Dysgu o ymchwil i effaith anfwriadol achosion ffitrwydd i ymarfer ar dystion
Roedd Hywel Dafydd, Ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Rheoleiddio, yn rhan o’r grŵp cynghori rheoleiddio ar y prosiect ymchwil ‘Tystion i niwed’ o dan arweiniad y Brifysgol Agored. Yma, mae’n myfyrio ar y gwaith hwnnw.
Mae amser yn hedfan, ac mae’n anodd credu bod dros dair blynedd wedi mynd heibio ers inni gael ein gwahodd i fod yn rhan o brosiect ymchwil Tystion i niwed y Brifysgol Agored.
Aeth tîm yr ymchwil, o dan arweiniad yr Athro Louise Wallace gydag ymchwilwyr o bum prifysgol, ati i ddysgu mwy am brofiad y cyhoedd fel tystion mewn achosion rheoleiddio iechyd a gofal proffesiynol.
Pan fydd ymddygiad unigolyn cofrestredig yn gostwng yn is na’r safon ofynnol, gall ymchwiliad cael ei chynnal. Mae'r broses hon yn cael ei hadnabod fel addasrwydd i ymarfer.
Gellir galw ar dystion achosion o gamymddwyn i roi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer. Gall y rhain fod yn gleifion, pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth neu gydweithwyr sydd wedi cael eu niweidio gan ymddygiad yr unigolyn cofrestredig. Gall hyn gynnwys cam-drin rhywiol, lladrad neu niwed corfforol.
Mae’r prosiect ymchwil Tystion i niwed yn waith arloesol am mai dyma’r ymchwil aml-reolydd gyntaf i’r broses addasrwydd i ymarfer i gael ei ariannu’n annibynnol.
Mae tîm yr ymchwil wedi casglu ac ystyried ystod o dystiolaeth i weld a allai’r broses addasrwydd i ymarfer cael effaith anfwriadol ar dystion. Mae wedi gwerthuso’r ymyriadau sy'n cael eu defnyddio gan reoleiddwyr i roi sylw i’r niwed eilaidd posibl hwn.
Roedd yr astudiaeth yn ymdrechu i ganfod pa gymorth hoffai tystion ei gael a’r hyn sydd ar gael iddyn nhw. Edrychodd ar arferion gorau a gwelliannau posibl o ran sut mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â phrosesau addasrwydd i ymarfer, a cheisiodd creu argymhellion ymarferol ac adnoddau ar gyfer y cyhoedd, cyrff proffesiynol, cyflogwyr a rheoleiddwyr.
Roedd yn fraint gael cynrychioli Gofal Cymdeithasol Cymru drwy ymuno â grŵp cynghori rheoleiddwyr y prosiect, a hynny i bob pwrpas fel ‘cyfaill beirniadol’. Ein rôl oedd darparu cyngor a chymorth penodol o ran cyfleoedd ar gyfer datblygiadau posibl yn gysylltiedig â’r prosiect, ond hefyd i gynghori ar sut gallai’r gwaith effeithio ar bolisi ac arferion gweithio.
Rwy’n dweud ei bod yn fraint am fod hwn yn waith pwysig ar sawl lefel.
Gwarchod y cyhoedd
Yn gyntaf, un o brif nodau rheoleiddio proffesiynol yw gwarchod y cyhoedd. Mae unrhyw beth gallwn ni ei ddysgu gan y cyhoedd, yn enwedig rhai sydd wedi bod drwy’r broses, yn werthfawr iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio cyflawni ein dyletswydd gyfreithiol yn y ffordd orau bosibl.
Yn ail, er ein bod yn ymdrechu i warchod y cyhoedd, rydyn ni am wneud hynny mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, fel rheolydd tosturiol i bawb sy’n cael eu heffeithio. Mae hyn yn golygu trin pobl â pharch, caredigrwydd ac empathi, a hefyd drwy gadw at ein cyfrifoldebau proffesiynol.
Yn drydydd, i wella’n barhaus rhaid inni fyw yn ôl ein gwerthoedd sefydliadol o ddysgu gydol yr amser. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnig dysgu buddiol i’n helpu ni a phob rheolydd yn y system iechyd a gofal cymdeithasol i arloesi a gwneud yr hyn rydy ni'n ei wneud yn well.
Dysgu o’r ymchwil
Mae’n deg dweud bod y prosiect ymchwil hwn wedi cyd-fynd â’r cyfnod prysuraf yn ein hamser fel rheolydd, gyda’r Gofrestr broffesiynol yn tyfu o 12,000 i 60,000 rhwng 2018 a 2022. Ond mae hynny’n fwy o reswm byth inni i ganfod ffyrdd newydd o wneud y broses yn un fwy effeithiol, gan ei bod yn anorfod y bydd mwy o bobl yn mynd drwy’r broses addasrwydd i ymarfer fel tystion.
Fe wnaeth yr ymchwil darganfod bod llawer mwy gallwn ni ei wneud fel rheoleiddwyr i wella profiadau’r rhai sydd wedi bod yn dystion i niwed.
Er enghraifft, dangosodd yr ymchwil anawsterau o ran maint, cymhlethdod a hygyrchedd yr wybodaeth am addasrwydd i ymarfer ar wefannau’r rheoleiddwyr. Rydyn ni wedi cymryd hyn i ystyriaeth ac rydyn ni nawr yn y broses o ddiweddaru’r tudalennau addasrwydd i ymarfer ar ein gwefan.
Mae’r ymchwil hefyd wedi dangos bod yr aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cael eu niweidio ac sydd wedi cwyno, ac yna wedi cymryd rhan mewn ymchwiliadau a gwrandawiadau, yn teimlo bod y broses ar y cyfan wedi bod yn un feichus, maith, trallodus a siomedig.
Rydyn ni wedi dilyn cynnydd yr amrywiaeth o adnoddau sydd wedi’u cwblhau yn ystod y prosiect hwn, ac rydyn ni'n cymryd y canllawiau rheini i ystyriaeth.
Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio i leihau niwed i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan arferion gweithio gwael mewn gofal cymdeithasol, a hynny mewn ffordd dosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n ein helpu i gyflawni ein nodau i warchod y cyhoedd.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith hwn yn ein porwr prosiectau.
Mae’r cofnod yn y porwr prosiectau’n cynnwys dolenni at adnoddau sydd wedi’u creu o ganlyniad i’r ymchwil, yn ogystal â gwybodaeth am sut i gysylltu â thîm yr ymchwil.