Skip to Main content

Arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ y gweithlu 2025: Crynodeb o ymatebion gan weithwyr gofal

12 Tachwedd 2025
Byr

Dyma grynodeb o ymatebion i arolwg ‘Dweud eich Dweud’ y gweithlu 2025, a holodd weithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a beth maen nhw’n ei hoffi am weithio yn y sector.  

Mae’r adroddiad llawn yn rhannu’r canfyddiadau yn dri grŵp o swyddi – gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr. 

Mae’r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r prif ganfyddiadau am grŵp y gweithwyr gofal.  

Mae’r grŵp hwn o ymatebwyr yn cynnwys gweithwyr cartrefi gofal i oedolion (47 y cant), gweithwyr gofal cartref (34 y cant), gweithwyr gofal preswyl i blant (chwech y cant) a rolau gofal cymdeithasol eraill (13 y cant). 

Gallwch ddysgu rhagor am yr ymchwil a chael mynediad at yr adroddiad llawn yma.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r crynodeb hwn fel ddogfen Microsoft Word.

Demograffeg

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • yr oedran fwyaf cyffredin rhwng 55 a 59 oed
  • 78 y cant yn fenywaidd a 21 y cant yn wrywaidd
  • 90 y cant yn syth/heterorywiol 
  • 71 y cant yn Wyn, 18 y cant yn Ddu, ac wyth y cant yn Asiaidd
  • 24 y cant yn dweud bod ganddyn nhw gyflwr hirdymor sydd wedi para 12 mis neu fwy. O’r rhai â chyflwr hirdymor, dywedodd 60 y cant ohonyn nhw ei fod yn effeithio ar eu gweithredu o ddydd i ddydd 
  • 31 y cant yn awgrymu eu bod yn ofalwr y tu allan i’r gwaith 
  • 10 y cant yn dweud eu bod yn niwrowahanol 
  • 36 y cant yn dweud eu bod yn gallu siarad o leiaf ychydig o Gymraeg 
  • 21 y cant yn dweud eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser   
  • 91 y cant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n darparu gofal cymdeithasol, fel awdurdod lleol, corff trydydd sector neu gwmni preifat, ac pump y cant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth
  • 31 y cant yn dweud eu bod yn aelod o undeb llafur, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n aelod o UNSAIN/UNISON (21 y cant) neu’r GMB (pump y cant). 

Recriwtio a chadw

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 50 y cant wedi dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod am gael swydd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Teimlai 12 y cant y bydden nhw’n ei fwynhau, 10 y cant y byddai’n addas i’w sgiliau, ac aeth naw y cant i’w rôl o ganlyniad i brofiad personol gofalu am rywun. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un rheswm 
  • 52 y cant wedi dod i wybod am weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy ffrindiau a theulu sy’n gweithio yn y sector, 29 y cant trwy swydd wedi ei hysbysebu ar-lein, a 14 y cant trwy ffeiriau neu gwmnïau recriwtio 

Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 41 y cant eisiau rôl arwain yn y dyfodol 
  • 54 y cant o’r farn ei bod yn bosibl iddyn nhw ddod yn arweinydd 
  • 26 y cant wedi ceisio camu ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf 
  • 87 y cant wedi dweud bod ganddyn nhw ddigon o hyfforddiant i wneud eu swydd yn dda, ac 82 y cant eu bod yn cael digon o hyfforddiant i gyflawni gofynion DPP 
  • 48 y cant yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant i symud ymlaen yn eu gyrfa
  • 68 y cant yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw broblemau o ran cael gafael ar hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith. 

Bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu

Yma, rydyn ni’n cyflwyno canran y gweithwyr gofal a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu o wahanol ffynonellau yn y 12 mis diwethaf. 

  • Gan reolwyr: Bwlio (saith y cant), gwahaniaethu (saith y cant), aflonyddu (pedwar y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan reolwr, dywedodd 45 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr, a theimlai 25 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan gydweithwyr: Bwlio (saith y cant), gwahaniaethu (chwech y cant) aflonyddu (tri y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan gydweithiwr, dywedodd 56 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr, a theimlai 38 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol bod eu pryder wedi’i drin mewn ffordd foddhaol.
  • Gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu: Bwlio (pedwar y cant), gwahaniaethu (pedward y cant), aflonyddu (pump y cant). O’r rhai a ddywedodd eu bod wedi profi unrhyw un o’r rhain gan bobl maen nhw’n eu cynorthwyo neu eu teulu, dywedodd 76 y cant fod hwn wedi'i adrodd ganddyn nhw eu hunain neu gan gydweithiwr, a theimlai 42 y cant o’r rhai a ddywedodd fod y mater wedi'i godi ei fod wedi’i drin mewn ffordd foddhaol. 

Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod 66 y cant yn teimlo bod eu cyflogwr wedi gweithredu’n deg mewn penderfyniadau am symud ymlaen yn eu gyrfa a dyrchafu, yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig. 

Cyflog, telerau ac amodau

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 66 y cant yn hapus â’u telerau ac amodau 
  • 15 y cant yn cael eu cyflogi ar gontract dim oriau. O’r rhai a oedd ar gontract o’r fath, awgrymodd 63 y cant y byddai’n well ganddyn nhw fod ar gontract oriau sefydlog neu oriau rheolaidd 
  • 42 y cant yn teimlo eu bod yn ‘byw’n gyfforddus’ neu’n ‘gwneud yn iawn’ yn ariannol, 31 y cant ‘dim ond yn llwyddo o drwch blewyn i dalu am bopeth angenrheidiol’, a 24 y cant yn ei chael hi’n ‘eithaf’ anodd neu’n ‘anodd iawn’ ymdopi’n ariannol 
  • 47 y cant naill ai’n ei chael hi’n ‘llawer’ neu ‘ychydig’ yn fwy anodd ymdopi’n ariannol o gymharu â’r llynedd, a 14 y cant naill ai ‘ychydig’ yn haws neu’n ‘llawer’ haws 
  • 45 y cant yn anfodlon â’u tâl. 

Iechyd a llesiant

Fe wnaethon ni asesu llesiant y gweithlu gan ddefnyddio ONS4. Mae’r rhain yn bedwar mesur sy’n cael eu defnyddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gofnodi gwahanol fathau o lesiant personol ar raddfa o sero i 10. Cymharon ni’r ymateb cyfartalog o’r arolwg hwn gyda chyfartaledd y DU ar gyfer pob mesur. Mae pob un o’r canfyddiadau isod yn uwch na chyfartaledd y DU

  • Boddhad â bywyd: 7.88 (Cyfartaledd y DU: 7.45)
  • Mae bywyd yn werth chweil: 8.39 (Cyfartaledd y DU: 7.73)
  • Hapusrwydd ddoe: 7.88 (Cyfartaledd y DU: 7.39)
  • Gorbryder: 5.32 (Cyfartaledd y DU: 3.23) 

Gofynnon ni gwestiynau eraill am lesiant hefyd. Fe wnaethon ni ddarganfod: 

  • bod 84 y cant yn teimlo bod eu morâl yn dda 
  • bod 51 y cant yn teimlo eu bod yn cael trafferth peidio meddwl am y gwaith ar ôl gorffen
  • bod 42 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ddelio â straen
  • mai llwyth gwaith (31 y cant), gwaith papur neu faich gweinyddol (21 y cant), a phoeni am bethau’r tu allan i’r gwaith (24 y cant) oedd prif achosion straen
  • bod 46 y cant wedi awgrymu eu bod wedi mynd i’r gwaith o leiaf ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er eu bod mor sâl y dylen nhw fod wedi aros gartref. 

Amodau gweithio

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 71 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwr 
  • 79 y cant yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr 
  • 66 y cant yn teimlo bod ganddyn nhw’r staff cywir i ddarparu gwasanaethau 
  • 80 y cant yn teimlo eu bod yn gallu bodloni anghenion y bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cynorthwyo. 

Gofynnon ni hefyd faint yr oedd pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gwahanol grwpiau maen nhw’n rhyngweithio â nhw. 

Fe wnaethon ni ddarganfod bod: 

  • 64 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu rheolwr 
  • 76 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan eu cydweithwyr 
  • 81 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo 
  • 55 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan asiantaethau partner 
  • 53 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd. 

Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru gan ymchwilwyr yn Buckinghamshire New University, Bath Spa University, a chydweithwyr o Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW). 

Lawrlwytho'r adroddiad byr