Mae galw cynyddol a mwy o gystadleuaeth am arian yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i allu dangos effaith eich gwaith caled.
Ond nid yw gwerthuso yn ymwneud ag atebolrwydd yn unig, dylai hefyd eich helpu i ddysgu, addasu a gwella eich gwasanaeth.
Er mwyn helpu i ddangos eich effaith a myfyrio ar eich dysgu, rydyn ni wedi cyflogi arbenigwr gwerthuso yn benodol i’ch cefnogi gyda phob agwedd o werthuso.
Does dim ots beth yw eich maes gwaith, gallwn eich cefnogi i gynnal gwerthusiadau effeithiol sy’n dangos effaith eich gwaith ac yn dangos y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i fywydau pobl.
Pam mae gwerthuso'n bwysig?
Mae gwerthuso effeithiol yn ein helpu i fesur effaith gwasanaeth neu ymyriad ac yn darparu tystiolaeth o'r newidiadau cadarnhaol yr ydych chi'n eu gwneud i fywydau pobl.
Gall hefyd ein helpu i ddysgu, trwy archwilio beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd angen ei newid a beth sy'n wirioneddol bwysig i bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaeth.
Mae gwerthuso'n bwysig ar gyfer atebolrwydd, tryloywder a dysgu, a gall helpu i gyfiawnhau penderfyniadau am gyllid ac adnoddau.
Ein cefnogaeth gwerthuso
Gallwn eich cefnogi ym mhob agwedd ar werthuso. Gallai hyn olygu eich helpu i ddeall y broses, eich cefnogi i adnabod y newidiadau yr ydych chi'n ceisio eu gwneud, neu archwilio pa ddulliau gwerthuso sydd orau i chi.
Rydyn ni'n datblygu pecyn cymorth i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd am ddim ac yn agored i bawb. Mae'n cynnwys:
- cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein hygyrch i ‘ddad-dirgelu’ gwerthuso
- cymorth gwerthuso un-i-un wedi'i deilwra ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Rydyn ni hefyd yn gweithio ar greu:
- fideos hyfforddi gwerthuso byr a bachog i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen
- adnoddau ac offer sy'n cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gynnal gwerthusiadau.
Sesiynau hyfforddi ar-lein
Ar y cyd â’n cydweithwyr yn DEEP rydyn ni wedi rhoi nifer o sesiynau at ei gilydd i helpu i ‘ddad-dirgelu’ gwerthuso a rhoi’r hyder i chi gynnal neu gomisiynu gwerthusiadau eich hun.
Mae ein hyfforddiant gwerthuso ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ond mae'n ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â meysydd fel rheoli prosiectau, perfformiad a gwelliant, ymchwil a datblygu, effaith a chyllid.
Mae pum sesiwn hyfforddi ym mhob cyfres.
- Dad-dirgelu gwerthuso: cyflwyniad.
- Defnyddio ‘stori newid’ i fesur effaith.
- Moeseg a gwerthuso.
- Cyflwyniad i werthuso economaidd.
- Creadigrwydd a chyfranogiad mewn gwerthuso.
Bachwch y cyfle!
Mae'r gyfres newydd o sesiynau hyfforddi yn cychwyn ar 20 Mawrth 2025.
Gallwch chi archebu lle yma: linc Eventbrite.
Nodwch mae nifer cyfyngedig o docynnau sydd gennym ni, felly mae'n well archebu cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle.
Cefnogaeth un i un ar gyfer eich cwestiynau gwerthuso
Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth un i un gydol y flwyddyn i helpu unigolion sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oresgyn heriau penodol yn ymwneud â gwerthuso.
Nid oes angen i chi fynychu un o’n sesiynau hyfforddi i gael mynediad at y cymorth hwn a byddwn ni'n gwneud ein gorau i helpu gyda pha bynnag her yr ydych chi'n ei hwynebu.
Mae’r cymorth hwn ar gael i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol sydd eisiau cymorth i ddatblygu, cynnal neu ddysgu am werthusiadau. Am ragor o wybodaeth am y gefnogaeth hon, anfonwch neges at ein Uwch arweinydd gwerthuso.