Skip to Main content

Cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd

Ysgrifennwyd gan Dr Grace Krause a’i olygu gan Dr Eleanor Johnson a Dr Kat Deerfield

Awst 2024

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n tynnu sylw at ymchwil berthnasol a chyfredol ar sut mae gweithwyr cymdeithasol yn cyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd. Rydyn ni’n edrych ar y dystiolaeth ynghylch sut mae gwaith cymdeithasol plant yn cael ei wneud yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Rydyn ni hefyd yn archwilio sut mae gwrando, myfyrio a chyfathrebu empathig yn gallu helpu gweithwyr cymdeithasol i wella eu hymarfer, yn enwedig wrth ddelio â sefyllfaoedd sy’n achosi straen.

Rydyn ni’n crynhoi tystiolaeth ymchwil ynghylch y rhesymau pam mae gweithwyr cymdeithasol weithiau’n methu ag ymyrryd pan fydd plant neu aelodau eraill o’r teulu mewn perygl. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar sut y gallai gweithwyr cymdeithasol deimlo eu bod yn cael eu llethu gan sefyllfaoedd penodol. Rydyn ni’n archwilio beth sy’n galluogi gweithwyr cymdeithasol i reoli’r teimladau hyn a meithrin perthynas ystyrlon â theuluoedd, gan gydnabod risg ar yr un pryd.

Cyflwyniad

Mae gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu nifer o heriau yn eu gwaith gyda theuluoedd. Dywedodd gweithwyr gofal cymdeithasol wrthym pa dystiolaeth ymchwil fyddai’n eu cefnogi wrth iddynt ryngweithio â theuluoedd. Roedden nhw am gael rhagor o wybodaeth am arferion sy’n seiliedig ar gryfderau. Roedden nhw hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth ar sut i annog teuluoedd i ymgysylltu â gweithwyr cymdeithasol. Rydyn ni wedi ysgrifennu am sut gall gweithwyr cymdeithasol wella’r berthynas â theuluoedd sydd ar y cyrion yn ein crynodeb ar meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion. Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych yn fanylach ar pam mae gweithwyr cymdeithasol weithiau’n cael trafferth gweld niwed a sut gall sgiliau cyfathrebu da eu helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd.

Yn 2022, roedd 7,080 o blant yn byw mewn gofal yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw’r wlad sydd â’r gyfran uchaf o blant sy’n derbyn gofal yn y DU. Mae Hodges a Bristow (2019) yn awgrymu y gallai Cymru gael y gyfran uchaf o blant sy'n derbyn gofal yn y byd. Nid yw’r rheswm dros hyn yn glir, ond mae rhai gweithwyr cymdeithasol yn credu bod gormod o blant yn byw mewn gofal yng Nghymru. Maen nhw hefyd yn dweud y gallai penderfyniadau mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud ar leoli plant weithiau yn rhy wrth-risg (Forrester et al., 2022).

Mae Hodges a Bristow (2019) yn awgrymu bod peidio â chymryd risg yn deillio'n rhannol o ofnau gweithwyr cymdeithasol y gallai plentyn ddioddef niwed os bydd yn parhau i fyw gyda'i deulu. Mae nifer o achosion wedi cael cyhoeddusrwydd eang lle mae plant wedi marw o ganlyniad i gael eu cam-drin a’u hesgeuluso, er bod eu teuluoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau plant (Wilkins, 2023). Ar yr un pryd, mae gweithwyr cymdeithasol wedi mynegi pryderon ynghylch sut mae’r cyfryngau’n aml yn eu portreadu fel asiantau gwladol sydd â mwy o ddiddordeb mewn tynnu plant oddi ar deuluoedd na chynnig cymorth (ORS, 2023; Jones, 2014).

Mae’r amgylchiadau anodd hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar weithwyr cymdeithasol. Rydyn ni’n gwybod bod 63 y cant o bobl sy’n ymuno â’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwneud hynny oherwydd eu bod eisiau “gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl” (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Mae’r ffigwr hwn hyd yn oed yn uwch ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gyda 76 y cant ohonynt yn dweud bod hyn yn gymhelliant (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Er gwaethaf y cymhelliant cadarnhaol hwn, gall y berthynas rhwng pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol a’r rhai sy’n ei ddarparu fod yn anodd.

Gall y perthnasoedd hyn fod yn arbennig o heriol mewn gwaith cymdeithasol teuluol. Mae teuluoedd sydd mewn cysylltiad â gweithwyr cymdeithasol yn aml yn dweud eu bod yn teimlo’n ddi-rym, dan straen, yn ddrwgdybus ac wedi’u cywilyddio (Nissen ac Engen, 2021; Bilson et al., 2017). Ar y llaw arall, ac yn enwedig o ystyried cyd-destun llwyth gwaith llethol, mae rhai gweithwyr cymdeithasol yn poeni am gael eu beio os aiff rhywbeth o’i le. Gall hyn arwain at ‘ymarfer amddiffynnol’, lle mae gweithwyr cymdeithasol yn canolbwyntio ar lynu wrth y rheolau (Whittaker et al., 2016). Pan fydd hyn yn digwydd, weithiau mae nhw’n gallu blaenoriaethu ceisio osgoi gwneud unrhyw beth o'i le neu fynd i drafferth ar draul meddwl am deuluoedd yn fwy cyfannol (Whittaker et al., 2016).

Yn y crynodeb hwn, rydyn ni’n edrych ar ymchwil ar sut mae gweithwyr cymdeithasol teuluol yn rheoli sefyllfaoedd anodd. Rydyn ni’n archwilio sut gall dulliau sy’n canolbwyntio ar feithrin perthynas dda â theuluoedd drwy fyfyrio a goruchwylio wella llesiant gweithwyr cymdeithasol a’u gallu i adnabod niwed.

Mae’r crynodeb hwn yn cyd-fynd â’n crynodeb ni ar meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion, sy’n edrych ar ymchwil ar rôl arferion myfyriol sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n rhoi amlinelliad o ddeddfwriaeth Cymru sy’n cefnogi’r nod o wella’r berthynas rhwng ymarferwyr a theuluoedd.

Rydyn ni wedi edrych ar ymchwil ynghylch pam mae gweithwyr cymdeithasol weithiau’n ei chael hi’n anodd adnabod pan fydd aelodau o’r teulu mewn perygl. Rydyn ni hefyd yn trafod sut mae gweithwyr cymdeithasol amddiffyn plant yn cyfathrebu â theuluoedd. Mae ymchwil yn dangos bod gwneud cyfathrebu yn fwy empathig ac yn llai gwrthdrawiadol yn gallu gwneud teuluoedd yn fwy agored a chydweithredol (Forrester et al., 2008a; Forrester et al. 2008b). Rydyn ni’n archwilio ffyrdd i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i gyfathrebu’n effeithiol, i fyfyrio ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud, ac i brosesu eu hemosiynau eu hunain mewn perthynas â’u gwaith.

Cefnogi teuluoedd yn neddfwriaeth a chanllawiau Cymru

Rhaid i bobl sy’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru weithredu yn unol ag egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cefnogi llesiant pawb sydd angen gofal a chymorth.

Mae’r Ddeddf yn dilyn pedair prif egwyddor:

  • llais a rheolaeth – rhoi’r unigolyn a’i anghenion wrth galon ei ofal a rhoi llais a rheolaeth iddo o ran cyflawni’r canlyniadau sy’n ei helpu i sicrhau llesiant
  • atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i leihau’r cynnydd mewn angen critigol
  • llesiant - cefnogi pobl i sicrhau eu llesiant eu hunain, a mesur llwyddiant gofal a chefnogaeth
  • cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys canllawiau ar sefyllfaoedd diogelu penodol ac ar leihau arferion cyfyngol. Wrth weithio gyda theuluoedd, rhaid i staff gofal cymdeithasol ddilyn gweithdrefnau penodol i ddiogelu plant ac oedolion. Yn ôl y canllawiau, dylai diogelu defnyddio arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn achos plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae’r crynodeb hwn yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill i weithio’n unol â’r Ddeddf drwy gyflwyno tystiolaeth ar sut i gyfathrebu â theuluoedd mewn sefyllfaoedd anodd.

Beth mae ymchwil yn ei ddweud am sut mae gweithwyr cymdeithasol yn ymateb mewn sefyllfaoedd heriol?

Yn aml mae gofyn i weithwyr cymdeithasol gynnig cymorth i deuluoedd mewn argyfwng. Mae angen iddyn nhw gynnal ffocws a pharhau i fod yn fyfyriol mewn sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn emosiynol a gofidus iawn. Yn yr adran hon rydyn ni’n edrych ar pam mae gweithwyr cymdeithasol weithiau’n ei chael hi’n anodd gweld pan fydd plentyn mewn perygl neu adnabod cam-drin domestig. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod angen cefnogi gweithwyr cymdeithasol i reoli eu hemosiynau eu hunain mewn sefyllfaoedd llawn straen er mwyn iddyn nhw allu ymdopi’n well â gwrthdaro a chydnabod niwed.

Mae plant wedi marw o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod tra oedd eu teuluoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol. Er yn brin, mae achosion trasig lle’r oedd gweithwyr cymdeithasol wedi gwneud camgymeriadau. Mae rhywfaint o dystiolaeth sy’n peri pryder sy’n awgrymu bod gweithwyr cymdeithasol weithiau nid yn unig yn methu ag adnabod cam-drin domestig a’i arwyddocâd, ond eu bod yn osgoi gwneud y cysylltiad. Mae’r term ‘plant anweledig’ wedi dod i’r amlwg i ddisgrifio achosion lle mae gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â theuluoedd heb werthfawrogi difrifoldeb y sefyllfa. Mae’n bwysig deall sut mae ymatebion emosiynol gweithwyr cymdeithasol yn y sefyllfaoedd hyn yn gallu effeithio ar eu gallu i gynnal ffocws ac ymateb yn briodol.

Plant anweledig

Cynhaliodd Ferguson (2016) ethnograffeg gyda gweithwyr cymdeithasol a ymwelodd â theuluoedd i ddeall sut y gallai plant fynd yn anweledig. Astudiaeth yw ethnograffeg lle mae ymchwilwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r bobl y maen nhw’n ymchwilio ac yn arsylwi pethau wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn yr achos hwn, ymunodd Ferguson â gweithwyr cymdeithasol teuluol ar eu hymweliadau ac yna siarad â nhw am yr hyn a oedd wedi digwydd. Yn y mwyafrif llethol o’r 87 achos a sylwodd, nododd Ferguson fod gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â phlant er mwyn iddynt allu asesu eu llesiant. Fodd bynnag, mewn nifer fach o achosion nid oedd gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â phlant o gwbl.

Mae Ferguson (2016) yn defnyddio damcaniaethau seicogymdeithasol, sy'n cynnig bod angen 'cyfyngiant' arnom i reoli ein hemosiynau. Cyfyngiant yw pan fydd rhywun rydyn ni’n ymddiried ynddo yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ein hemosiynau a’n profiadau. Mae’n dadlau bod gweithwyr proffesiynol ym maes amddiffyn plant yn aml yn teimlo emosiynau dwys yn y gwaith. Efallai eu bod yn teimlo’n bryderus, yn drist, yn ofnus, yn obeithiol, yn anobeithio neu’n flin wrth ryngweithio â theuluoedd. Efallai y byddan nhw’n cael trafferth prosesu a rheoli’r teimladau cymhleth hyn os nad ydyn nhw’n cael cyfle i wneud hynny’n ddiogel.

Gwnaeth Ferguson (2016) ddadansoddiad agos o dri achos lle’r oedd plentyn wedi mynd yn anweledig. Hynny yw, lle collodd gweithwyr cymdeithasol gyfle i arsylwi a rhyngweithio â phlant mewn teuluoedd. Yn y tri achos, roedd y gweithwyr cymdeithasol wedi eu datgysylltu oddi wrth y plant oherwydd eu pryder eu hunain a chymhlethdod y sefyllfa. Roedd y gweithwyr cymdeithasol yn y tri achos hyn wedi’u llethu gymaint fel nad oedden nhw’n gwneud y pethau arferol i sicrhau bod plant yn ddiogel. Roedd hyn yn cynnwys rhyngweithio’n uniongyrchol â phlant neu eu harsylwi’n agosach a gofyn y cwestiynau, wrth fyfyrio, yr oedden nhw’n meddwl y dylent fod wedi’u gofyn. Yn hytrach, canolbwyntiodd y gweithwyr cymdeithasol ar orffen eu hapwyntiadau cyn gynted â phosibl.

Disgrifiodd Ferguson (2016) un enghraifft, lle’r oedd gwasanaethau cymdeithasol wedi cael gwybod am achos posibl o esgeuluso plant. Roedd yn ymddangos bod y gweithiwr cymdeithasol dan sylw wedi cael trafferth rheoli’r sgwrs, wedi gofyn cwestiynau arweiniol i’r fam, heb fynd i’r afael â phethau yn y tŷ a allai fod wedi peri risg i iechyd, ac wedi gwrthod cynnig i siarad â’r plentyn yn uniongyrchol. Nododd Ferguson (2016) hefyd mai'r asesiad hwn, a barodd am ddim ond 15 munud, oedd y byrraf o unrhyw un a gafodd ei arsylwi. Wrth adael yr asesiad, fethodd y gweithiwr cymdeithasol esbonio pam nad oedd hi wedi siarad â’r plentyn. Gan wynebu rhyngweithio anodd a gwrthwynebus gyda rhiant y plentyn, roedd y gweithiwr cymdeithasol wedi datgysylltu oddi wrth y sefyllfa ac nid oedd wedi gallu cynnal asesiad i’w safon arferol.

Disgrifiodd Ferguson (2016) y math hwn o adwaith fel un 'an-atgyrchol'. Mae hyn yn golygu nad yw gweithiwr cymdeithasol mewn sefyllfa fel hyn o reidrwydd yn gwybod ei fod wedi ymddieithrio. Roedd y datgysylltiad yr oedd y gweithwyr cymdeithasol wedi’i ddangos yn yr enghreifftiau hyn yn annhebygol o ddeillio o fod yn esgeulus neu’n ddi-hid. Mewn gwirionedd, roedd yr un gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio’n agos ag aelodau o’r teulu mewn cyfarfodydd eraill. Mae Ferguson (2016) yn dadlau mai ffactorau sefyllfaol sy'n achosi i weithwyr cymdeithasol gael eu datgysylltu, fel ffordd o amddiffyn eu hunain rhag emosiynau llethol. Er enghraifft, roedd gweithwyr cymdeithasol yn ei chael yn anodd myfyrio ar eu gwaith os oedd yn rhaid iddyn nhw newid rhwng tasgau desg ac ymweliadau teuluol, neu os oedd ganddyn nhw lwyth gwaith trwm. Mae Ferguson (2016) yn awgrymu bod angen i reolwyr ddod o hyd i amser i gynllunio ymweliadau teuluol â gweithwyr cymdeithasol ymlaen llaw i wneud yn siŵr eu bod yn barod ar gyfer sefyllfaoedd a allai fod yn anodd. Bydd hyn yn atal gweithwyr cymdeithasol rhag ymddieithrio ac yn sicrhau bod plant yn cael eu gwneud yn fwy gweladwy.

Dylai rheolwyr hefyd gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol gydnabod a myfyrio ar eu hemosiynau. Mae angen amser a lle ar weithwyr cymdeithasol i werthuso’r ffordd y mae eu hapwyntiadau’n mynd, yn enwedig pan fydd sefyllfaoedd yn heriol neu’n llethol yn emosiynol. Drwy fyfyrio’n feirniadol, mewn amgylchedd anfeirniadol, mae gweithwyr cymdeithasol yn fwy tebygol o sylweddoli pryd maen nhw wedi dechrau datgysylltu a cholli golwg ar y sefyllfa gyfan.

Cam-drin domestig a diogelu

Efallai y bydd gweithwyr cymdeithasol hefyd yn ei chael yn anodd adnabod sefyllfaoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Cynhaliodd Robbins a Cook (2018) rai grwpiau ffocws gyda menywod oedd yn byw mewn lloches i ddioddefwyr cam-drin domestig a ddywedodd eu bod yn cael perthynas anodd â gweithwyr cymdeithasol. Roedden nhw’n dweud nad oedd gweithwyr cymdeithasol weithiau’n deall agweddau ar gam-drin a oedd yn ei gwneud yn anodd iddyn nhw adael eu camdriniwr. Roedd hyn yn cynnwys cam-drin emosiynol, cam-drin ariannol, a’r ffaith bod cam-drin yn gallu gwaethygu a mynd yn fwy peryglus pan fydd dioddefwr yn ceisio gadael.

Mae Robbins a Cook (2018) yn dadlau, mewn achosion o gam-drin domestig, y gall gweithwyr amddiffyn plant achosi rhagor o ofid os byddan nhw’n ymyrryd mewn ffordd sy’n gwneud i ddioddefwyr deimlo eu bod yn cael eu gwneud yn gyfrifol am ymddygiad eu camdrinwyr. Disgrifiodd astudiaeth Robbins a Cook (2018) sut roedd rhai menywod sy’n profi cam-drin domestig yn teimlo eu bod yn cael eu herlid gan weithwyr cymdeithasol. Roedd gweithwyr cymdeithasol, drwy fygwth mynd â phlant i ofal a gosod amodau ar bethau fel mynychu’r ysgol neu ddefnyddio sylweddau, yn gwneud i ddioddefwyr deimlo’n gyfrifol am ymddygiad eu partner. Nid oeddent yn cael cymorth effeithiol i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd ac ar ben hynny yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi am bethau y tu hwnt i’w rheolaeth.

Yn yr un modd, mewn astudiaeth o deuluoedd Asiaidd a Du yn y Deyrnas Unedig yn bennaf, nododd Humphreys (1999) fod gweithwyr cymdeithasol yn aml yn dilyn patrwm oedd yn siglo o un pegwn i’r llall fel pendil. Roedd osgoi a minimeiddio ar un pen, yn symud i wrthdaro ar y pen arall. Gan ddilyn y patrwm hwn, roedd gweithwyr cymdeithasol naill ai wedi osgoi ymwneud â theuluoedd yn gynharach neu wedi defnyddio ymyriadau eithafol, gan gynnwys tynnu plant oddi ar deuluoedd. Disgrifiodd Humphreys (1999) sawl ffordd y mae gweithwyr cymdeithasol yn minimeiddio trais yn y cartref yn eu hadroddiadau. Roedd trais domestig yn aml yn cael ei nodi yn yr adroddiadau ond nad oedd wedyn yn cael ei grybwyll yn ddiweddarach wrth wneud penderfyniadau am les plant. Dywedodd rhai gweithwyr cymdeithasol mewn ymateb i gwestiynau am hyn, nad oedden nhw’n meddwl bod y trais domestig yn ‘berthnasol’.

Un enghraifft lle gallai gweithwyr cymdeithasol minimeiddio trais yn y cartref oedd wrth osgoi cyfeirio’n benodol ato yn eu hadroddiadau. Mae hyn yn golygu defnyddio iaith aneglur gyda’r potensial i guddio trais. Mae hyn yn cynnwys defnyddio geiriau fel ‘ymladd’ neu ‘wrthdaro priodasol’. Cafodd yr iaith hon ei defnyddio hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle’r oedd yn amlwg iawn bod unigolion wedi bod yn cam-drin eu partneriaid a’u plant. Sylwodd Humphreys hefyd, mewn rhai sefyllfaoedd lle’r oedd trais domestig yn bresennol mewn teuluoedd, fod gweithwyr cymdeithasol wedi nodi materion eraill fel y prif bryder. Er enghraifft, roedd gweithwyr cymdeithasol yn canolbwyntio’n fwy ar famau’n yfed alcohol fel rheswm dros wneud ymyriadau diogelu yn y teuluoedd hyn.

Yr hyn sydd gan yr astudiaethau yn gyffredin yw eu bod yn dangos bod gweithwyr cymdeithasol weithiau’n ei chael yn anodd gwerthfawrogi’r cysylltiad rhwng niwed i riant neu ofalwr a niwed i blentyn. Mae Robbins a Cook (2018) yn dadlau, er mwyn ymgysylltu’n well â dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, y dylai gweithwyr cymdeithasol ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar drawma. Maen nhw hefyd yn dadlau bod deall seicoleg cam-drin, ac yn enwedig i ba raddau mae’n gallu ynysu dioddefwyr, yn helpu gweithwyr cymdeithasol i feithrin ymddiriedaeth gyda dioddefwyr camdriniaeth. Gall datblygu sgiliau gwrando a chyfathrebu mewn ffyrdd empathig sy’n seiliedig ar gryfderau hefyd helpu gweithwyr cymdeithasol i gefnogi teuluoedd drwy’r sefyllfaoedd cymhleth iawn hyn. Bydd y dulliau hyn yn cael eu hystyried yn nes ymlaen yn y crynodeb hwn.

Gwrthwynebiad gan rieni

Gall gwaith gweithwyr cymdeithasol fod yn heriol pan fyddan nhw’n teimlo bod rhieni’n gwrthwynebu eu hymyriadau. Nododd ymchwil Forrester et al. (2012) bum ffactor a oedd yn esbonio pam y gallai rhieni wrthod cymorth neu ymyriadau gweithwyr cymdeithasol. Roedd y rhain yn perthyn i ddau gategori: ffactorau cymdeithasol, a ffactorau unigol a theuluol. Mae ffactorau cymdeithasol sy’n esbonio gwrthwynebiad yn ymwneud â’r cyd-destun y mae rhyngweithio rhwng gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd yn digwydd ynddo. Mae ffactorau unigol a theuluol yn ymwneud ag amgylchiadau unigryw pob teulu.

Ffactorau cymdeithasol

1. Cyd-destun cymdeithasol

Mae Forrester et al. (2012) yn nodi y bydd y rhan fwyaf o deuluoedd sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau amddiffyn plant wedi profi gwahaniaethu, anfantais neu orthrwm yn y gorffennol. Gall y profiadau hyn yn y gorffennol achosi i rieni amau awdurdodau, yn enwedig os yw’r rheswm eu bod yn rhan o ymyriad yn gysylltiedig â’r anawsterau a’r anghyfiawnderau maen nhw’n eu hwynebu.

2. Cyd-destun amddiffyn plant

Mae bod mewn cysylltiad â gwasanaethau amddiffyn plant ynddo’i hun yn brofiad brawychus i lawer o rieni. Bydd yr ofn o gymryd plentyn i ffwrdd a’i roi mewn gofal yn aml yn golygu bod teuluoedd yn ei chael yn anodd meithrin ymddiriedaeth gyda gweithwyr cymdeithasol.

Ffactorau unigol a theuluol

1. Ffactorau rhieni

Efallai y bydd rhieni’n teimlo’n amddiffynnol neu mae ganddynt emosiynau negyddol tuag at weithwyr cymdeithasol. Efallai y byddan nhw’n teimlo cywilydd, emosiynau cymysg am newidiadau i’w bywydau, neu ddiffyg hyder yn eu gallu eu hunain i newid.

2. Niwed i blant

Mewn rhai achosion, bydd rhieni’n gwrthod cysylltu â gweithwyr cymdeithasol am eu bod yn cuddio camdriniaeth neu niwed arall. Hyd yn oed pan nad yw rhieni’n dweud celwydd yn fwriadol, efallai y byddan nhw’n minimeiddio niwed.

3. Gwrthwynebiad sy’n cael ei achosi gan ymddygiad gweithwyr cymdeithasol

Gall dulliau cyfathrebu sy’n rhy wrthdrawiadol neu sy’n canolbwyntio ar ddiffyg leihau ymddiriedaeth teuluoedd mewn gweithwyr cymdeithasol.

Mae Forrester et al. (2012) yn dadlau, er mwyn gwneud synnwyr o’r hyn mae gweithwyr cymdeithasol yn ei weld fel gwrthwynebiad gan rieni, bod angen i ni ddeall mwy am sut mae gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â theuluoedd. Yn yr adran nesaf, rydyn ni’n cyflwyno ymchwil ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol feithrin ymddiriedaeth a chynnig cefnogaeth effeithiol drwy gyfathrebu â theuluoedd mewn ffordd gadarnhaol ac empathig.

Pwysigrwydd cyfathrebu da

Mae ymchwil yn dangos bod y ffordd y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn siarad ac yn rhyngweithio â theuluoedd yn effeithio ar eu perthynas â nhw. Mae dangos empathi a chyfathrebu’n gadarnhaol â theuluoedd yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell (Forrester et al., 2008b; Lishman, 1988; van Nijnatten et al., 2001). Ar y llaw arall, gall cyfathrebu gwael gan weithwyr cymdeithasol gyfrannu at ddiffyg ymddiriedaeth ac ymddieithrio.

Gwrando a gweithio’n fyfyriol

Mae Nissen ac Engen (2021) yn cynnig bod meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd yn golygu bod angen i weithwyr gofal cymdeithasol ymarfer “gwrando gofalus yn seiliedig ar ryfeddod” a bod ganddynt “y dewrder i golli rhywfaint o reolaeth ac i gynnwys canfyddiadau amgen o realiti”. Mae gwneud hyn yn golygu bod gweithwyr yn myfyrio ar eu rhagdybiaethau eu hunain. Er enghraifft, mae Nissen ac Engen (2021) yn nodi, er bod gweithwyr cymdeithasol yn aml yn gweld amddiffyn a chefnogi plant agored i niwed fel eu prif ddiben, mae llawer o rieni yn y teuluoedd hyn hefyd yn agored i niwed ac angen cymorth. Mae Featherstone (2006) hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dealltwriaeth ‘o’r gwaelod i fyny’ o deuluoedd. Mae hyn yn golygu osgoi gwneud rhagdybiaethau am foesoldeb gwahanol fathau o deuluoedd, fel teuluoedd o’r un rhyw neu deuluoedd un rhiant.

Cynhaliodd Ferguson (2018) gyfweliadau â gweithwyr cymdeithasol i gael gwybod am rôl myfyrio yn eu hymarfer. Roedd y gweithwyr cymdeithasol weithiau wedi ymddieithrio oddi wrth eu teimladau a’u myfyrdodau fel ffordd o ymdopi â sefyllfaoedd sy’n llawn straen neu’n eu llethu. Roedd gwneud hyn yn galluogi gweithwyr cymdeithasol i barhau i weithio pan fyddai eu teimladau wedi eu llethu fel arall. Efallai bod angen gosod rhwystr emosiynol o’r fath mewn rhai sefyllfaoedd, ond os yw hyn yn parhau dros gyfnod hir gall fod yn niweidiol i’r unigolyn ac i’w ymarfer.

Mae gwrando a gweithio’n fyfyriol yn cymryd amser ac ymdrech. Felly, gall meithrin perthynas gadarnhaol â theuluoedd fod yn heriol i weithwyr gofal cymdeithasol oherwydd eu hamodau gwaith eu hunain. Mewn arolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, dim ond tua hanner yr ymatebwyr a ddywedodd fod ganddynt ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023). Dywedodd gweithwyr cymdeithasol, yn benodol, eu bod yn cael trafferth bodloni gofynion eu swydd. Dim ond 40 y cant o weithwyr cymdeithasol ddywedodd eu bod yn gallu diwallu anghenion eu cleientiaid. Dywedodd 23 y cant fod ganddynt yr amser yr oedd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda (Gofal Cymdeithasol Cymru, 2023).

Mewn trosolwg o wahanol astudiaethau ar waith cymdeithasol, nododd Collins (2017) hefyd fod llwyth gwaith gweithwyr cymdeithasol yn aml yn golygu eu bod yn gorfod dogni eu hamser mewn ffordd a oedd yn rhwystro eu gallu i ddiwallu anghenion eu cleientiaid yn llawn. Mae angen seilio ymdrechion i wella ymarfer gwaith cymdeithasol ar ddealltwriaeth o amgylchiadau materol y gwaith. Mae’n bosibl gwella ymarfer gwael gyda hyfforddiant mewn myfyrio a chyfathrebu empathig. Ond mae gweithwyr cymdeithasol yn annhebygol o allu cymhwyso’r sgiliau hyn yn gyson os nad yw eu hamodau gwaith yn rhoi’r lle a’r egni iddyn nhw brosesu eu hemosiynau eu hunain.

Empathi

Cofnododd Lishman (1988) 47 o gyfweliadau rhwng gweithwyr cymdeithasol a rhieni. Pan oedd gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â rhieni mewn ffordd fwy cadarnhaol, roedd rhieni’n ymgysylltu mwy ac felly’n fwy parod i roi gwybodaeth. Pan oedd gweithwyr cymdeithasol yn gwneud sylwadau cadarnhaol, yn chwerthin, yn gwenu neu’n nodio, roedd canlyniadau’n tueddu i fod yn well na phan oedden nhw’n ymosodol, yn feirniadol neu’n elyniaethus tuag at rieni. Mae cyfyngiadau i’r astudiaeth hon gan ei bod yn anodd pennu achosiaeth yn y cyd-destun hwn. Mae achosiaeth yma’n golygu na allwn ni wybod beth sy’n achosi beth yn y sefyllfa hon. Yn benodol, ni allwn wybod a oedd y canlyniadau’n well oherwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn rhyngweithio â rhieni’n gadarnhaol neu os oedd gweithwyr cymdeithasol yn gweithredu mewn ffordd fwy cyfeillgar a hamddenol oherwydd bod ganddynt eisoes berthynas waith dda â’r rhieni. Cynhaliodd Lishman (1988) ei astudiaeth hefyd dros 30 mlynedd yn ôl.

Mewn astudiaeth fwy cyfoes, mae Forrester et al. (2008b) yn edrych ar sut roedd gweithwyr cymdeithasol yn y DU yn siarad â chleientiaid drwy ofyn iddyn nhw ymateb i wahanol senario. Nododd yr ymchwilwyr fod y gweithwyr cymdeithasol weithiau’n defnyddio arddull gyfathrebu ymosodol a gwrthdrawiadol yn eu hymatebion. Mewn astudiaeth debyg (Forrester et al., 2008a), cofnododd ymchwilwyr 24 o gyfweliadau rhwng gweithwyr cymdeithasol a chleientiaid oedd yn cael eu hefelychu gan fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.

Cafodd y cyfweliadau eu dadansoddi a’u recordio i bennu lefel empathi y gweithwyr cymdeithasol a faint o gwestiynau penagored a chaeedig roedden nhw’n eu defnyddio. Mae cwestiynau caeedig yn caniatáu atebion byr yn unig, er enghraifft: “Ydych chi’n codi eich plant o’r ysgol?” neu “Ydych chi wedi profi hyn o’r blaen?”. Mae cwestiynau penagored yn annog pobl i roi atebion hirach i fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Maen nhw’n cynnwys cwestiynau fel: “Sut beth yw diwrnod arferol i chi?” neu “Sut ydych chi’n teimlo pan fydd hyn yn digwydd?”.

Edrychodd yr ymchwilwyr hefyd ar ddefnydd gweithwyr cymdeithasol o fyfyrdodau wrth ryngweithio â chleientiaid. Mae myfyrio yma’n golygu y byddai gweithwyr cymdeithasol yn ymateb i rywbeth a ddywedodd cleientiaid drwy fyfyrio ar deimladau’r rhieni, neu drwy awgrymu dehongliad o’r hyn a ddywedodd y rhieni. Mae datganiadau myfyriol yn dangos bod y gweithiwr cymdeithasol yn clywed ac yn deall beth sy’n bwysig i riant. Maen nhw hefyd yn helpu rhieni i fyfyrio ar eu hemosiynau eu hunain a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’u sefyllfa. Dyma enghreifftiau o ddatganiadau myfyriol: “Mae’n swnio fel eich bod dan lawer o bwysau” neu “Rwy’n clywed ei bod yn bwysig iawn i chi wybod bod eich plant yn ddiogel”.

Gwelodd Forrester et al. (2008b) bod rhai patrymau yn bodoli, er bod amrywiaeth mawr yn y ffordd yr oedd gweithwyr cymdeithasol yn cynnal y cyfweliadau. At ei gilydd, gofynnodd gweithwyr cymdeithasol ddau gwestiwn caeedig am bob un penagored. Roedden nhw’n aml yn methu â chydnabod cryfderau o ran yr hyn yr oedd y rhieni efelychol yn ei ddweud wrthynt, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ddiffygion. Nododd yr ymchwilwyr fod myfyrdodau bron yn gyfan gwbl absennol o ryngweithio’r gweithwyr cymdeithasol, gan wneud rhai cyfweliadau’n fwy tebyg i groesholi.

Daeth Forrester et al. (2008a) at y casgliad bod hefyd gysylltiad cryf rhwng gweithwyr cymdeithasol yn mynegi empathi a pharodrwydd y cleient efelychol i fod yn agored, datgelu gwybodaeth a chymryd rhan yn y cyfweliad. Nid rhieni oedd y cleientiaid yn yr astudiaeth hon ond myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn chwarae rôl rhieni ac am y rheswm hwn rhaid trin y canfyddiad yn ofalus. Mae’r cysylltiad rhwng empathi a chanlyniadau cadarnhaol wedi’i ganfod mewn astudiaethau blaenorol hefyd, ond mae’n aml yn anodd sefydlu achos ac effaith yn y sefyllfaoedd hyn. Yn y sefyllfa hon, lle’r oedd yr holl weithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda’r un senario, roedd yn haws gweld yn glir y cysylltiad rhwng ymddygiad gweithwyr cymdeithasol ac ymatebion rhieni efelychol.

Mae Forrester et al. (2008a) yn dadlau bod angen mwy o hyfforddiant ar y gweithwyr cymdeithasol yn eu hastudiaeth mewn sgiliau cyfathrebu a chwnsela. Maen nhw’n nodi bod y sefyllfaoedd y mae gweithwyr cymdeithasol yn delio â hwy yn aml yn eithriadol o gymhleth ac mae angen hyfforddiant arnynt sy’n eu galluogi i ganolbwyntio ar y sefyllfaoedd anodd hyn tra’n cynnal eu gallu i ddangos empathi gyda’r rhieni.

Gwersi ar gyfer ymarfer

Mae’r crynodeb hwn yn amlinellu rhai o’r heriau y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd. Gwyddom o’n hymarferion gosod blaenoriaethau ymchwil ymchwil fod rhai gweithwyr gofal cymdeithasol yn poeni am wrthwynebiad gan rieni. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gweithwyr cymdeithasol yn poeni y byddan nhw’n cael eu beio os bydd unrhyw un yn y teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi yn cael niwed difrifol. Ar yr un pryd, mae gweithwyr cymdeithasol weithiau’n wynebu llwyth gwaith sy’n ei gwneud yn anodd rhoi’r gefnogaeth a’r sylw sydd eu hangen ar bob teulu.

Mae ymchwil yn dangos bod gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda theuluoedd weithiau’n cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n cael eu hystyried yn elyniaethus gan rieni a ddim yn eu hannog i fod yn agored (Forrester et al. 2008b). Mae hefyd yn dangos y gall sefyllfaoedd anodd neu lethol arwain at weithwyr cymdeithasol yn cael trafferth canolbwyntio ar y sefyllfa dan sylw ac achosi iddynt weithredu yn wrth-reddfol (Ferguson, 2016). Dylid deall y ddau ganfyddiad hyn mewn perthynas â’i gilydd. Er y gallai gweithwyr cymdeithasol weithiau siarad â theuluoedd mewn ffordd ymosodol oherwydd diffyg sgiliau neu ddealltwriaeth, gall hyn hefyd ddigwydd pan fyddan nhw’n cael trafferth prosesu eu hemosiynau eu hunain. Dim ond os ydyn nhw’n cael eu cefnogi mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n ystyriol o drawma y gall gweithwyr cymdeithasol weithio ar eu sgiliau cyfathrebu eu hunain.

Gall gweithwyr cymdeithasol feithrin ymddiriedaeth gyda rhieni a gwneud penderfyniadau cytbwys mewn sefyllfaoedd lle gallai rhywun ddioddef niwed yn y ffyrdd rydyn ni wedi’u rhestru yma.

1. Datblygu arferion sy’n seiliedig ar gryfderau

Mae cryn sylw wedi ei roi i arferion sy’n seiliedig ar gryfderau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ymchwil yn dangos bod canlyniadau gyda theuluoedd yn gwella pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn tynnu’r ffocws oddi ar ddiffygion unigol a beio, a’i roi ar adeiladu ar gryfderau (Devaney et al., 2023; Park a Peterson, 2006). Mae cynnal asesiadau mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau’n cynnwys hwyluso cyfranogiad gweithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ac archwilio posibiliadau ac atebion, yn hytrach na thrafod problemau (Balmford, 2023).

2. Datblygu ymarfer sy’n seiliedig ar berthynas

Mae galw wedi bod ar weithwyr gofal cymdeithasol i feddwl mwy am rôl perthnasoedd mewn gwaith gofal cymdeithasol (Darley et al., 2024; Ingram a Smith, 2018). Mae ymarfer sy’n seiliedig ar berthynas yn gwahodd ymarferwyr i feddwl am ffiniau a’r ddeinameg pŵer sy’n bresennol mewn gwaith cymdeithasol, er mwyn meithrin perthynas gyfartal sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth gyda’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi.

