.u... (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Devaney, C., Brady, B., Crosse, R. a Jackson, R. (2023) ‘Realizing the potential of a strengths-based approach in family support with young people and their parents’, Child & Family Social Work, 28 (2), tt. 481-490, doi:10.1111/cfs.12978.
Dawson, M. a Fletcher-Watson, S. (2022) ‘When autism researchers disregard harms: a commentary’, Autism, 26 (2), tt. 564-566, doi:10.1177/13623613211031403.
Douglas, S. a Sedgewick, F. (2024) ‘Experiences of interpersonal victimization and abuse among autistic people’, Autism, 28 (7), tt. 1732-1745, doi:10.1177/13623613231205630.
Ford, T., Vostanis, P., Meltzer, H. a Goodman, R. (2007) ‘Psychiatric disorder among British children looked after by local authorities: comparison with children living in private households’, The British Journal of Psychiatry, 190 (4), tt. 319-325, doi:10.1192/bjp.bp.106.025023.
GIG (2024) What is autism?, ar gael yn https://www.nhs.uk/conditions/autism/what-is-autism/ (cyrchwyd: 19 Awst 2024).
Green, J. (2023), ‘Debate: neurodiversity, autism and healthcare’, Child and Adolescent Mental Health, 28 (3), tt. 438-442, doi:10.1111/camh.12663.
Heady, N., Watkins, A., John, A. a Hutchings, H. (2022) ‘The challenges that social care services face in relation to looked after children with neurodevelopmental disorders: a unique insight from a social worker perspective’, Adoption & Fostering, 46 (2), tt. 184-204, doi:10.1177/03085759221100585.
Hull, L., Petrides, K. V. a Mandy, W. (2020) ‘The female autism phenotype and camouflaging: a narrative review’, Review Journal of Autism and Developmental Disorders, 7 (4), tt. 306-317, doi:10.1007/s40489-020-00197-9.
Jones, E. (2022) ‘What does good PBS look like?’, Bild, 16 Mehefin 2022, ar gael yn https://www.bild.org.uk/what-does-good-pbs-look-like/ (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Leaf, J. B., Cihon, J. H., Leaf, R., McEachin, J., Liu, N., Russell, N., Unumb, L., Shapiro, S. a Khosrowshahi, D. (2022) ‘Concerns about ABA-based intervention: an evaluation and recommendations’, Journal of Autism and Developmental Disorders, 52 (6), tt. 2838-2853, doi:10.1007/s10803-021-05137-y.
Lee, E. A. L., Black, M. H., Falkmer, M., Tan, T., Sheehy, L., Bölte, S. a Girdler, S. (2020) ‘“We can see a bright future”: parents’ perceptions of the outcomes of participating in a strengths-based program for adolescents with autism spectrum disorder’, Journal of Autism and Developmental Disorders, 50 (9), tt. 3179-3194, doi:10.1007/s10803-020-04411-9.
Llewellyn, A. a Hogan, K. (2000) ‘The use and abuse of models of disability’, Disability & Society, 15, (1), tt. 157-165, doi:10.1080/09687590025829.
Llywodraeth Cymru (2023) Canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda theuluoedd ble mae gan y rhiant anabledd dysgu, ar gael yn https://www.llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-gweithwyr-cymdeithasol-syn-gweithio-gyda-theuluoedd-ble-mae-gan-y-rhiant-html?_gl=1*1v1otfx*_ga*MTg3MzQ4NTI0MC4xNzA1NDExMDE1*_ga_L1471V4N02*MTcyNTM1OTIyMy4xNjcuMS4xNzI1MzU5NTcyLjAuMC4w (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Llywodraeth Cymru (2022) Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol: canllawiau ar leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/fframwaith-ar-gyfer-lleihau-arferion-cyfyngol-html (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Llywodraeth Cymru (2021) Cod ymarfer ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth, ar gael yn https://www.llyw.cymru/cod-ymarfer-ar-gyflenwi-gwasanaethau-awtistiaeth-0?_gl=1*1n7la20*_ga*MTg3MzQ4NTI0MC4xNzA1NDExMDE1*_ga_L1471V4N02*MTcyNTM1OTIyMy4xNjcuMC4xNzI1MzU5MjIzLjAuMC4w (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Maw, K. J., Beattie, G. a Burns, E. J. (2024) ‘Cognitive strengths in neurodevelopmental disorders, conditions and differences: a critical review’, Neuropsychologia, 197, 108850, doi:10.1016/j.neuropsychologia.2024.108850.
Mencap (2024) Learning disability or learning difficulty?, ar gael yn https://www.mencap.org.uk/learning-disability-explained/learning-difficulties (cyrchwyd: 29 Awst 2024).
Milton, D. a Sims, T. (2016) ‘How is a sense of well-being and belonging constructed in the accounts of autistic adults?’, Disability & Society, 31 (4), tt. 520-534, doi:10.108 0/09687599.2016.1186529.
Ne’eman, A. (2021) ‘When disability is defined by behavior, outcome measures should not promote “passing”’, AMA Journal of Ethics, 23, (7), e569-e575, doi:10.1001/amajethics.2021.569.
Park, N. a Peterson, C. (2006) ‘Character strengths and happiness among young children: content analysis of parental descriptions’, Journal of Happiness Studies, 7 (3), tt. 323-341, doi:10.1007/s10902-005-3648-6.
Pellicano, E. a den Houting, J. (2022) ‘Annual research review: shifting from “normal science” to neurodiversity in autism science’, The Journal of Child Psychology and Psychiatry, 63 (4), tt. 381-396, doi:10.1111/jcpp.13534.
Rappolt-Schlichtmann, G., Boucher A. R. a Evans, M. (2018) ‘From deficit remediation to capacity building: learning to enable rather than disable students with dyslexia’, Language, Speech, and Hearing Services in Schools, 49 (4), tt. 864-874, doi:10.1044/2018_LSHSS-DYSLC-18-0031.
Senedd Ieuenctid Cymru, Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant (2022) Meddyliau iau o bwys, ar gael yn https://seneddieuenctid.senedd.cymru/media/4nvab34d/meddyliau-iau-o-bwys-adroddiad-iechyd-meddwl.pdf (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Skyrme, T. (2023) ‘Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl anabl – Tegan Skyrme, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru’, Anabledd Dysgu Cymru, 15 Rhagfyr 2023, ar gael yn https://www.ldw.org.uk/cy/mynediad-at-wasanaethau-iechyd-meddwl-i-bobl-anabl-tegan-skyrme-aelod-senedd-ieuenctid-cymru/ (cyrchwyd: 20 Awst 2024).
Walker, N. (2021) Neuroqueer heresies: notes on the neurodiversity paradigm, Autistic Empowerment, and Postnormal Possibilities, Texas, Autonomous Press.
Williams, G., Memmott, A., Corbyn, J. a Newton, K. (2021) “It's not rocket science”: considering and meeting the sensory needs of autistic children and young people in CAMHS inpatient services, National Development Team for Inclusion, ar gael yn https://www.ndti.org.uk/assets/files/Its-not-rocket-science-V6.pdf (cyrchwyd: 20 Awst 2024).