Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2025: Crynodeb o ymatebion gan reolwyr
Dyma grynodeb o ymatebion i arolwg ‘Dweud eich Dweud’ y gweithlu 2025, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.
Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, a rheolwyr.
Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y rheolwyr.
Mae’r grŵp hwn o ymatebwyr yn cynnwys rheolwyr cartrefi gofal i oedolion (37 y cant), rheolwyr gofal cartref (37 y cant), rheolwyr gofal preswyl i blant (wyth y cant) a rheolwyr gofal cymdeithasol eraill (17 y cant).
Gallwch ddysgu rhagor am yr ymchwil a chael mynediad at yr adroddiad llawn yma.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r crynodeb hwn fel ddogfen Microsoft Word.
Demograffeg
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- yr oedran fwyaf cyffredin rhwng 55 a 59 oed
- 82 y cant yn fenywaidd a 17 y cant yn wrywaidd
- 90 y cant yn syth/heterorywiol
- 93 y cant yn Wyn
- 24 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 56 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd
- 36 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith
- 10 y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol
- 56 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg
- 96 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat.
- 41 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn aelod o UNSAIN/UNISON (25 y cant), neu y GMB (wyth y cant).
Recriwtio a chadw
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 48 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 13 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau, wyth y cant y byddai’n addas i’w sgiliau, ac aeth saith y cant i’w rôl o ganlyniad i brofiad personol gofalu am rywun. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm
- 51 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector a 21 y cant trwy swydd wedi’i hysbysebu ar-lein.
Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 60 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol
- 80 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd
- 39 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf
- 89 y cant o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, a 90 y cant o’r farn eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP
- 32 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa
- 70 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith.
Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu
Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y rheolwyr a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf.
- Gan reolwyr: Bwlio (saith y cant); dim digon o ymatebion i'r cwestiwn am wahaniaethu neu aflonyddu i allu adrodd yma.
- Gan gydweithwyr: Bwlio (saith y cant); does dim digon o ymatebion i'r cwestiwn am wahaniaethu neu aflonyddu i allu adrodd yma. O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan gydweithiwr, dywedodd 61 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr.
- Gan bobl maen nhw’n eu cefnogi neu eu teulu: Dim digon o ymatebion i'r cwestiwn am fwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu i allu adrodd yma.
Fe wnaethon ni ddarganfod hefyd bod 90 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig.
Cyflog, telerau ac amodau
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 80 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau
- 56 y cant wedi awgrymu eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 29 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, ac 14 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi'n ariannol
- 55 y cant naill ai yn ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, a naw y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws
- 32 y cant yn anfodlon â’u tâl.
Iechyd a llesiant
Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4. Mae’r rhain yn bedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gofnodi gwahanol fathau o lesiant personol ar raddfa o sero i 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn uwch na chyfartaledd y DU:
- Boddhad â bywyd: 7.58 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
- Mae bywyd yn werth chweil: 7.97 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
- Hapusrwydd ddoe: 7.41 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
- Gorbryder: 5.11 (Cyfartaledd y DU: 3.23)
Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod:
- bod 70 y cant yn teimlo’n saff yn eu rôl
- bod 72 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
- bod 50 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
- mai llwyth gwaith (50 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (41 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (26 y cant) oedd prif achosion straen
- bod 51 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref.
Amodau gweithio
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 84 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr
- 86 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr
- 73 y cant wedi awgrymu bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau
- 84 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo.
Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw.
Fe wnaethon ni ddarganfod bod:
- 79 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr
- 83 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr
- 86 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo
- 63 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner
- 44 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd.
Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Buckinghamshire New University, Bath Spa University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW).