Skip to Main content

Meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion

Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Kat Deerfield

Gorffennaf 2024

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n amlygu ymchwil berthnasol a chyfredol ar sut gall pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wella’r berthynas â theuluoedd. Gall teuluoedd ar y cyrion gynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig neu bobl sy’n cael trafferthion ariannol. Gallan nhw’n aml wynebu heriau penodol. Gall yr heriau hyn gael eu hachosi gan amodau materol ac agweddau mewn cymdeithas.

Mae'r crynodeb hwn yn trafod yr ymchwil ar sut gall pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn. Mae’n dangos sut gall ymarferwyr wella’r berthynas â theuluoedd sydd ar y cyrion drwy arferion myfyriol sy’n seiliedig ar gryfderau.

Cyflwyniad

Dywedodd y rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru (63 y cant) eu bod wedi ymuno â’r sector oherwydd eu bod eisiau swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Mae’r nifer hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gyda 76 y cant ohonynt yn dweud bod hyn yn gymhelliant (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Er gwaethaf y cymhelliant cadarnhaol hwn, gall y berthynas rhwng pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol a’r rhai sy’n ei ddarparu fod yn anodd. Mae hyn yn arbennig o wir am gefnogi teuluoedd. Mae teuluoedd sydd mewn cysylltiad â gweithwyr cymdeithasol yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n ddi-rym, dan straen, yn ddrwgdybus ac wedi’u cywilyddio (Nissen ac Engen, 2021; Bilson et al. 2017).

Mae ymchwil yn y DU hefyd wedi awgrymu bod gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda theuluoedd yn tueddu i ddefnyddio dulliau cyfathrebu sy’n creu gwrthdaro. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar agweddau negyddol wrth drafod gyda theuluoedd yn hytrach nag ymgysylltu â theuluoedd mewn ffordd fwy empathig a chadarnhaol (Forrester et al., 2008). Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cael ei drafod yn fanylach yn ein crynodeb o’r dystiolaeth ar cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd.

Dywedodd gweithwyr gofal cymdeithasol wrthym pa bynciau yr hoffen nhw ddeall mwy amdanynt. Roedden nhw am gael rhagor o wybodaeth am sut i weithio’n gadarnhaol gyda theuluoedd a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau datrys problemau. Roedden nhw hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth ar sut i annog teuluoedd i ymgysylltu a chymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd eisiau gwybod beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am sut i gydbwyso eu gwybodaeth a’u profiad eu hunain i sicrhau bod hawliau teuluoedd i arfer rheolaeth dros eu bywydau eu hunain yn cael eu parchu.

Mae’r crynodeb hwn yn edrych ar sut gall gweithwyr gofal cymdeithasol wella’r berthynas â’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi. Mae’n edrych yn benodol ar gefnogi teuluoedd sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion oherwydd eu bod yn perthyn i leiafrif ethnig neu’n cael trafferthion ariannol. Mae'r crynodeb hefyd yn cyflwyno ymchwil sy'n archwilio profiadau grwpiau cymdeithasol ar y cyrion sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn tynnu sylw at wersi i'r rhai sy'n awyddus i wella eu perthynas â theuluoedd. Y ffordd orau o ddarllen y crynodeb hwn yw ynghyd â’n crynodeb o’r dystiolaeth ar cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd. Yno rydyn ni’n archwilio ymchwil ar fanteision rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol fyfyrio ar eu gwaith i’w helpu i gadw ffocws mewn sefyllfaoedd anodd, er enghraifft lle mae pobl mewn perygl o gael eu niweidio. Mae’n edrych ar sut y gall gwell dulliau a sgiliau cyfathrebu helpu i feithrin perthynas gryfach a mwy gonest gyda theuluoedd.

Cysyniadau allweddol sy’n ymwneud â gwella’r berthynas â theuluoedd

Yn yr adran hon rydyn ni’n cyflwyno tri chysyniad allweddol sy’n ein helpu i ddeall y berthynas gymhleth rhwng pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a’r teuluoedd y maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw: ymyleiddio, pŵer a thrais symbolaidd.

Ymyleiddio

Mae rhai grwpiau’n llawer mwy tebygol o fod mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol nag eraill. Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond i ddeall sefyllfa pobl sy’n byw ar y cyrion yn y DU mae’n bwysig deall y ddeinameg o ran pwy sy’n meddu ar rym. Dangosodd astudiaeth (yn cymharu ystadegau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) fod teuluoedd sy'n profi gwahanol fathau o ymyleiddio, yn enwedig teuluoedd Du ac economaidd ddifreintiedig, yn fwy tebygol o gael cyswllt â gwasanaethau amddiffyn plant (Bywaters et al., 2020). Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos fod plant yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn llawer mwy tebygol o fyw mewn ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd na phlant yn Lloegr neu’r Alban. Mae cysylltiad cryf rhwng tlodi a’r tebygolrwydd o fod yn destun ymyriad gan wasanaethau cymdeithasol ledled y DU. Roedd plant yn y 10 y cant tlotaf o ardaloedd yn y DU, 10 gwaith yn fwy tebygol o gael ymyriadau amddiffyn plant na phlant yn y 10 y cant cyfoethocaf (Bywaters et al., 2020).

