Tystion i niwed, dwyn i gyfrif: Gwella profiadau tystion sy’n gleifion, teuluoedd neu chydweithwyr o'r broses addasrwydd i ymarfer
Dyddiad diweddaru diwethaf: 3 Rhagfyr 2024
Roedd Hywel Dafydd, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoleiddio, yn rhan o grŵp cynghori ar y prosiect hwn. Gallwch ddarllen rhagor am rôl Hywel yn yr ymchwil a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o’r gwaith mewn blog mae wedi’i ysgrifennu ar gyfer y Grŵp Gwybodaeth.
Beth yw’r prosiect?
Yn y prosiect hwn, fe wnaeth ymchwilwyr cynnal astudiaeth dulliau cymysg gyda rheoleiddwyr iechyd a gofal y Deyrnas Unedig i brofiad y cyhoedd fel tystion mewn achosion rheoleiddio iechyd a gofal proffesiynol.
Mae dwy filiwn o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU sydd rhaid cael eu cofrestru gan reoleiddiwr. Os na fydd eu hymddygiad yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig, gall ymchwiliad cael ei chynnal.
Mewn rhai o’r achosion mwyaf difrifol, gall hyn gynnwys gwrandawiad cyhoeddus i benderfynu os ydyn nhw'n cael parhau i ymarfer.
Mae'r broses hon yn cael ei hadnabod fel addasrwydd i ymarfer.
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar bobl a oedd wedi’u niweidio gan unigolyn cofrestredig, am fod yr ymchwilwyr am wybod a oedd mynd drwy’r broses addasrwydd i ymarfer wedi effeithio ar sut roedden nhw'n teimlo, er gwell neu er gwaeth.
Pam y cafodd ei gyflawni?
Gall dystion i gamymddwyn cael eu galw i roi tystiolaeth ysgrifenedig neu lafar mewn achosion addasrwydd i ymarfer. Gall y rhain gynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr sy’n rhoi tystiolaeth yn achos niwed sylweddol maen nhw neu rywun arall wedi’i ddioddef, fel mewn achosion sy’n cynnwys cam-drin rhywiol, trais, aflonyddu, lladrad neu niwed clinigol parhaol.
Rydyn ni'n gwybod o’r ymchwil i ddioddefwyr sy’n rhoi tystiolaeth mewn llysoedd troseddol mewn achosion o niwed rhywiol bod yr ailadrodd a’r holi sy’n rhan o’r broses yn gallu bod yn brofiad ysgytwol.
Ond dydyn ni ddim yn gwybod cymaint am effaith cymryd rhan mewn achosion addasrwydd i ymarfer ar dystion sy’n gleifion, defnyddwyr gwasanaeth, teulu a chydweithwyr. Na sut maen nhw'n profi cefnogaeth gan y rheoleiddiwr, yr hyn sy’n fuddiol, ac ym mha ffordd y gall cymorth cael ei wella.
Mae’r cymorth hwn yn bwysig, oherwydd gall ailadrodd digwyddiadau trawmatig yn y gwrandawiadau hyn fod yn brofiad trallodus.
Ble a phryd cafodd y gwaith ei wneud?
Roedd y gwaith hwn yn digwydd ar hyd a lled y DU a chafodd ei gwblhau ym mis Chwefror 2024.
Pwy oedd yn rhan o’r gwaith?
Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol Agored, Prifysgol Metropolitan Manceinion, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Caerlŷr.
Cafodd ei ariannu drwy grant gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Roedd Gofal Cymdeithasol Cymru’n rhan o Grŵp Cynghori’r Rheoleiddwyr. Bu Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn adolygiad o bolisïau ar gyfer tystion sy’n agored i niwed a fframweithiau cyfreithiol, ac mewn digwyddiadau i rannu canlyniadau’r gwaith.
Gallwch ddarllen am gyfraniad Gofal Cymdeithasol Cymru mewn blog gan Hywel Dafydd, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoleiddio.
Beth maen nhw wedi’i ddysgu?
Fe wnaeth y tîm darganfod bod gwefannau’r rhan fwyaf o reoleiddwyr yn cynnwys gormod neu dim digon o wybodaeth, a’i bod yn rhy gymhleth, mewn fformatau anhygyrch, a’i bod yn gwneud y broses o lywio drwy’r wefan i gyflwyno pryder am weithiwr proffesiynol yn anodd.
Roedd y cyhoedd a oedd wedi’u niweidio ac a oedd wedi gwneud cwyn, ac yna wedi cymryd rhan mewn ymchwiliadau a gwrandawiadau, yn teimlo bod y broses ar y cyfan yn un feichus, maith, trallodus a siomedig.
Arweiniodd y gwaith ar gynhyrchu 20 o argymhellion, gyda llawer ohonyn nhw'n ymwneud â gwella sut mae rheoleiddwyr yn cyflawni eu prosesau ac yn cyfathrebu â’r cyhoedd i osgoi trallod ac aildrawmateiddio posibl. Roedd yr argymhellion hefyd yn ymdrechu i gynnal ymddiriedaeth mewn rheoleiddio a’r proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol.
Arweiniodd y gwaith ar greu cwrs OpenLearn am ddim ar ‘Gwella profiadau cleifion, teuluoedd a chydweithwyr sy'n dystion’ o achosion addasrwydd i ymarfer. Cynhyrchodd hefyd cyfres o animeiddiadau ar ‘Deall ffitrwydd i ymarfer’. Mae fideos hefyd sy’n adrodd storïau pobl sydd wedi cymryd rhan yn yr achosion hyn.
Sut i gysylltu
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Athro Louise Wallace yn y Brifysgol Agored.
Hoffai’r tîm a oedd yn gysylltiedig â’r prosiect gael adborth gan bobl sy’n defnyddio’r adnoddau cyhoeddus ac sy’n barod i gael eu cyfweld am eu hymarfer. Bydd unrhyw un sy’n cwblhau’r cwrs ac yn cytuno i gymryd rhan mewn arolwg neu gyfweliad am eu myfyrdodau arno’n cael cynnig tocyn anrheg am gymryd rhan.
Darganfod mwy
Contact name:
Yr Athro Louise Wallace