Dilyniant ar gyfer grwpiau ethnig lleiafrifol o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru: canllaw ar gyfer y sector
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gellir cefnogi pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu yn eu gyrfaoedd.
Mae'r ymchwil hon yn unol â'r uchelgais y gall gweithwyr o bob cefndir ffynnu a datblygu o fewn amgylcheddau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn ystyried y materion sy'n ymwneud ag arferion gwrth-hiliol yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnig rhai atebion ymarferol i gyflogwyr i gefnogi cynnydd y rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol gwyn fel sipsiwn Roma a theithwyr.
Ein bwriad yw cefnogi pobl i ffynnu yn y gweithle, ac nid goroesi’n unig.
Mae’r ymchwil hwn wedi ei gynnal gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC), sy’n rhan o Brifysgol Oxford Brookes ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dilyniant ar gyfer grwpiau ethnig lleiafrifol o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru: canllaw ar gyfer y sector
Mae'r adroddiad hwn hefyd ar gael yn y Gymraeg | This report is also available in Welsh