Gall y cysyniad o ymyleiddio ein helpu i ddeall profiadau grwpiau sydd â chynrychiolaeth anghymesur yn y ffigurau ynghylch cyswllt â gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae Kagan et al. (2002) wedi disgrifio ymyleiddio fel y profiad o fod ar y cyrion mewn perthynas â grwpiau eraill. Gall cymdeithasau cyfan gael eu hymyleiddio mewn perthynas â chymdeithasau eraill yn fyd-eang. Ar yr un pryd, gall unigolion neu grwpiau llai mewn cymdeithas gael eu gwthio i’r cyrion am lawer o wahanol resymau, gan gynnwys eu sefyllfa economaidd, oherwydd eu bod yn perthyn i grwpiau ethnig penodol, neu oherwydd bod ganddynt anabledd. Mae’n bwysig nodi y bydd llawer o deuluoedd yn perthyn i fwy nag un o’r grwpiau hyn.

Pŵer

Mae rhai ymchwilwyr yn awgrymu y gall gweithwyr cymdeithasol yn anfwriadol fod yn rhan o systemau gormesol sy'n atgyfnerthu rhai mathau o anghydraddoldeb, megis y rhai sy’n cael eu profi gan grwpiau ar y cyrion (Tronto, 1993). Oherwydd hyn, mae’n bwysig iawn bod pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn meddwl am berthnasoedd pŵer er mwyn iddynt allu darparu gofal a chymorth mewn ffordd gadarnhaol (Tronto, 1993).

Mae meddwl am berthnasoedd pŵer yn bwysig ar gyfer gweithio’n effeithiol yn ogystal ag yn foesegol. Gall profiadau sy’n dadrymuso neu berthnasoedd llawn straen rhwng gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd gael effaith negyddol ar ganlyniadau ymyriadau neu barodrwydd teuluoedd i ymgysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Er enghraifft, mae astudiaeth o Sweden ynghylch gweithio gyda rhieni ag anabledd dysgu yn dangos fod y teuluoedd hyn yn aml yn osgoi cyswllt â gwasanaethau cymdeithasol oherwydd eu bod wedi cael profiadau negyddol yn y gorffennol gydag awdurdodau (Starke, 2011). Mae ymchwil yn awgrymu, pan fydd rhieni'n ymddiried mewn gweithwyr cymdeithasol, bod hyn yn cynyddu eu hymgysylltiad â mesurau yn sylweddol ac yn gwella canlyniadau cyffredinol (Nissen ac Engen, 2021).

Trais symbolig

Gallai profiad bywyd teulu fod yn wahanol iawn i brofiad y gweithiwr/gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n eu cefnogi (Featherstone et al., 2014). Mae cael realiti gwahanol yn gallu arwain at wrthdaro. Er enghraifft, gallai rhieni wrthsefyll a chwestiynu disgwyliadau gweithwyr cymdeithasol am nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’u normau diwylliannol eu hunain neu am fod ganddyn nhw syniadau gwahanol am yr hyn sydd orau i’w plant. Gallai gweithwyr cymdeithasol ddehongli hyn fel diffyg mewn ‘sgiliau rhianta’, yn hytrach na’i weld fel cyfle i ymgysylltu a dysgu eu hunain (Nissen ac Engen, 2021; Okpokiri, 2021).

Gall y cysyniad o 'drais symbolig' (Bourdieu, 1991) fod yn ddefnyddiol wrth ddeall sut y gallai realiti gwahanol teuluoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol ryngweithio. Trais symbolaidd yw pan fydd y prif grŵp neu berson mewn sefyllfa yn gorfodi eu diffiniad o realiti ar eraill. Mewn sefyllfa lle mae gweithiwr cymdeithasol yn rhyngweithio â theulu, gall hyn olygu bod gan y teulu fersiwn wahanol o’r hyn sy’n digwydd neu efallai y byddant yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg. Nid yw’r teulu’n gallu herio fersiwn y gweithiwr cymdeithasol o realiti oherwydd bod gan y gweithiwr cymdeithasol fwy o bŵer a’i fod o bosibl yn rheoli mynediad at eu plant.

Cefnogi teuluoedd yn neddfwriaeth a chanllawiau Cymru

Mae sawl darn o ddeddfwriaeth yng Nghymru sy’n cefnogi’r nod o wella’r berthynas rhwng ymarferwyr a theuluoedd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014)

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cefnogi llesiant pawb sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn dilyn pedair prif egwyddor:

  • llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’i anghenion wrth galon ei ofal a rhoi llais a rheolaeth iddo o ran cyflawni’r canlyniadau sy’n ei helpu i sicrhau llesiant
  • atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i leihau’r cynnydd mewn angen critigol
  • llesiant - cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain, a mesur llwyddiant gofal a chefnogaeth
  • cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) hefyd yn rhoi arweiniad ar asesu anghenion oedolion a phlant er mwyn i bawb yng Nghymru allu cael gafael ar gymorth cyfartal. Bydd y crynodeb hwn yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill i weithio’n unol ag egwyddorion craidd y Ddeddf drwy gyflwyno tystiolaeth ar sut i feithrin perthynas gryfach â’r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi.

Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024

Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru (2024) yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi plant yng Nghymru. Yn y strategaeth hon, mae ymrwymiad i weithio gyda theuluoedd i leihau costau a chynyddu incwm drwy sicrhau bod rhieni’n ymwybodol o unrhyw gymorth materol y mae ganddynt hawl iddo.

Mae tlodi’n elfen allweddol o ran gwneud teuluoedd yn agored i wahanol fathau o niwed. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n cyflwyno rhywfaint o ymchwil ar sut i weithio gyda theuluoedd sydd dan anfantais economaidd mewn ffordd sy’n hyrwyddo urddas a rheolaeth.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (2022) yn nodi bwriad y llywodraeth i ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol mewn polisïau. Mae’r cynllun yn defnyddio dull seiliedig ar hawliau sy’n tynnu ar brofiadau bywyd pobl yng Nghymru.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu nifer o nodau sy’n benodol i ofal cymdeithasol, gan gynnwys cynyddu amrywiaeth ethnig mewn arweinyddiaeth a’r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn nodi ymrwymiad i chwalu’r rhwystrau y mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar ofal a chymorth.

Mae’r crynodeb hwn yn amlinellu’r hyn y mae’r ymchwil yn ei ddweud am sut i feithrin ymddiriedaeth a gwella cyfathrebu â theuluoedd o gymunedau sydd ar gyrion cymdeithas a sut i osgoi cyfrannu’n ddamweiniol at wahaniaethu.

Meithrin perthynas gadarnhaol gyda theuluoedd

Gall nifer o ddulliau ymarfer gofal cymdeithasol helpu ymarferwyr i feithrin perthynas gadarnhaol gyda theuluoedd.

Dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau

Mae dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau yn canolbwyntio ar gryfderau ac adnoddau’r teuluoedd sy’n defnyddio gofal cymdeithasol (Devaney et al., 2023). Mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y berthynas rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a’r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi. Mae rhywfaint o ymchwil yn dangos bod dulliau seiliedig ar gryfderau yn arwain at bobl yn cael mwy o obaith a chred yn eu galluoedd (Devaney et al., 2023; Park a Peterson, 2006). Mae gweithwyr cymdeithasol sy’n defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau hefyd yn adrodd am well perthynas rhwng pobl sy’n cael gafael ar gymorth, darparwyr gofal cymdeithasol, ac awdurdodau lleol (Caiels et al., 2024).

Yn ôl Rapp et al. (2008), mae arferion sy’n seiliedig ar gryfderau yn dilyn chwe egwyddor sylfaenol sy’n cael eu rhestri yma.

  1. Maen nhw’n canolbwyntio ar nodau.
  2. Maen nhw’n canolbwyntio ar gryfderau ac adnoddau teuluoedd yn hytrach na’u problemau.
  3. Maen nhw’n cefnogi teuluoedd i nodi adnoddau yn eu hamgylchedd.
  4. Maen nhw’n defnyddio technegau penodol i nodi cryfderau ac adnoddau.
  5. Mae perthnasoedd a gwaith gyda theuluoedd yn canolbwyntio ar annog gobaith.
  6. Mae nhw’n cynnig dewisiadau realistig i deuluoedd, sy’n eu galluogi i wella eu sefyllfaoedd.

Er bod gan ddulliau sy’n seiliedig ar gryfderau y potensial i wella gofal i bobl, mae rhai pethau y mae’n bwysig eu hystyried. Er enghraifft, gall y syniad bod gan bobl y cryfderau a’r adnoddau i gefnogi eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd fod yn niweidiol pan fydd teuluoedd yn profi caledi neu anghyfiawnder. Efallai y bydd cyfyngiadau hefyd ar ba mor ddefnyddiol yw dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau i rywun sydd ag anghenion cymorth uchel iawn (Caiels et al. 2024). Yn yr un modd, mae cwestiynau ynghylch pa mor briodol yw dull gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau pan fydd pryderon ynghylch lles plant. Mae’r cwestiwn hwn yn cael ei archwilio ymhellach mewn crynodeb arall ar cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd.

Dywedodd gweithwyr cymdeithasol a oedd yn defnyddio dulliau seiliedig ar gryfderau yn astudiaeth Caiels et al. (2024) nad oedden nhw’n aml yn cael yr amser i weithio’n gyson gyda phobl. Dywedon nhw hefyd ei bod yn anodd cefnogi pobl i ddatblygu a dibynnu ar eu hadnoddau pan oedd y cyllid ar gyfer yr adnoddau hyn yn anghyson neu ddim ar gael. Mynegodd gweithwyr cymdeithasol hefyd bod ffocws ar gyfrifoldeb personol mewn arferion sy’n seiliedig ar gryfderau o bosibl yn ei gwneud hi’n anoddach mynd i’r afael ag anghydraddoldebau systemig (Caiels et al., 2024). Felly, mae’n bwysig bod arferion sy’n seiliedig ar gryfderau yn cynnwys ymrwymiad i gefnogaeth ymarferol ac i gyfiawnder cymdeithasol. Mae’r ymrwymiadau hyn yn hanfodol i ddull adferol.

Mae dull adferol o ymdrin â gwaith cymdeithasol yn seiliedig ar y syniad mai’r ffordd orau o ddatrys a dad-wneud niwed yw drwy adeiladu neu adfer perthnasoedd cryf yn hytrach na chosbi pobl. Mae dulliau adferol yn seiliedig ar egwyddorion cydweithredu, tegwch, cyfranogiad gwirfoddol, parch, gonestrwydd, diogelwch a pheidio â gwahaniaethu (Williams, 2019; Strang a Braithwaite, 2000). Mae cysylltiad agos rhwng dulliau adferol a dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, gan eu bod hefyd yn canolbwyntio ar gyfathrebu da, gweithio gyda’i gilydd, a dod i gyd-ddealltwriaeth â theuluoedd.

Ymateb i wahanol fathau o ymyleiddio

Mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu heriau cymhleth. Mae llawer o deuluoedd yn wynebu gwahanol fathau o ymyleiddio. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n canolbwyntio’n benodol ar deuluoedd sy’n profi ymyleiddio oherwydd hiliaeth a thlodi. Mae’n bwysig nodi nad yw’r rhain yn gategorïau neilltuol. Bydd llawer o bobl yn profi mwy nag un math o ymyleiddio ar yr un pryd. Fodd bynnag, drwy grynhoi ymchwil sy’n edrych ar y ddau gategori hyn yn benodol, gallwn archwilio sut mae modd gwella’r berthynas â’r holl deuluoedd sydd ar y cyrion.

Teuluoedd lleiafrifoedd ethnig

Mae teuluoedd lleiafrifoedd ethnig wedi nodi anawsterau o ran cael gafael ar y cymorth sydd ei angen neu eisiau arnyn nhw (Waddell et al., 2022). Mae rhai grwpiau hefyd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol. Er enghraifft, ar draws y Deyrnas Unedig, mae cyfraddau uwch o blant Du sydd â phrofiad o ofal na phlant gwyn, ac mae cyfraddau is o blant â phrofiad o ofal o darddiad Pacistanaidd a Bangladeshaidd na phlant gwyn (Bywaters et al., 2020). Nid yw'n glir os mai gwahaniaethau sy’n adlewyrchu anghenion penodol gwahanol gymunedau sydd yma, neu eu bod nhw’n dangos nad yw anghenion rhai cymunedau yn cael eu diwallu (Bywaters et al., 2020).

Mae tystiolaeth bod rhai teuluoedd sydd â hunaniaethau wedi’u hymyleiddio yn fwy tebygol o brofi mathau gormesol o reolaeth gan weithwyr gofal cymdeithasol (Featherstone et al., 2014). Er enghraifft, mewn papur ar brofiadau rhieni o Nigeria yn y DU, mae Okpokiri (2021) yn awgrymu bod trafodaethau am fagu plant yng ngwledydd y Gorllewin yn aml yn nodi nad oes gan rieni Affricanaidd ddigon o wybodaeth am dechnegau ‘rhianta priodol’. Dywedodd rhai o’r rhieni a gafodd eu cyfweld eu bod yn teimlo bod angen iddynt wneud i’w plant ‘berfformio’ er mwyn i’w hymddygiad gael ei ystyried yn fwy derbyniol gan weithwyr cymdeithasol. Dywedodd rhai rhieni hefyd eu bod wedi dweud wrth eu plant y gallai’r gwasanaethau cymdeithasol eu tywys o’r cartref os nad oedden nhw’n ymddwyn yn y ffyrdd ‘derbyniol’ hyn. Disgrifiodd y rhieni eu bod yn ofni’n gyson y gallai eu plant gael eu tynnu oddi ar y teulu ac y gallai’r gwasanaethau cymdeithasol niweidio plant. Mae Okpokiri (2021) yn awgrymu, er mwyn lleihau’r math hwn o ofn ac osgoi perthnasoedd gwrthwynebus rhag datblygu, y dylai gweithwyr cymdeithasol ymateb i sefyllfaoedd lle nad yw rhieni’n niweidio eu plant yn fwriadol drwy feithrin partneriaethau â rhieni.

Rydyn ni eisoes wedi crybwyll bod angen i weithwyr gofal cymdeithasol fyfyrio ar eu credoau a'u rhagdybiaethau eu hunain am sut mae 'teulu da' yn edrych (Featherstone, 2006). Mae’n bwysig nodi bod syniadau pobl yng Nghymru am deuluoedd ‘da’, yn union fel y rhai am rianta da, yn aml yn seiliedig ar ddelfrydau Ewrosentrig. Mae hyn yn golygu y gallai tybiaethau pobl fod yn seiliedig ar werthoedd sydd bellach yn hen ffasiwn fel rhai Ewropeaidd traddodiadol (er enghraifft, mai uned niwclear yw’r uned deuluol ddelfrydol. Hynny yw: mam, tad a’u plant biolegol). Mae effaith bosibl y syniadau hyn i’w gweld mewn ymchwil o wledydd nad ydynt yn rhai Gorllewinol. Weithiau, mae gwerthoedd y Gorllewin yn dal i gael eu hystyried yn well na ffyrdd eraill o fyw yn y gwledydd hyn. Nid dim ond ar bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol y mae’r syniadau hyn yn effeithio – maen nhw hefyd yn effeithio ar deuluoedd eu hunain. Cafodd astudiaeth Mendez (2019) ei chynnal mewn cyfleuster cadw ieuenctid yn Trinidad a Tobago. Roedd y bechgyn a’r dynion ifanc yno yn aml yn beio magwraeth mewn teulu ‘annodweddiadol’ am eu carchariad. Yn benodol, y berthynas wael oedd ganddyn nhw gyda’u tadau. Mae Mendez yn nodi bod yr hunanasesiad hwn yn groes i’r mathau traddodiadol o deuluoedd yn Trinidad a Tobago, lle roedd menywod yn ganolog yn hanesyddol. Dadleuodd fod y bechgyn a’r dynion ifanc yn gweld eu teuluoedd eu hunain yn israddol oherwydd eu bod wedi amsugno delfrydau’r Gorllewin ynghylch sut y dylai teulu da edrych.

Mae’n bwysig bod pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn dangos dealltwriaeth o ddylanwadau diwylliannol ar ddeinameg teulu. Mae hyn yn cael ei alw’n sensitifrwydd diwylliannol (Waddell et al., 2022). Mae ymchwilwyr yn rhybuddio am beryglon cynnal ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ymhlith poblogaethau amrywiol os ydynt wedi cael eu datblygu yn unol â normau a disgwyliadau diwylliannol Gorllewinol (Waddell et al., 2022).

Gall dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau atal teuluoedd ar y cyrion rhag teimlo’n israddol o ran sut mae eu teuluoedd wedi eu ffurfio. Gall syniad Featherstone (2006) o ddealltwriaeth ‘o’r gwaelod i fyny’ fod yn ddefnyddiol yma. Gall gweithwyr gofal cymdeithasol gefnogi teuluoedd i ddeall eu cryfderau, yn hytrach na chanolbwyntio ar sut gallai ffurfiant y teulu fod yn wahanol i’w syniadau eu hunain am y ‘teulu da’. Mae Abdullah (2015) yn nodi mai un o’r rhesymau pam y daeth arferion sy’n seiliedig ar gryfderau i’r amlwg oedd cyfyngiadau dulliau traddodiadol o weithio gyda phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Yn ymchwil Abdullah ar deuluoedd Mwslimaidd, roedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn gallu trin teuluoedd yn gyfannol drwy ganolbwyntio ar gryfderau pobl.

Mae nifer o fesurau eraill a all wneud gofal cymdeithasol yn fwy priodol a chynhwysol yn ddiwylliannol. Er enghraifft, mae gwaith van Mourik et al. (2017) yn dangos fod rhaglenni hyfforddi rhieni, wedi eu haddasu’n benodol ar gyfer teuluoedd lleiafrifoedd ethnig, yn gwella ymddygiad rhianta, canlyniadau plant, a safbwyntiau rhieni. Roedd rhai o’r newidiadau’n cynnwys:

  • cyfieithu i ieithoedd eraill
  • paru arweinydd y grŵp â nodweddion y cyfranogwyr
  • newid delweddau a fideos i gynnwys teuluoedd o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig
  • cynnwys mwy o faterion diwylliannol neu gyd-destunol ynghylch rhianta (van Mourik et al. 2017).

Teuluoedd sydd dan anfantais economaidd

Mae cysylltiad cryf rhwng lefel yr amddifadedd mewn ardal a chyfran y plant sy’n derbyn gofal neu sy’n cael eu hamddiffyn. Yn y DU, mae plant sy'n byw mewn ardaloedd sydd ymhlith y 10 y cant mwyaf difreintiedig dros 10 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun ymyrraeth na phlant sy'n byw mewn ardaloedd sydd yn y 10 y cant lleiaf difreintiedig (Bywaters et al., 2020). Mae cydberthynas gref rhwng ardaloedd yng Nghymru lle mae plant yn fwyaf tebygol o gael eu symud oddi wrth deuluoedd a’r rheini sydd â lefelau uchel o amddifadedd. Mae Hodges (2020) yn awgrymu y gall bron i hanner (47 y cant) o'r amrywiad yng nghyfraddau'r plant sydd â phrofiad o ofal rhwng awdurdodau lleol gael eu hesbonio gan wahaniaethau yn eu lefelau amddifadedd.

Yn ogystal â phwysau ariannol ar wasanaethau, mae teuluoedd ar hyn o bryd yn wynebu mwy o heriau oherwydd effaith cyni (mesurau arbed arian) a’r argyfwng costau byw (Broadbent et al., 2023). Defnyddiodd Featherstone et al. (2014) waith Wilkinson a Pickett (2009) i ddadlau bod y cysylltiad rhwng tlodi a phroblemau cymdeithasol ar ei gryfaf nid pan mae tlodi yn fwyaf cyffredin mewn cymdeithas ond pan fo anghydraddoldeb cyfoeth yn fwyaf cyffredin. Mae cywilydd, ymddiriedaeth wael yn y system a theimladau o annhegwch yn dod yn amlwg pan fydd pobl yn gweld eraill o’u cwmpas yn gwneud yn well na nhw eu hunain. Ac ar ben hynny, mae’r negeseuon maen nhw’n eu cael drwy’r cyfryngau a gwleidyddiaeth yn hawlio mai gwaith caled yr unigolyn sy’n gyfrifol am lwyddiant ariannol (Wilkinson a Pickett, 2009).

O ran tlodi, mae’n bwysig cydnabod bod llawer o bobl sy’n cael trafferthion ariannol yn teimlo cywilydd am eu sefyllfa. Mae Jo (2013) yn dadlau nad yw tlodi’n ymwneud ag amddifadedd materol yn unig. Mae hefyd yn ‘berthynas gymdeithasol o gywilydd’ nad yw’n caniatáu i bobl fyw gydag urddas a ffynnu. Mae cywilydd yn cyd-fodoli â theimladau o fod yn ddi-rym ac yn annigonol, sy’n gallu arwain at deimladau o hunan-barch a hunan-werth isel. Gwahoddodd Gupta (2015) deuluoedd sy’n byw mewn tlodi i weithdai i drafod eu bywydau. Mewn un gweithdy a oedd yn edrych ar dlodi a chywilydd, roedd teimlad bod y ffordd mae’r cyfryngau’n adlewyrchu pobl sy’n byw mewn tlodi yn peri llawer o stigma. Dywedodd llawer o’r cyfranogwyr hefyd eu bod yn teimlo llawer o gywilydd a stigma ynghylch bod mewn cysylltiad â gwasanaethau amddiffyn plant. Roedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu beirniadu ymlaen llaw gan weithwyr cymdeithasol, yn ogystal â theimlo nad oedd gweithwyr cymdeithasol yn eu credu, yn eu trin fel tasen nhw’n dweud celwydd, ac yn eu beio am eu tlodi. Roedd rhieni yn y gweithdy hefyd yn teimlo cywilydd oherwydd eu diffyg rheolaeth dros benderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud am fywydau eu plant. Roedden nhw’n dweud eu bod yn wynebu disgwyliadau afrealistig a bod amodau’r disgwyliadau hyn yn aml yn cael eu newid (Gupta, 2015).

Er bod y cyfranogwyr yng ngweithdai Gupta (2015) yn disgrifio llawer o brofiadau negyddol, roedd rhai canfyddiadau cadarnhaol hefyd. Roedd rhai’n canmol gweithwyr cymdeithasol a dreuliodd amser gyda nhw i ddod i’w hadnabod yn well ac nad oedden nhw’n eu trin fel ymarfer ‘ticio blychau’. Roedden nhw hefyd yn sôn am deimladau o ryddhad wrth sylweddoli, er enghraifft, nad oedd gan weithwyr cymdeithasol ddisgwyliadau afrealistig. Roedd hyn yn cynnwys pethau bach fel gweithwyr cymdeithasol yn derbyn bod ystafelloedd gwely plant weithiau’n flêr, heb i hyn fod yn arwydd o rianta gwael.

Er bod gan arferion sy’n seiliedig ar gryfderau y potensial i wella perthnasoedd a meithrin hyder pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, mae’n bwysig peidio â chanolbwyntio ar gyfrifoldeb personol yn unig mewn sefyllfaoedd lle byddai cymorth materol yn fwy buddiol. Gwnaeth Wood et al. (2022) adolygiad o ymchwil ar ymyriadau, a oedd naill ai’n cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar sefyllfaoedd economaidd teuluoedd. Roedd yn edrych ar effeithiau cymorth materol ar deuluoedd. Daeth i’r amlwg fod gwella sefyllfa ariannol teuluoedd yn uniongyrchol yn tueddu i gael effaith gadarnhaol ar y tebygolrwydd y gallai plant aros neu gael eu hailuno â’u teuluoedd. Roedd ymyriadau a oedd yn cael effaith negyddol ar sefyllfaoedd ariannol teuluoedd yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai plant yn aros gyda’u teuluoedd. Hefyd roedd gwella sefyllfa ariannol teuluoedd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ymgysylltu’n gadarnhaol â gweithwyr cymdeithasol ac unrhyw fesurau ar waith (Wood et al., 2022). Mae crynodeb o adolygiad Wood et al. (2022) o ymchwil ar y cysylltiadau rhwng cyllid teuluoedd a’r tebygolrwydd y bydd plentyn yn cael ei roi mewn gofal ar gael ym mlog y Grŵp Gwybodaeth (Krause a Deerfield, 2024).