3. Goruchwyliaeth dosturiol

Mae’r disgwyliadau’n uchel o ran cefnogi teuluoedd mewn argyfwng. I lwyddo, mae angen i weithwyr cymdeithasol gael eu cefnogi eu hunain. Gall goruchwyliaeth effeithiol greu lle i weithwyr cymdeithasol fyfyrio ar eu gwaith a’u rhyngweithio. Mae canllaw i oruchwyliaeth effeithiol ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn bwysig goruchwylio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn mae hyn yn ei olygu ar gael yn ein crynodeb o dystiolaeth ar ddulliau gweithredu sy'n ystyriol o drawma (Cordis Bright a Taylor-Collins, 2024).

4. Deall rôl ffactorau cymdeithasol

Mae ffactorau cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar y tebygolrwydd y bydd plant yn cael cyswllt â gwasanaethau gofal cymdeithasol. Oherwydd hyn, yn aml nid yw teuluoedd sy'n wynebu gwahaniaethu, gormes neu dlodi yn ymddiried yn y ffaith y bydd gweithwyr cymdeithasol yn ystyried eu budd pennaf (Nissen ac Engen, 2021). Bydd deall sut mae gwahanol fathau o ormes ac anfantais yn effeithio ar deuluoedd yn helpu i wella’r berthynas â nhw.

Mae rhagor o wybodaeth am arferion sy’n seiliedig ar gryfderau, arferion sy’n seiliedig ar berthynas, a rôl ffactorau cymdeithasol o ran effeithio ar gyswllt gofal cymdeithasol, i’w gweld yn ein crynodeb o’r dystiolaeth ar meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd sydd ar y cyrion.

Casgliad

Mae’r crynodeb hwn yn amlinellu ymchwil ar rai o’r heriau y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu wrth weithio gyda theuluoedd mewn argyfwng. Mae’n dangos bod modd cefnogi gweithwyr cymdeithasol i gyfathrebu â rhieni mewn ffordd sy’n eu hannog i gydweithio, yn hytrach na gwrthwynebu. Mae hefyd yn amlinellu sut i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i barhau i ymgysylltu â sefyllfaoedd lle mae eu hemosiynau eu hunain yn llethol. Er bod y sefyllfaoedd yn amrywiol a chymhleth i’r teuluoedd a’r gweithwyr cymdeithasol sy’n eu cefnogi, mae ymchwil yn tynnu sylw at rai ffyrdd cyffredinol o feithrin perthnasoedd cadarnhaol rhyngddynt. Mae gweithwyr cymdeithasol a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi yn gwneud orau pan fyddan nhw’n cael eu trin ag empathi a pharch. Mae teuluoedd a gweithwyr cymdeithasol fel ei gilydd yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial gyda chefnogaeth i adeiladu ar eu cryfderau a’u hadnoddau.

Darllen ychwanegol

Dyma restr o’r pum adnodd mwyaf perthnasol i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd anodd sydd naill ai’n rhai mynediad agored neu sydd ar gael yn e-Lyfrgell GIG Cymru.

  1. Darley, D., Blundell, P., Cherry, L., Wong, J. O., Wilson, A. M., Vaughan, S., Vandenberghe, K., Taylor, B., Scott, K., Ridgeway, T., Parker, S., Olson, S., Oakley, L., Newman, A., Murray, E., Hughes, D. G., Hasan, N., Harrison, J., Hall, M., Guido-Bayliss, L., Edah, R., Eichsteller, G., Dougan, L., Burke, B., Boucher, S., Maestri-Banks, A. ac aelodau’r Breaking the Boundaries Collective (2024) ‘Breaking the boundaries collective – a manifesto for relationship-based practice’, Ethics and Social Welfare, 18 (1), tt. 94-106, doi:10.1080/17496535.2024.2317618, ar gael yn https://doi.org/10.1080/17496535.2024.2317618.
  2. Ferguson, H. (2016) ‘How children become invisible in child protection work: findings from research into day-to-day social work practice’, British Journal of Social Work, 47 (4), tt.1007-1023, doi:10.1093/bjsw/bcw065, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjsw/bcw065.
  3. Forrester, D., Westlake, D. a Glynn, G. (2012) ‘Parental resistance and social worker skills: towards a theory of motivational social work’, Child & Family Social Work, 17 (2), tt. 118-129, doi:10.1111/j.1365-2206.2012.00837.x, ar gael yn https://doi.org/10.1111/j.1365-2206.2012.00837.x.
  4. Ingram, R. a Smith, M. (2018) Relationship-based practice: emergent themes in social work literature, Iriss, ar gael yn https://www.iriss.org.uk/resources/insights/relationship-based-practice-emergent-themes-social-work-literature (cyrchwyd: 26 Mehefin 2024).
  5. Robbins, R. and Cook, K. (2018) ‘“Don’t even get us started on social workers”: domestic violence, social work and trust, an anecdote from research’, British Journal of Social Work, 48 (6), tt. 1664-1681, doi:10.1093/bjsw/bcx125, ar gael yn https://doi.org/10.1093/bjsw/bcx125.
Cyfeiriadau - Cliciwch i ehangu

Balmford, G. (2023) Tips for keeping assessment processes strengths-focused, Community Care, ar gael yn https://www.communitycare.co.uk/2023/11/22/tips-for-keeping-assessment-processes-strengths-focused/ (cyrchwyd: 27 Mehefin 2024).

Bilson, A., Featherstone, B.K. a Martin, K. (2017) ‘How child protection's “investigative turn” impacts on poor and deprived communities’, Family Law, 47, tt. 416-419.

Collins, S. (2017) ‘Ethics of care and statutory social work in the UK: critical perspectives and strengths’, Practice: Social Work in Action, 30 (1), tt. 3-18, doi:10.1080/09503153.2017.1339787.