Casgliad

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau gweithio yn y sector gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwella pethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Serch hynny, mae bod mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol yn peri gofid i lawer o deuluoedd sydd yn y sefyllfa honno. Mae’r crynodeb hwn wedi cyflwyno tystiolaeth ar ffyrdd i wella’r berthynas â theuluoedd. Mae arferion sy’n seiliedig ar gryfderau, gweithwyr gofal cymdeithasol yn myfyrio ar eu rhagdybiaethau eu hunain, ac ymdrechion i greu amodau materol gwell ar gyfer teuluoedd sydd ar y cyrion, i gyd yn arfau pwysig ar gyfer gwella perthnasoedd.

Darllen ychwanegol

Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i wella’r berthynas rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a theuluoedd sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.

  1. Okpokiri, C. (2021) ‘Parenting in fear: child welfare micro strategies of Nigerian parents in Britain’, The British Journal of Social Work, 51 (2), tt. 427-444, doi:10.1093/bjsw/bcaa205, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjsw/bcaa205.
  2. Nissen, M.A. ac Engen, M. (2021) ‘Power and care in statutory social work with vulnerable families’, Ethics and Social Welfare, 15 (3), tt. 279-293, doi: 10.1080/17496535.2021.1924814, ar gael yn https://doi.org/10.1080/17496535.2021.1924814.
  3. Williams, A. (2019) ‘Family support services delivered using a restorative approach: a framework for relationship and strengths-based whole-family practice’, Child & Family Social Work, 24 (4), tt. 555-564, doi:10.1111/cfs.12636, ar gael yn https://doi.org/10.1111/cfs.12636%20.
  4. Caiels, J., Silarova, B., Milne, A.J. a Beadle-Brown, J. (2024) ‘Strengths-based approaches: perspectives from practitioners’, The British Journal of Social Work, 54 (1), tt. 168-188, doi:10.1093/bjsw/bcad186, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjsw/bcad186.
  5. Gupta, A. (2015) ‘Poverty and shame – messages for social work’, Critical and Radical Social Work, 3 (1), tt. 131-139, doi:10.1332/204986015X14212365837689, ar gael yn https://doi.org/10.1332/204986015X14212365837689.
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Abdullah, S. (2015) ‘An Islamic perspective for strengths-based social work with Muslim clients’, Journal of Social Work Practice, 29 (2), tt.163–172, doi:10.1080/02650533.2014.956304.

Bilson, A., Featherstone, B.K., a Martin, K. (2017) ‘How child protection's 'investigative turn' impacts on poor and deprived communities’, The Family in Law, 47, tt. 416-419.

Bourdieu, P. (1991) Language and Symbolic Power, Caergrawnt, Harvard University Press.

Bywaters, P., Scourfield, J., Jones, C., Sparks, T., Elliott, M., Hooper, J., McCartan, C., Shapira, M., Bunting, L. a Daniel, B. (2020) ‘Child welfare inequalities in the four nations of the UK’, Journal of Social Work, 20 (2), tt. 193-215, doi:10.1177/1468017318793479.

Caiels, J., Silarova, B., Milne, A.J. a Beadle-Brown, J. (2024) ‘Strengths-based approaches: perspectives from practitioners’, The British Journal of Social Work, 54 (1), tt. 168-188, doi:10.1093/bjsw/bcad186.

Collins, S. (2017) ‘Ethics of care and statutory social work in the UK: critical perspectives and strengths’, Practice: Social Work in Action, 30 (1), tt. 3-18, doi:10.1080/09503153.2017.1339787.

Devaney, C., Brady, B., Crosse, R. a Jackson, R. (2023) ‘Realizing the potential of a strengths-based approach in family support with young people and their parents’, Child & Family Social Work, 28 (2), tt. 481-490, doi:10.1111/cfs.12978.

Featherstone, B. (2006) ‘Rethinking family support in the current policy context’, The British Journal of Social Work, 36 (1), tt. 5-19, doi:10.1093/bjsw/bch226.

Featherstone, B., Morris, K. a White, S (2014) ‘A marriage made in hell: early intervention meets child protection’, British Journal of Social Work, 44 (7), tt. 1735-1749, doi:10.1093/bjsw/bct052.

Ferguson, H. (2018) ‘How social workers reflect in action and when and why they don’t: the possibilities and limits to reflective practice in social work’, Social Work Education, 37 (4), tt. 415-427, doi:10.1080/02615479.2017.1413083.

Forrester, D., Kershaw, S., Moss, H. a Hughes, L. (2008) ‘Communication skills in child protection: how do social workers talk to parents?’, Child & Family Social Work, 13 (1), tt. 41-51, doi:10.1111/j.1365-2206.2007.00513.x.

Gofal Cymdeithasol Cymru (2023) Arolwg peilot o’r gweithlu - Adroddiad cyffredinol o’r canfyddiadau, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/adroddiad-arolwg-y-gweithlu-2023 (cyrchwyd: 4 Mehefin 2024).

Gupta, A. (2015) ‘Poverty and shame – messages for social work’, Critical and Radical Social Work, 3 (1), tt. 131-139, doi:10.1332/204986015X14212365837689.

Hodges, H. (2020) Plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru: ffactorau sy’n cyfrannu at amrywiadau yng nghyfraddau awdurdodau lleol, ar gael yn Plant-sy’n-Derbyn-Gofal-yng-Nghymru-Ffactorau-sy’n-Cyfrannu-at-Amrywiadau-yng-Nghyfraddau-Awdurdodau-Lleol.pdf (wcpp.org.uk) (cyrchwyd: 4 Mehefin 2024).

Jo, Y. N. (2013) ‘Psycho-social dimensions of poverty: When poverty becomes shameful’, Critical Social Policy, 33 (3), tt. 514-53, doi:10.1177/0261018313479008.

Kagan, C., Burns, D., Burton, M., Crespo, I., Evans, R., Knowles, K., Lalueza, J. a Sixsmith, J. (2002) Working with people who are marginalized by the social system: challenges for community psychological work, ar gael yn http://www.compsy.org.uk/margibarc.pdf (cyrchwyd: 4 Mehefin 2024).

Krause, G. a Deerfield, K. (2024) ‘Sut gall gwella sefyllfa ariannol teuluoedd eu helpu i aros gyda’i gilydd’, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, 9 Ionawr 2024, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/beth-syn-digwydd/newyddion-a-blogiau/sut-gall-gwella-sefyllfa-ariannol-helpu-teuluoedd-aros-gydai-gilydd (cyrchwyd: 6 Mehefin 2024).

Krause, G., Johnson, E. K. a Deerfield, K. (2024) Cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/cyfathrebu-a-theuluoedd-mewn-sefyllfaoedd-anodd (cyrchwyd: 16 Awst 2024).

Llywodraeth Cymru (2022) Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ar gael yn https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol (cyrchwyd: 6 Mehefin 2024).

Llywodraeth Cymru (2014) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/resources (cyrchwyd: 14 Mai 2024).

Llywodraeth Cymru (2024) Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024, ar gael yn https://www.llyw.cymru/strategaeth-tlodi-plant-cymru-2024 (cyrchwyd: 6 Mehefin 2024).

Mendez, M. (2019) Youthmen with big man mentality: An exploration and analysis of the narratives of young offenders in Trinidad and Tobago, thesis PhD, Prifysgol Caerdydd, ar gael yn https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/118782/ (cyrchwyd: 4 Mehefin 2024).

Nissen, M.A. ac Engen, M. (2021) ‘Power and care in statutory social work with vulnerable families’, Ethics and Social Welfare, 15 (3), tt. 279-293, doi: 10.1080/17496535.2021.1924814.

Okpokiri, C. (2021) ‘Parenting in fear: child welfare micro strategies of Nigerian parents in Britain’, The British Journal of Social Work, 51 (2), tt. 427-444, doi: 10.1093/bjsw/bcaa205.

Park, N. a Peterson, C. (2006) ‘Character strengths and happiness among young children: content analysis of parental descriptions’, Journal of Happiness Studies, 7 (3), tt. 323-341, doi:10.1007/s10902-005-3648-6.

Rapp, C., Saleebey, D. a Sullivan, P.W. ‘The future of strengths-based social work practice’, yn Saleebey, D. (gol.) (2008) The strengths perspective in social work practice (4ydd argraffiad), Llundain, Pearson Education.

Starke, M. (2011) ‘Supporting families with parents with intellectual disability: views and experiences of professionals in the field’, Journal of Policy and Practice in Intellectual Disabilities, 8 (3), tt. 163-171, doi:10.1111/j.1741-1130.2011.00306.x.

Strang, H. a Braithwaite, J. (2000) Restorative Justice: Philosophy to Practice, Llundain, Routledge.

Tronto, J.C. (1993) Moral Boundaries: A Political Argument for an Ethic of Care, Efrog Newydd, Routledge.

van Mourik, K., Crone, M.R., de Wolff, M.S. a Reis, R. (2017) ‘Parent training programs for ethnic minorities: a meta-analysis of adaptations and effect’, Prevention Science, 18, tt. 95-105, doi:10.1007/s11121-016-0733-5.

Waddell, S., Sorgenfrei, M., Freeman, G., Gordon, M., Steele, M. a Wilson, H. (2022) Improving the way family support services work for minority ethnic families, Early Intervention Foundation, ar gael yn https://www.eif.org.uk/report/improving-the-way-family-support-services-work-for-minority-ethnic-families (cyrchwyd: 4 Mehefin 2024).

Wilkinson, R. a Pickett, K. (2009) The Spirit Level: Why More Equal Societies Almost Always Do Better, Llundain, Allen Lane.

Williams, A. (2019) ‘Family support services delivered using a restorative approach: a framework for relationship and strengths-based whole-family practice’, Child & Family Social Work, 24 (4), tt. 555-564, doi:10.1111/cfs.12636.

Wood, S., Scourfield, J., Stabler, L., Addis., Wilkins, S.D., Forrester, D. a Brand, S.L. (2022) ‘How might changes to family income affect the likelihood of children being in out-of-home care? Evidence from a realist and qualitative rapid evidence assessment of interventions’, Children and Youth Services Review, 143, 106685, doi:10.1016/j.childyouth.2022.106685.