Cordis Bright a Taylor-Collins, E. (2024) Dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma: crynodeb tystiolaeth, y Grŵp Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru, ar gael yn https://grwpgwybodaeth.gofalcymdeithasol.cymru/crynodebau-tystiolaeth/dulliau-gweithredu-syn-ystyriol-o-drawma (cyrchwyd: 28 Mehefin 2024)

Darley, D., Blundell, P., Cherry, L., Wong, J. O., Wilson, A. M., Vaughan, S., Vandenberghe, K., Taylor, B., Scott, K., Ridgeway, T., Parker, S., Olson, S., Oakley, L., Newman, A., Murray, E., Hughes, D. G., Hasan, N., Harrison, J., Hall, M., Guido-Bayliss, L., Edah, R., Eichsteller, G., Dougan, L., Burke, B., Boucher, S., Maestri-Banks, A. ac aelodau’r Breaking the Boundaries Collective (2024) ‘Breaking the boundaries collective – a manifesto for relationship-based practice’, Ethics and Social Welfare, 18 (1), tt. 94-106, doi:10.1080/17496535.2024.2317618.

Devaney, C., Brady, B., Crosse, R. a Jackson, R. (2023) ‘Realizing the potential of a strengths-based approach in family support with young people and their parents’, Child & Family Social Work, 28 (2), tt. 481-490, doi:10.1111/cfs.12978.

Featherstone, B. (2006) ‘Rethinking family support in the current policy context’, The British Journal of Social Work, 36 (1), tt. 5-19, doi:10.1093/bjsw/bch226.

Ferguson, H. (2016) ‘How children become invisible in child protection work: findings from research into day-to-day social work practice’ British Journal of Social Work, 47 (4), tt.1007-1023, doi:10.1093/bjsw/bcw065.

Ferguson, H. (2018) ‘How social workers reflect in action and when and why they don’t: the possibilities and limits to reflective practice in social work’, Social Work Education, 37 (4), tt. 415-427, doi:10.1080/02615479.2017.1413083.

Forrester, D., McCambridge, J., Waissbein, C. and Rollnick, S. (2008a) ‘How do child and family social workers talk to parents about child welfare concerns?’, Child Abuse Review, 17 (1), tt. 23-35, doi:10.1002/car.981.

Forrester, D., Kershaw, S., Moss, H. a Hughes, L. (2008b) ‘Communication skills in child protection: how do social workers talk to parents?’, Child & Family Social Work, 13, tt. 41-51, doi:10.1111/j.1365-2206.2007.00513.x.

Forrester, D., Westlake, D. a Glynn, G. (2012) ‘Parental resistance and social worker skills: towards a theory of motivational social work’, Child & Family Social Work, 17 (2), tt. 118-129, doi:10.1111/j.1365-2206.2012.00837.x.

Forrester, D., Wood, S., Waits, C., Jones, R., Bristow, D. a Taylor-Collins, E. (2022) Children's social services and care rates in Wales: A survey of the sector, Wales Centre for Public Policy, ar gael yn https://wcpp.org.uk/cy/cyhoeddi/gwasanaethau-cymdeithasol-plant-cymru/ (cyrchwyd: 26 Mehefin 2024).

Gofal Cymdeithasol Cymru (2023) Arolwg peilot o’r gweithlu - Adroddiad cyffredinol o’r canfyddiadau, ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/adroddiad-arolwg-y-gweithlu-2023 (cyrchwyd: 6 Chwefror 2024).

Hodges, H.R. a Bestow, D. (2019) Analysis of the factors contributing to the high rates of care in Wales, Wales Centre for Public Policy, ar gael yn https://wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2019/05/CYM-190725-Analysis-of-Factors-Contributing-to-High-Rates-of-Care-REVISED.pdf (cyrchwyd: 26 Mehefin 2024).

Humphreys, C. (1999) ‘Avoidance and confrontation: social work practice in relation to domestic violence and child abuse’, Child & Family Social Work, 4 (1), tt. 77-87, doi:10.1046/j.1365-2206.1999.00106.x.

Ingram, R. a Smith, M. (2018) Relationship-based practice: emergent themes in social work literature, Iriss, ar gael yn https://www.iriss.org.uk/resources/insights/relationship-based-practice-emergent-themes-social-work-literature (cyrchwyd: 26 Mehefin 2024).

Jones, R. (2014) The story of Baby P: setting the record straight, Bristol, Bristol University Press.

Lishman, J. (1988) ‘Social work interviews: how effective are they?’, Research, Policy and Planning, 5, tt. 1–5.

Llywodraeth Cymru (2014) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar gael yn https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/resources (cyrchwyd: 14 Mai 2024).

Llywodraeth Cymru (2022) Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022, ar gael yn https://www.llyw.cymru/plant-syn-derbyn-gofal-gan-awdurdodau-lleol-ebrill-2021-i-fawrth-2022-html?_gl=1*1f4ey0t*_ga*MzM3ODE5ODcxLjE3MDMwNTczMDg.*_ga_L1471V4N02*MTcyMTk3NjAwMC43MS4xLjE3MjE5NzYyOTYuMC4wLjA. (cyrchwyd: 26 Mehefin 2024).

van Nijnatten, C., Hoogsteder, M. a Suurmond, J. (2001) ‘Communication in care and coercion: institutional interactions between family supervisors and parents’, British Journal of Social Work, 31 (5), tt. 705-720, doi:10.1093/bjsw/31.5.705.

Nissen, M.A. ac Engen, M. (2021) ‘Power and care in statutory social work with vulnerable families’, Ethics and Social Welfare, 15 (3), tt. 279-293, doi:10.1080/17496535.2021.1924814.

ORS (2023, heb ei gyhoeddi) Agency workers’ motivations.

Park, N. a Peterson, C. (2006) ‘Character strengths and happiness among young children: content analysis of parental descriptions’, Journal of Happiness Studies, 7 (3), tt. 323-341, doi:10.1007/s10902-005-3648-6.

Robbins, R. a Cook, K. (2018) ‘“Don’t even get us started on social workers”: Domestic Violence, Social Work and Trust, An Anecdote from Research’, British Journal of Social Work, 48 (6), tt. 1664-1681, doi:10.1093/bjsw/bcx125.

Wilkins, D. ‘Child and family social work in Wales’, yn Livingston, W., Redcliffe, J., a Quinn Aziz, A. (gol.) (2023) Social Work in Wales, Bristol, Policy Press, tt. 95-104.

Whittaker, A. a Havard, T. (2016) ‘Defensive practice as “fear-based” practice: social work's open secret?’, British Journal of Social Work, 46 (5), tt. 1158-1174, doi:10.1093/bjsw/bcv048.